Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud ag un agwedd allweddol ar Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru (CBC). Sef, ei effeithiolrwydd o ran paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch.

Mae’r gwerthusiad yn defnyddio methodoleg dulliau cymysg, gan gynnwys elfen feintiol wedi’i seilio ar setiau data presennol.

Mae’r gwerthusiad yn adrodd am ddau ganfyddiad allweddol ond cydgysylltiedig. Y cyntaf yw bod tystiolaeth gref i awgrymu bod CBC yn arbennig o werthfawr o ran helpu myfyrwyr i gael eu derbyn i addysg uwch. Mae’n ymddangos bod y budd hwn yn deillio’n bennaf o’r pwysoliad a roddir i elfen Craidd CBC fel cymhwyster cyfwerth â Safon Uwch ychwanegol (gradd A) ar gyfer (rhai) derbyniadau i brifysgolion.

Fodd bynnag, mae’r gwerthusiad hefyd yn canfod tystiolaeth sy’n awgrymu bod myfyrwyr sy’n meddu ar Craidd CBC yn llai tebygol o gyflawni canlyniad gradd ‘da’ na myfyrwyr cyfwerth nad ydynt yn meddu ar Craidd CBC, pan fyddant yn y brifysgol.

Adroddiadau

Cysylltiadau rhwng Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru ac addysg uwch , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 790 KB

PDF
Saesneg yn unig
790 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cysylltiadau rhwng Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru ac addysg uwch: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 377 KB

PDF
377 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Launa Anderson

Rhif ffôn: 0300 028 9274

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.