Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Tachwedd 2021.

Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad misol newydd hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, cafodd 1,238 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 51 yn fwy nag ym mis Hydref 2021. O’r rhain, roedd 248 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 7 o fis Hydref 2021. [Troednodyn a] [Troednodyn b]
  • Ar 30 Tachwedd 2021, roedd 7,238 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 162 ers 31 Hydref 2021. Roedd 1,791 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 63 ers 31 Hydref 2021. [Troednodyn b] [Troednodyn c]
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Tachwedd 2021, mae dros 17,300 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [Troednodyn a] [Troednodyn b]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Symudwyd 571 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 25 yn llai nag ym mis Hydref 2021. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 174 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 24 yn llai nag ym mis Hydref 2021. [Troednodyn d]

Cysgu allan

  • Ar 30 Tachwedd 2021, amcangyfrifwyd bod 101 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 31 o’r 132 unigolion a oedd yn cysgu allan ar 31 Hydref 2021. [Troednodyn e]
  • Ar 30 Tachwedd 2021, Caerdydd (24), Casnewydd (14), Sir Benfro (11), Caerffili (10), Powys (7) a Ceredigion (7) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 6 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda saith awdurdod lleol yn adrodd sero. [Troednodyn e]

Troednodiadau

[a] Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
[b] Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
[c] Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
[d] Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tan gyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
[e] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan, Tachwedd 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 13 KB

ODS
13 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.