Neidio i'r prif gynnwy

Bydd camerâu’n dechrau ffilmio yng Nghymru unwaith eto, wrth i waith ar gynyrchiadau uchel eu proffil ddechrau, gan ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, wedi cyfnod anodd iawn i’r diwydiant ffilm a theledu ledled y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y cynyrchiadau yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru yn cynnwys y drydedd gyfres o’r ddrama deledu Keeping Faith / Un Bore Mercher, a gynhyrchir gan Vox Pictures ym Mae Caerdydd. Cafodd y gwaith cynhyrchu ei atal ym mis Mawrth, ond maen nhw’n gobeithio ailddechrau ffilmio yng Nghymru tua diwedd mis Gorffennaf. Dywedodd Adrian Bate o Vox Pictures:

“Cafodd y gwaith o ffilmio’r drydedd gyfres o Keeping Faith ei atal yng nghanol y cynhyrchiad ym mis Mawrth, ond rydyn ni’n llawn cyffro ein bod yn gallu ailddechrau ffilmio yng Nghymru ym mis Gorffennaf. Byddwn ni’n dilyn holl ganllawiau’r Llywodraeth, y ddeddfwriaeth a phrotocolau’r diwydiant. Mae’r cast a’r criw yn edrych ymlaen at ailddechrau ar y ffilmio, a bydd yn dda iawn gan ein ffans wybod ein bod yn gobeithio cyflwyno’r gyfres i S4C i’w darlledu yn hwyrach yn 2020, a bydd BBC Wales yn ei darlledu yn gynnar yn 2021.

Mae Cymru Greadigol wedi cyhoeddi canllawiau i egluro ymhellach y rheoliadau presennol yng Nghymru a sut maen nhw’n effeithio ar y diwydiannau creadigol.

Mae'r canllawiau'n cydnabod, fel rhan o ddull graddol o symud ymlaen, bod gwahanol rannau o'r diwydiannau creadigol wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau, a bydd rhai is-sectorau'n cymryd mwy o amser i ailddechrau nag eraill.  Mae ein canllawiau yn adlewyrchu hyn ac yn cyfeirio at adnoddau a gynlluniwyd i gefnogi dychweliad diogel i'r gwaith, yn unol â'r amserlenni hyn. Mae’r canllawiau yn cyfeirio pobl at adnoddau sydd â’r nod o’u helpu i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel. Mae hon yn ddogfen fyw a fydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd, yn unol ag adolygiadau Llywodraeth Cymru o'r rheoliadau bob 21 diwrnod a datblygiadau yn y diwydiant.

Bydd y gwaith o ffilmio’r drydedd gyfres o ddrama boblogaidd Netflix Sex Education a’r drydedd gyfres o A Discovery of Witches yn ailddechrau yn y misoedd nesaf. Dywedodd Kate Murrell o Eleven Film (Sex Education):

“Mae Eleven Film yn edrych ymlaen at ddod yn ôl i Gymru i ffilmio Sex Education 3. Ar ôl ffilmio Cyfres 1 a Chyfres 2 yno, dysgon ni fod Cymru yn lle gwych ar gyfer ein cynhyrchiad. Mae cyfuniad o’r criw lleol sydd ar gael, yr amrywiaeth eang o leoliadau a’r golygfeydd syfrdanol wedi’n denu ni yn ôl i ffilmio cyfres arall.

Roedd The Pembrokeshire Murders yn un o’r cynyrchiadau ffodus a gafodd ei orffen ychydig cyn i’r cyfyngiadau symud effeithio ar Gymru. Cafodd ei gynhyrchu gan World Productions, ac mae’r prif gymeriad yn cael ei chwarae gan yr actor o Gymru a seren Hollywood Luke Evans. Mae’r ddrama wir-drosedd hon gan ITV yn adrodd y stori o bedair llofruddiaeth heb eu datrys, a chwest un ditectif i sicrhau bod llofrudd yn wynebu’r gyfraith. Cafodd y cyfres gyllid gan Gymru Greadigol. Dywedodd Roderick Seligman o World Productions: 

“Roedden ni wrth ein boddau’n cael y cyfle i weithio ar The Pembrokeshire Murders a chydweithio gyda Severn Screen. Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru roedden ni’n gallu ffilmio’r holl gyfres yng Nghymru, a dangos y bobl fwyaf talentog yng Nghymru ar ddwy ochr y camera. Yn ogystal â’r saith wythnos o ffilmio, cafodd yr holl waith llun a sain ôl-gynhyrchu ei wneud yng Nghymru hefyd, yn Cinematic yng Nghaerdydd.

Roedd cynyrchiadau a lwyddodd i ddod i’r amlwg yn ystod y cyfyngiadau symud yn cynnwys Gangs of London gan Sky, gydag un o’r episodau’n cael ei ffilmio yn ne Cymru. Y gyfres oedd yr ail ddrama fwyaf i gael ei lansio gan Sky Atlantic erioed, a chafodd ei chreu gan y cynhyrchydd ffilmiau o Gymru, y mae ei ffilmiau wedi ennill gwobrau, Gareth Evans, a’i bartner creadigol Matt Flannery. Siaradodd Gareth am ffilmio rhannau o’r gyfres yng Nghymru, gan ddweud:

“Roeddwn ni wrth fy modd yn gallu gwneud gwaith mor uchelgeisiol ac mor fawr gartref, a dw i’n falch dros ben o’r canlyniad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth:

“Mae’r pandemig  wedi bod yn ergyd drom i’r diwydiannau creadigol. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi bod yn gweithio’n galed gyda’n rhanddeiliaid i ddeall yr effaith ac i ymateb yn gyflym. Heb os mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i’r diwydiant ffilm byd-eang, gan ddod â chynyrchiadau teledu ledled y byd i stop. Mae Sgrîn Cymru, gwasanaeth Cymru Creadigol sy’n darparu cymorth ymarferol a logisteg ar gyfer cynyrchiadau sy’n cael eu ffilmio yng Nghymru, wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn yr wythnosau diwethaf. Mae hyn yn dangos bod gobaith newydd y bydd y diwydiant yn adfer a mwynhau llwyddiant unwaith eto.