Neidio i'r prif gynnwy

Mae Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan wedi ei gyflwyno i leihau’r risg o heintio yn dilyn achosion diweddar wedi’u cadarnhau yn Lloegr, meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw y Parth Atal i rym o 17:00 ar 11 Tachwedd 2020.
Dros y bythefnos ddiwethaf, bu canfyddiadau yn Lloegr o Ffliw Adran Pathogenig Iawn H5N8 mewn adar domestig a gwyllt.

Mae asesiad risg wedi’i gynnal gan filfeddygon Prydain Fawr sy’n dangos bod lefel y risg mewn adar gwyllt bellach yn Uchel. Mae’r risg sy’n gysylltiedig â throsglwyddo yn uniongyrchol ac anuniongyrchol i ddofednod wedi cynyddu i Ganolig.  

Er nad oes achos o Ffliw Adar yng Nghymru ar hyn o bryd, fel ymateb rhagofalus i’r lefel risg uwch, cyflwynwyd Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru Gyfan.

Bydd y Parth Atal yn cyflwyno mesurau bioamrywiaeth gwell gorfodol ledled Cymru ar gyfer pob ceidwad adar, er mwyn gwarchod eu hadar a’r haid cenedlaethol. Bydd yn ofynnol i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys:

  • Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt:
  • Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig rhag denu adar gwyllt;
  • Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar;
  • Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
  • Lleihau unrhyw halogi sy’n bodoli eisoes drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog.

Bydd gofyn i geidwaid gyda mwy na 500 o adar gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i fannau caeëdig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau.  

Wedi ei roi ar waith, bydd y Parth Atal yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Yn ychwanegol i’r Parth Atal bydd crynoadau adar yn cael eu hatal dros dro ledled Cymru.  

Meddai’r Gweinidog:

Fel mesur rhagofalus, mewn ymateb i’r cynnydd yn y risg ac i leihau’r risg o heintio, rwy’n datgan Parth Atal Ffliw Adar ar gyfer Cymru Gyfan.

Er nad oes achosion o Ffliw Adar yng Nghymru, bydd y Parth Atal hwn a’’r galw am fioddiogelwch gwell yn helpu inni reoli’r risg a lledaeniad yr haint. Mae’n hanfodol ein bod yn cymryd camau i warchod ein diwydiant dofednod, masnach ryngwladol a’r economi ehangach yng Nghymru.

Meddai’r Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop:

Rydym yn gweithredu’n gyflym mewn ymateb i’r canfyddiadau diweddar yn Lloegr ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn ofalus. Bydd angen i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio gyda gofynion gorfodol ychwanegol y Parth Atal Ffliw Adar. Mae’n bwysicach nag erioes bod ceidwaid adar yn sicrhau eu bod yn gwneud popeth y gallant i ymarfer y lefelau uchel o fioddiogelwch ac yn parhau i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r clefyd. Er mwyn cefnogi ceidwaid unigol yn eu hymdrechion, bydd Llywodraeth Cymru yn atal crynoadau adar ledled Cymru dros dro, gan atal y risg o’r feirws yn lledaenu ymhlith ein dofednod domestig ac adar caeth eraill.

Rwyf hefyd yn parhau i annog pob ceidwad dofednod yn gryf, hyd yn oed y rhai hynny sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hyn yn sicrhau y bydd rhywun yn cysylltu â hwy ar unwaith os bydd achosion o glefyd adar, gan eu galluogi i warchod eu haid cyn gynted â phosibl a lleihau lledaeniad yr haint.

Mae Ffilw Adar yn glefyd hysbysadwy a dylid hysbysu yr Asiantaeth iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) o unrhyw amheuon ar unwaith.