Bydd datblygiad Tai Wales & West yn Colchester Avenue, ar y safle lle safai hen dafarn y Three Brewers, yn creu 50 o fflatiau newydd modern ac ynni-effeithlon, un a dwy ystafell wely, ym Mhen-y-lan, Caerdydd.
Bydd y fflatiau'n darparu llety cymdeithasol y mae mawr ei angen, ac yn cyfrannu at nod uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol erbyn 2026.
Bydd yno hefyd siop adwerthu ar y llawr gwaelod, yn ogystal â mannau parcio ceir a storio beiciau, a man amwynder cymunedol yn yr awyr agored ar gyfer y bobl a fydd yn byw yno.
Mae Tai Wales & West wedi cael dros £5 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru o dan y Grant Tai Cymdeithasol (SHG) i helpu i gyllido'r datblygiad.
Mae'r Grant Tai Cymdeithasol yn cael ei ddefnyddio i ariannu cynlluniau tai fforddiadwy gan yr awdurdodau lleol ac i adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd er mwyn helpu i fwrw'r targed a bennwyd ar gyfer tymor y llywodraeth hon.
Yn 2022/23, cafodd y gyllideb o £300 miliwn ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol ei gwario'n llawn. Mae swm arall o £300 miliwn ar gael ar gyfer 2023-24.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae tai fforddiadwy, ac yn fwy penodol, tai cymdeithasol fforddiadwy, yn dal i fod yn un o'n blaenoriaethau allweddol.
"Bydd y datblygiad newydd hwn yn darparu tai cymdeithasol y mae mawr eu hangen yng Nghaerdydd, a bydd hefyd yn hyrwyddo teithio llesol ac yn helpu pobl a theuluoedd i arbed arian ar eu biliau ynni.
"Mae Colchester Avenue yn enghraifft wych o'r math o gartrefi o ansawdd uchel, ynni-effeithlon a fforddiadwy rydyn ni'n ceisio'u darparu ar gyfer pobl a theuluoedd yng Nghymru."
Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i chwarae'n rhan ni i wella effeithlonrwydd ynni ein cartrefi er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a thlodi tanwydd.
"Mae'n holl gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu heb fod angen tanwyddau ffosil, ac mae hynny'n eu gwneud yn fwy cyfforddus a fforddiadwy ar gyfer ein preswylwyr. Maen nhw hefyd yn gartrefi sy'n isel o ran allyriadau.
"Mae'r cartrefi yn Three Brewers Court wedi cael eu hinswleiddio'n dda iawn, mae ynddynt bympiau gwres ffynhonnell aer i gynhesu dŵr, a hefyd y systemau awyru diweddaraf (MVHR) sy'n cylchredeg aer cynnes, ffres ac yn lleihau anwedd.
"Dyma rai o'r cartrefi newydd cynhesaf rydyn ni wedi'u hadeiladu ac maen nhw'n cyfrannu at osod y safon ar gyfer y cartrefi y byddwn ni'n mynd ati i'w hadeiladu yn y dyfodol."
Fel pob cartref newydd sy'n cael ei ariannu drwy'r Grant Tai Cymdeithasol, adeiladwyd Colchester Avenue mewn ffordd sy'n bodloni Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 (WDQR 2021), sy'n amlinellu'r safonau ansawdd gweithredol y mae gofyn i gartrefi fforddiadwy at anghenion cyffredinol, boed yn gartrefi newydd neu'n rhai wedi'u hadfer, eu bodloni.
Mae'r safon yn annog adeiladwyr i ddefnyddio dulliau adeiladu modern er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi, a gwireddu'r dyheadau sydd gan Lywodraeth Cymru o ran tai o ansawdd uchel sy'n isel o ran carbon.