Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n rhoi amcangyfrif o faint yr holl fentrau sy'n gweithredu yng Nghymru ar gyfer 2022.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod 253,800 o fentrau'n weithredol yng Nghymru, gan gyflogi tua 1.1 miliwn o bobl.
  • Roedd y rhan fwyaf o fentrau gweithredol yn fusnesau bach a chanolig eu maint gyda 0-249 o weithwyr. Roeddent yn cyfrif am 99.3% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru yn 2022. Roedd microfusnesau (0-9 o weithwyr) yn cyfrif am 94.7% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru.
  • Roedd 37.1% o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o fewn mentrau mawr (y rhai sydd â 250 neu fwy o weithwyr), o'i gymharu â 39.7% ar gyfer y DU cyfan.
  • Ers 2003 bu lleihad o 4.4 pwynt canran yng nghyfran y gyflogaeth mewn mentrau mawr.
  • Roedd tua 0.6% o fentrau byw yng Nghymru a pherchentyaeth tu allan i’r DU. Roedd y rhain yn cynrychioli 14.1% o’r gyflogaeth.
  • Roedd amrywiad sylweddol rhwng sectorau diwydiant, gyda swyddi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a pysgota wedi eu dominyddu gan ficrofusnesau (84.2%) a chyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu wedi eu crynhoi yn y band maint mwyaf (48.3%).

Adroddiadau

Dadansoddiad o faint y busnesau: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 728 KB

PDF
Saesneg yn unig
728 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Jack Tennant

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.