Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi gwybodaeth wythnosol am brofion coronafeirws (COVID-19) a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y profion antigenau a awdurdodwyd drwy labordai gan gynnwys dadansoddiad yn ôl gweithwyr allweddol a phreswylwyr lle y mae gweithwyr allweddol yn cael eu cyflogi, ac ynglŷn ag amseroedd prosesu profion antigenau a nifer y profion gwrthgyrff a gynhelir ar gyfer gweithwyr allweddol a phreswylwyr.

Caiff profion coronafeirws (COVID-19) eu categoreiddio fel naill ai profion antigenau neu brofion gwrthgyrff. Defnyddir y prawf antigenau a elwir yn gyffredinol yn brawf swab, neu adwaith cadwynol polymerasau i brofi a yw person wedi’i heintio â’r coronafeirws ar hyn o bryd. Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Ni chynhwysir profion llif unffordd antigenau (megis y rhai sy'n cael eu defnyddio yn y canolfannau profi torfol ym Merthyr Tudful) yn y cyhoeddiad hwn. Os caiff person ganlyniad positif o brawf llif unffordd antigenau mae'n ofynnol iddo gwblhau prawf antigenau swab safonol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y data a gyflwynir. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran cefndir.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei chynnwys.

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau profi ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg ar ddiwedd y datganiad hwn, neu yn ein eglurhad am y data gan gynnwys beth sy’n cael ei gynnwys ym mhob un o’r categorïau lleoliad.

Yn ystod nos Wener 11 Rhagfyr, cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud. Ar ôl yr amser segur hwn, cafwyd cyfnod o gysoni a dilysu data sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffigurau yn y cyhoeddiad hwn. Efallai y bydd rhai newidiadau bach o hyd yn y niferoedd a gofnodwyd ar gyfer y dyddiadau hyn mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Mae tablau cysylltiedig â’r ddogfen hon i’w cael ar wahân, gan gynnwys yr holl ddata a ddangosir yn y ddogfen hon a data hanesyddol.

1. Prif ganlyniadau

  • Roedd y capasiti i gynnal profion antigenau yn labordai GIG Cymru yn 15,167 ar 13 Rhagfyr 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y capasiti profi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
  • Cynhaliwyd cyfanswm o 788,983 o brofion antigenau ar weithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol yng Nghymru.
  • Erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020, roedd 89,343 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru gyda 9,730 o ganlyniadau positif.

Yn yr wythnos ddiwethaf:

  • cafodd tua 67.2% o’r profion yr oedd angen eu prosesu’n gyflym eu cwblhau o fewn un diwrnod calendr*
  • cafodd 66.0% o brofion yn y gymuned a phrofion torfol ac 76.9% o brofion ysbytai a broseswyd yn labordai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod
  • cafodd 65.6% o’r profion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod*
  • cafodd 12.3% o brofion drwy’r porth sefydliadau a 20.9% o brofion cartref eu hawdurdodi mewn un diwrnod. (Gweler Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19) i gael rhagor o wybodaeth am gategorïau lleoliadau’r profion)

*Profion y mae gofyn eu prosesu’n gyflym yw’r samplau a gesglir mewn ysbytai ac mewn safleoedd profi cymunedol a phrofi torfol wyneb yn wyneb ac a brosesir yn labordai GIG Cymru, a samplau a gesglir mewn canolfannau profi cymunedol a brosesir mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

2. Profion antigenau

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Oherwydd y newid o’r amser cyhoeddi ar gyfer y datganiad ystadegol hwn, mae gwybodaeth fwy diweddar bellach ar gael ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth GIG. Ar gyfer yr wythnos hon yn unig, rydym wedi dileu'r siart a'r sylwebaeth arferol o'r adran hon a byddwn yn cynnwys hyn eto'r wythnos nesaf.

2.1 Amseroedd dychwelyd ar gyfer profion antigenau

Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae profion cymunedol wedi’u rhannu yn ôl gwahanol lwybrau, gan adrodd ar brofion a gynhelir oherwydd angen clinigol ar wahân i brofion a gynhelir er mwyn sgrinio unigolion sydd wedi’u nodi fel gweithwyr allweddol neu breswylwyr symptomatig.

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020. Hyd yn hyn, awdurdodwyd 67.2% o brofion torfol a chymunedol a gynhelir wyneb yn wyneb, 31.4% o brofion ategol, a 82.1% o brofion ysbyty o fewn un diwrnod.

Cyfran gronnol y profion antigenau a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020 (MS Excel)

Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae cyfran y profion a awdurdodir mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru wedi gostwng ar gyfer profi yn yr ysbyty, gostwng ar gyfer profi cymunedol a phrofi torfol a gostwng ar gyfer sgrinio unigolion asymptomatig.

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (7 Rhagfyr i 13 Rhagfyr 2020):

  • awdurdodwyd 10,335 o brofion fel rhan o raglen o brofion ategol i sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig. Cafodd 42.8% o’r canlyniadau eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gostwng o 9.8 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 9,225 o brofion fel rhan o’r rhaglen profi yn y gymuned a phrofi torfol, gyda 66.0% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gostwng o 12.3 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 10,180 brofion mewn ysbytai, gyda 76.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gostwng o 6.7 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (7 Rhagfyr i 13 Rhagfyr 2020) awdurdodwyd sy’n gostwng o 10 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol fel cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud.

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020. Dychwelwyd 19.8% o brofion porthol sefydliadau o fewn un diwrnod, dychwelwyd 26.7% o'r profion cartref mewn un diwrnod a dychwelwyd 71.6% o’r profion cymunedol mewn un diwrnod.

Cyfran gronnol y profion antigenau a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod ar ddiwedd 13 Rhagfyr 2020 (MS Excel)

Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020.	Yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae cyfran y profion a awdurdodir mewn un diwrnod calendr drwy labordai nad ydynt yn rhai GIG Cymru wedi gostwng ar gyfer y porth sefydliadau, gostwng ar gyfer profi cymunedol a gostwng ar gyfer profi gartref.

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru erbyn diwedd 13 Rhagfyr 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (7 Rhagfyr i 13 Rhagfyr 2020):

  • awdurdodwyd 22,933 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 12.3% yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr, sy’n gostwng o 10.0 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 10,048 o brofion cartref, gyda 20.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr, sy’n gostwng o 10.1 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 55,001 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 65.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr, sy’n gostwng o 32.4 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (7 Rhagfyr i 13 Rhagfyr 2020) awdurdodwyd sy’n gostwng o 10 pwynt canran o’i gymharu â’r wythnos flaenorol fel cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud.

Mae'r cynnydd mawr yn nifer y profion sy'n cael eu cynhyrchu o fewn 24 awr ar gyfer profion cymunedol a phrofion yn y cartref, yn adlewyrchiad gwir o'r system. Mae'r gwelliant hwn yn deillio'n bennaf o newidiadau i brosesau yn un o'r labordai goleudy.

Cafodd y gostyngiad o 27 Gorffennaf ymlaen yn yr amseroedd dychwelyd ar gyfer profion cartref a phrofion drwy’r porth sefydliadau y tu allan i GIG Cymru ei achosi wrth i’r galw am sgrinio fwy nag unwaith drwy’r DU fynd yn uwch, dros dro, na chyfanswm capasiti’r labordai Goleudy. Arweiniodd hyn at ôl-groniad dros dro yn y labordai, ac effeithiodd hynny yn ei dro ar amseroedd prosesu’r profion drwy’r sianeli hyn.

2.2 Gweithwyr hanfodol a phreswylwyr

Mae nifer y profion a gynhaliwyd fel rhan o’r rhaglen i brofi gweithwyr allweddol a thrigolion asymptomatig drwy labordai ategol wedi gostwng ers cychwyn mis Awst. Mae hyn yn cyd-daro â newid yn y polisi ar gyfer cynnal profion mewn cartrefi gofal, o brofi bob wythnos i brofi bob pythefnos. Mae’r cynnydd ers diwedd mis Medi yn adlewyrchu’r cynnydd yn nifer y profion, wrth i’r rhan fwyaf o ardaloedd symud nôl i brofi bob wythnos mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion a chyfraddau trosglwyddo.

Mae mwyafrif y profion ar gyfer sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr a brosesir drwy labordai GIG Cymru yn rhai ar gyfer cartrefi gofal (59.0%). Yn yr wythnos ddiweddaraf, ar gyfer staff cartrefi gofal yr oedd 68.5% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr allweddol asymptomatig. Caiff dadansoddiad ei ddarparu yn y tablau data cysylltiedig.

Yn yr wythnos 7 Rhagfyr i 13 Rhagfyr 2020:

  • cynhaliwyd tua 85.8% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal
  • cafwyd canlyniad positif i 15.1% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd

3. Profion gwrthgyrff

Mae dau fath o brawf gwrthgyrff i gael. Mae angen sampl gwaed er mwyn gwneud y ddau, ac ar hyn o bryd mae angen iddynt gael eu cynnal gan staff hyfforddedig. Ceir rhagor o wybodaeth am y profion hyn ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru sy’n trafod profion gwrthgyrff.

Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 13 Rhagfyr 2020, mae 20,271 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol neu breswylwyr mewn sefydliad addysgol a 48,274 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r strategaeth samplu bresennol o flaenoriaethu profion gwrthgyrff ar gyfer y gweithwyr allweddol a'r preswylwyr hyn. Mae'r data hyn yn cynnwys 13,247 o brofion llif unffordd.

Darparir manylion pellach yn y tablau data cysylltiedig.

Mae gwahaniaeth yn y math o brawf sy’n cael ei brosesu rhwng labordai Cymru a Lloegr, darllenwch yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn cynnig ciplun o’r sefyllfa a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Ar hyn o bryd, dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19) ar ein gwefan.

Os yw canlyniad prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.

4. Cefndir

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r datganiad ystadegol hwn yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.

Ers 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru, sydd wedi cael eu hadrodd ar wahân cyn hyn.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn cynnwys manylion yr amserlen adrodd.

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Caiff profion antigenau mewn labordai o ysbytai, profion torfol cymunedol a sgrinio pobl asymptomatig eu cynnal yn labordai GIG Cymru. Caiff profion antigen drwy’r porth sefydliadau (er enghraifft, cartrefi gofal), y porth cymunedau a phrofion cartref eu cynnal mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru (labordai goleudy).

Mae profion cymunedol a phrofion torfol yn cynnwys samplau a gesglir mewn canolfannau profi torfol, unedau profion cymunedol ac unedau profi symudol a phrofion sgrinio cyn llawdriniaeth. Nid yw’n cynnwys profion llif unffordd a gynhelir mewn safleoedd profi torfol.

Caiff mwyafrif o’r samplau a gesglir mewn canolfannau profi torfol eu prosesu yn labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd nifer o’r rhain yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (a elwir yn labordai goleudy).

Mae sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr asymptomatig mewn labordai ategol yn samplau a gesglir fel rhan o raglenni sgrinio gweithwyr allweddol cymunedol, megis profion i breswylwyr asymptomatig mewn cartrefi gofal. Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn, a gallai hyn arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld a yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld a oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio. Mae rhai byrddau iechyd lleol yn defnyddio profion llif unffordd erbyn hyn, sef profion gwrthgyrff drwy bigiad bys. Nid yw samplau’r profion hyn yn cael eu dadansoddi mewn labordy.

Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld eglurhad pellach am brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19).

Rhwng yr wythnosau sy'n dechrau ar 14 Medi a 12 Hydref, yn dilyn newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan Labordai nad sy’n rhan o GIG Cymru, roedd problemau o ran dyrannu data profi i wahanol lwybrau. Mae hyn bellach wedi'i ddatrys ac mae ateb parhaol ar waith sy'n cael ei adlewyrchu yn y data o'r wythnos sy'n dechrau ar 19 Hydref 2020. Roedd yr ateb dros dro a ddefnyddiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod y cyfnod yma yn gadarn, felly mae'r data'n gymharol.

Ni chynhwysir profion llif unffordd antigenau (megis y rhai sy'n cael eu defnyddio yn y canolfannau profi torfol ym Merthyr Tudful) yn y cyhoeddiad hwn. Os caiff person ganlyniad positif o brawf llif unffordd antigenau mae'n ofynnol iddo gwblhau prawf antigenau PCR safonol a fyddai'n cael ei gynnwys yn y data a gyflwynir. Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y profion yn gymesur â'r rhai sy'n mynychu'r ganolfan profi torfol a chynnydd yng nghyfran y canlyniadau positif oherwydd y tebygolrwydd uwch y bydd prawf yn dychwelyd canlyniad positif. 

Mae'n rhy gynnar i weld effaith profi torfol ym Merthyr Tudful (lle agorwyd y safle profi cyntaf ar 21 Tachwedd). Mae'r cynnydd mawr yn nifer y profion sy'n cael eu cynhyrchu o fewn 24 awr ar gyfer profion cymunedol a phrofion yn y cartref, yn adlewyrchiad gwir o'r system.

Yn ystod nos Wener 11 Rhagfyr, cynhaliwyd gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ymlaen llaw ar System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru (WLIMS) er mwyn caniatáu i ddiweddariadau hanfodol i wasanaeth gael eu gwneud. Fel y disgwyliwyd, mae hyn wedi effeithio ar lif data profion o’r WLIMS, felly ni chafodd ffigurau dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu diweddaru ddydd Sul 13 Rhagfyr.

Ddydd Llun 14 Rhagfyr, caiff ffigurau eu diweddaru ar gyfer y cyfnod o 1pm ddydd Gwener 11 Rhagfyr i 9am ddydd Sul 13 Rhagfyr, cyfanswm o 44 o oriau, fodd bynnag mae llif data profion o System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru wedi cael ei heffeithio yn ystod y cyfnod hwn. Ar ôl y cyfnod fel hwn pan na fydd y system yn weithredol, ceir cyfnod o gysoni a dilysu data ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn disgwyl gweld amrywiadau yn y niferoedd dyddiol a adroddir.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi newid ei ddigwydded 7 diwrnod diweddaraf o oedi o 37 o oriau o ddyddiad casglu’r sampl i’w gynnwys yn y mesur hwn hyd at 81 o oriau. Mae’r newid hwn yn caniatáu i ddata sy’n fwy cyson gyflawn gael eu cynnwys ac mae’n arwain at ffigur sy’n fwy manwl gywir ac felly caiff ei ddyblygu yn y data hyn. 

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 15 Rhagfyr oni nodir yn wahanol.

5. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y llwybr profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf:

  • mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy
  • gellir cynnal profion sgrinio mewn lleoliadau megis cartrefi gofal mewn sypiau o brofion ar gyfer gwahanol shifftiau staff cyn dychwelyd y profion i’r cludwr

Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf.

Caiff profion sgrinio cartrefi gofal a brosesir gan labordai GIG Cymru eu cynnwys yn y ffigurau sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig drwy labordai ategol.

Profion ategol yn bennaf yw’r profion a gynhelir fel rhan o’r rhaglen i sgrinio gweithwyr allweddol a phreswylwyr asymptomatig ac a awdurdodir yn labordai GIG Cymru. Fodd bynnag, gallai cyfran fach ohonynt fod yn brofion a gynhelir ar weithwyr allweddol wyneb yn wyneb mewn safleoedd profi. Profion ategol yw pan gaiff sampl ei gasglu mewn lleoliad gwahanol i’r ganolfan brofi, er enghraifft cartref gofal. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gynnal sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.

Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn gael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach. Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.

Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.

Mae’r math o brawf antigen (swab) a brosesir yn wahanol rhwng labordai yng Nghymru a labordai yn Lloegr. Mae'r math o brawf a brosesir drwy labordai yng Nghymru yn cynnwys 'un swab sych' sy'n cael ei gymryd o gefn y gwddf. Mae'r math o brawf o brosesir drwy labordai yn Lloegr yn cynnwys casglu samplau 'dau swab gwlyb' sy'n cael eu cymryd o'r trwyn a'r gwddf.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Y diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mercher. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 23 Rhagfyr 2020.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

6. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sian Cross
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Media: 0300 025 8099

SFR 238/2020