Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Hydref 2022.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ymgynghori ar fodel addas ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol (cyfres o safonau, canllawiau a chamau gweithredu) ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol. Rydym am:
- feithrin dealltwriaeth gyffredin o'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol
- cytuno ar fodel presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer Cymru
- deall yr hyn sy'n digwydd eisoes ledled Cymru, yr hyn sy’n gweithio'n dda a’r hyn nad yw’n gweithio cystal
- nodi pa gamau y gellir eu cymryd ‘unwaith i Gymru’
- helpu i sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol mewn ardaloedd lle nad ydynt yn bodoli neu lle mae angen eu datblygu ymhellach
- darganfod pa atebion technolegol y mae angen i ni eu datblygu
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei darllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
