Amcangyfrifon o weithgarwch economaidd o fewn gwledydd y DU a naw rhanbarth Lloegr ar gyfer Hydref i Ragfyr 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cynnyrch domestig gros rhanbarthol
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r ystadegau yn arbrofol ac mae anweddolrwydd y data chwarterol yn ei gwneud hi’n anodd dehongli newidiadau byrdymor.
Prif bwyntiau
- Cynyddodd gynnyrch domestig gros yng Nghymru 0.3% yn Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2018 o gymharu â Chwarter 3. Ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd roedd cynnydd o 0.2%.
- O ddeuddeg o wledydd a rhanbarthau'r DU, Cymru oedd â'r ail gynnydd mwyaf mewn allbwn yn Chwarter 4 2018.
- Roedd cynnydd yn wan yn y sectorau cynhyrchu (0.0%) a gwasanaethu (0.1%) ac yn gryfach yn y sector adeiladu (3.3%).
- Dros yr hir dymor, gwelodd Gymru gyfanswm cynnydd gynnyrch domestig gros o 2.3% yn 2018, o gymharu â 1.5% ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd.
- Dros y flwyddyn bu tyfiant cryf yn y sector adeiladu (17.0%), cynnydd o 1.9% yng ngwasanaethu a gostyngiad o 0.8% yng nghynhyrchu.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.