Mae adnodd dysgu ar-lein E-sgol, a sefydlwyd yn wreiddiol i gynorthwyo darpariaeth chweched dosbarth yng nghefn gwlad, bellach ar gael ledled Cymru gyda'r bartneriaeth e-sgol ddiweddaraf yn darparu cyrsiau yn ysgolion uwchradd Sir Fynwy.
Lansiwyd e-sgol yn 2018 a'i nod yw sicrhau bod dysgwyr yn gallu astudio pynciau na fyddent efallai wedi bod ar gael iddynt fel arall, gan gynnwys amrywiaeth o ieithoedd a throseddeg.
Mae E-sgol yn defnyddio technoleg fideo i gysylltu ystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn golygu y gall disgyblion o un ysgol ymuno â dosbarthiadau mewn ysgolion eraill o bell a chael mynediad at amrywiaeth ehangach o bynciau yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle i'w dosbarth e-sgol cyntaf yr wythnos hon, gan ymuno â gwers Sbaeneg yn Ysgol Cil-y-coed, sy'n rhannu'r ddarpariaeth hon ag Ysgol Gyfun Trefynwy.
Mae Ysgol Cil-y-coed yn rhan o bartneriaeth e-sgol newydd yn Sir Fynwy sy'n cynnwys pedair ysgol uwchradd: Cil-y-coed, Cas-gwent, y Brenin Harri a Threfynwy. Mae'r bartneriaeth yn golygu y gall disgyblion o'r ysgolion ymuno â sesiynau ar-lein gyda'i gilydd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae ysgolion yn parhau i ddatblygu a chynnig ffyrdd diddorol i bobl ifanc ddysgu. Mae ehangu'r rhaglen e-sgol yn ei gwneud yn bosibl i fwy o ddysgwyr astudio amrywiaeth o bynciau ac ehangu eu hopsiynau.
"Wrth siarad gyda phobl ifanc yn ysgol Cil-y-coed gallaf weld bod e-sgol yn ategu ffyrdd traddodiadol o ddysgu ac yn dod â dysgwyr o wahanol ysgolion at ei gilydd i fwynhau dysgu."
Yn wreiddiol, bwriad e-sgol oedd cefnogi myfyrwyr 14-16 oed, ond eleni mae ysgolion cynradd hefyd wedi gallu elwa ar e-sgol fel rhan o nifer o gynlluniau peilot.
Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys:
Cewri Cymru: Adnoddau sy'n rhoi sylw i unigolion adnabyddus sydd wedi manteisio i'r eithaf ar eu gallu i siarad Cymraeg. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyflwyniadau fideo o'r cewri, adnoddau darllen a deall a chyfarfodydd "byw" gyda'r cewri dan sylw. Mae mwy na 10,000 o ddysgwyr wedi elwa ar yr adnodd hwn hyd yma.
Yr E-steddfod: Cynhaliwyd wythnos o e-steddfodau rhwng ysgolion ar hyd a lled y wlad, gyda phob dysgwr yn cystadlu'n fyw o'u hysgolion i ennill pwyntiau. Cymerodd 15 o ysgolion cynradd a dros 500 o ddysgwyr ran.