Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, wrth i Lywodraeth Cymru gynyddu momentwm yr ymgyrch tuag at Gymru sy’n rhydd rhag camwahaniaethu ac anghydraddoldeb, gofynnodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, i bobl Cymru wrando ar adroddiadau o hanes a threftadaeth cymunedau amlddiwylliannol yng Nghymru, a dysgu oddi wrthynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r mudiad presennol, Mae Bywydau Du o Bwys, wedi tynnu sylw at yr angen i addysgu pobl, ac i bobl fod yn ymwybodol o Hanes Pobl Dduon.

I gyd-fynd â lansio Hanes Pobl Dduon Cymru 365, sy’n ehangu Mis Hanes Pobl Dduon i Flwyddyn Hanes Pobl Dduon ar gyfer 2020-21, cyhoeddodd Jane Hutt fod £40,000 o gyllid yn cael ei fuddsoddi i helpu Race Council Cymru i addysgu pobl a hybu ymwybyddiaeth o Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.

Dywedodd Jane Hutt:

Rwy’n hynod o falch i gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu Race Council Cymru i hybu ymwybyddiaeth – a hynny drwy flwyddyn gyfan o weithgareddau celfyddydol ac addysgol ar gyfer Hanes Pobl Dduon Cymru 365.

Mae ehangu Mis Hanes Pobl Dduon i Flwyddyn Hanes Pobl Dduon ar gyfer 2020-21 yn gam cadarnhaol iawn. Yma yng Nghymru, mae ein hanes cyfoethog yn seiliedig ar wahaniaeth ac amrywiaeth. Bydd Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn helpu i rannu profiad a threftadaeth ein cymdeithasau amlddiwylliannol, a dathlu'r cyfraniadau a wneir yng Nghymru gan gymunedau du.

Dangosodd adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol Grŵp Cynghorol BAME y Prif Weinidog ar COVID-19 fod Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yng Nghymru yn hanesyddol wedi dioddef anghydraddoldebau sydd wedi’u hen sefydlu.

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein hymateb i adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol. Yn yr ymateb hwnnw, rydyn ni wedi addo sicrhau newid systemig a chynaliadwy i’n cymdeithas. Drwy gydweithio ag arweinwyr ac awdurdodau BAME, byddaf yn arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol cyn diwedd tymor y Senedd hon, er mwyn gweithredu a hyrwyddo newid gwirioneddol er budd pawb. 

Yn ogystal, roedd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi Cylch Gorchwyl  y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd heddiw.

Mae’r gweithgor yn adolygu’r adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi’r gwaith o addysgu’r themâu sy’n ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau BAME. Bydd y gweithgor hefyd yn rhoi cyngor ar gomisiynu adnoddau dysgu newydd. Ar ben hynny, fe fydd yn adolygu ac yn adrodd ar ddatblygiad proffesiynol i gefnogi’r gwaith o addysgu’r meysydd dysgu hyn.

Dywedodd Kirsty Williams:

Mae’r gweithgor mewn sefyllfa dda i roi ystyriaeth lawn i hanes, cyfraniadau a phrofiadau cymunedau BAME yn eu gwaith. Bydd y gweithgor hefyd yn cyflwyno argymhellion a fydd yn arwain at gomisiynu adnoddau dysgu cadarn ac ystyrlon, a chymorth adeiladol i ymarferwyr addysgu gynyddu eu sgiliau yn y maes dysgu pwysig iawn hwn.