Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn 2023 a fydd yn gostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ar hyd a lled Cymru.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio fel ffyrdd y mae system o oleuadau stryd â lampau arnynt sydd wedi’u gosod ddim mwy na 200 llath ar wahân. Maent fel rheol wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig lle mae llawer o bobl yn cerdded yng Nghymru. Y terfyn cyflymder arferol ar ffyrdd o’r fath ar hyn o bryd yw 30mya, ond gall awdurdodau lleol ddefnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig i osod terfyn cyflymder arall mewn achosion priodol. 

Ar yr un pryd, cydnabyddir efallai nad yw terfyn cyflymder o 20mya yn briodol ar gyfer pob ffordd gyfyngedig ac felly mae ‘proses eithriadau’ wedi’i datblygu.

Mae’r ‘broses eithriadau’ yn awgrymu pryd nad yw terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig efallai yn addas, ar sail meini prawf ynghlwm â nifer y tai, ysgolion, canolfannau cymunedol a siopau sydd ar y ffordd. Gall awdurdodau lleol adolygu canlyniadau’r broses a phenderfynu cadw’r terfyn cyflymder presennol ar hyd rhai darnau o ffordd neu beidio.

Ymrwymiad o Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yw hwn ac mae’r potensial ganddo i gael effeithiau cadarnhaol, sylweddol ar iechyd pobl Cymru ac i gyflawni ar bob un o 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mewn trafodaeth yn y Senedd ym mis Gorffennaf 2020, roedd cefnogaeth drawsbleidiol i fwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ar broses diwygio terfynau cyflymder ac roedd mwyafrif mawr (45 o 53 o Aelodau’r Senedd) o blaid y cynnig.

Nid Cymru yw’r unig wlad sy’n ystyried terfynau o 20mya yn lle 30mya o fewn aneddiadau lle mae pobl y tu allan i gerbydau mewn perygl o ganlyniad i gyflymder cerbydau. Mae momentwm o blaid terfynau cyflymder o 20mya mewn mannau trefol a gwledig yn cynyddu mewn nifer o leoedd ar draws y byd, gan gynnwys yn yr Alban, lle y bydd yn disodli’r 30mya arferol erbyn 2025.

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2021 i geisio barn am y cynnig i ostwng terfynau cyflymder i 20mya. Roedd yr ymgynghoriad ar fynd tan ddiwedd Medi 2021 ac roedd ar gael ar-lein ac mewn print. Cafodd Llywodraeth Cymru 6,018 o ymatebion ar-lein yn ystod y cyfnod ymgynghori. Ar ôl tynnu 447 o ymatebion oedd wedi’u dyblygu a chynnwys 36 o ymatebion ychwanegol ar bapur (gan gynnwys 10 gan sefydliadau), dadansoddwyd cyfanswm o 5,607 ymateb. Mae’r canfyddiadau a drafodir yn yr adroddiad wedi’u seilio ar y sampl hon o’r ymgynghoriad. Cafwyd 16 cyflwyniad arall mewn gwahanol fformatau – yn bennaf gan sefydliadau a grwpiau. Nid yw adborth manwl gan sefydliadau wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn, ond mae crynodeb o farn sefydliadau i’w weld isod.

Ymatebodd un sefydliad ar gopi papur o ffurflen ymateb yr ymgynghoriad a darparodd ymateb ysgrifenedig mwy cynhwysfawr, felly dim ond unwaith mae wedi’i gyfrif yn y cyfanswm.

Roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i rai oedd â diddordeb yn y pwnc 20mya fynegi eu barn ond nid oedd yn arolwg ymchwil annibynnol. Roedd y sampl ar gyfer yr ymgynghoriad yn hunan-ddewisol (hynny yw, roedd pobl yn gwirfoddoli i gymryd rhan ac felly roeddent yn debygol o fod â barn gref am y pwnc) ac mae tystiolaeth wyddonol yn dangos y gall hyn arwain at duedd sylweddol mewn ymatebion (Bethlehem, J. 2010 Selection Bias in Web Surveys, International Statistical Review).

Mae gwahaniaethau nodedig felly i’w gweld mewn mannau rhwng ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymatebion i’r arolwg barn cyhoeddus a gynhaliwyd fis Tachwedd 2020 (lle’r oedd y sampl wedi’i strwythuro i gynrychioli poblogaeth gyffredinol Cymru).

Comisiynwyd Beaufort Research gan Lywodraeth Cymru i asesu agwedd y cyhoedd tuag at derfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn 2020. Cynhaliwyd arolwg o sampl gynrychioladol o 1,002 o oedolion ledled Cymru ym mis Tachwedd 2020 gan ddefnyddio arolwg Omnibws Cymru.

Mae’r rhain yn cael eu trafod yn yr adroddiad. Mae cyfeiriad hefyd at ganfyddiadau o ymchwil grwpiau ffocws a wnaed ym mis Medi 2021 mewn ardaloedd peilot lle mae’n berthnasol.

Yn haf 2021, dechreuodd y cam cyntaf o gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya mewn wyth cymuned yng Nghymru. Comisiynwyd Beaufort Research i gynnal ymchwil ansoddol ymysg trigolion mewn tair ardal (Saint-y-brid, Llandudoch a Gogledd Llanelli) ym mis Medi 2021 i ddeall barn trigolion am y gostyngiad i’r terfyn cyflymder ac i brofi dulliau creadigol, amgen am ymgyrch hysbysebu i hyrwyddo’r newid. Cynhaliwyd pedwar grŵp ffocws – tri gyda chyfuniad o drigolion ym mhob ardal a phedwerydd â thrigolion a oedd yn ddynion, oedd yn dweud eu bod yn erbyn y newid.

Barn am derfynau cyflymder 20mya 

Wrth ofyn yn yr ymgynghoriad am eu barn ar gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, roedd ychydig yn fwy o’r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu’r syniad nag oedd o’i blaid. Dywedodd 53% o ymatebwyr yr ymgynghoriad eu bod yn erbyn 20mya (47% ‘yn gryf yn erbyn’ a 6% ‘ychydig yn erbyn’), ac roedd 47% o blaid (41% ‘yn gryf o blaid’ a 6% ‘ychydig o blaid’).

Mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn dra gwahanol i ganfyddiadau’r arolwg barn cyhoeddus. Yn arolwg Omnibws Cymru, roedd dros wyth o bob deg o’r cyhoedd (81%) yn cefnogi gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ac roedd llai na dau ym mhob deg (17%) yn erbyn. Mae’n debyg bod y gwahaniaeth oherwydd y gwahanol ddulliau o samplo yn y ddwy broses – hunan-ddewisol oedd sampl yr ymgynghoriad, ond roedd sampl yr arolwg barn wedi’i strwythuro i gynrychioli poblogaeth gyffredinol Cymru, a oedd felly yn lleihau’r duedd gan rai oedd yn ymateb o ddewis.

Yn yr ymchwil ansoddol, roedd y rhai a gymerodd ran mewn dwy o’r tair ardal beilot yn gryf o blaid cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya yn eu cymuned, ond roedd yr ymateb yn fwy cymysg yn y drydedd ardal, lle’r oedd y terfyn cyflymder wedi’i ostwng yn fwy diweddar. Er hynny, beth bynnag oedd eu barn am y terfyn cyflymder 20mya newydd, roedd y rhai oedd yn rhan o’r grŵp ffocws yn cytuno ei bod yn hanfodol rheoli cyflymder cerbydau mewn ardaloedd preswyl ac roedd bron bob un eisiau cadw’r terfyn cyflymder o 20mya ar eu stryd o hynny ymlaen.

Rhesymau am gefnogi neu wrthwynebu i derfynau cyflymder o 20mya

Roedd y rheiny a oedd yn cefnogi 20mya yn yr ymgynghoriad yn tueddu i weld nifer o agweddau cadarnhaol i’r newid. Roedd y gefnogaeth fwyaf brwd ynghlwm ag agweddau’n ymwneud â diogelwch cerddwyr a beicwyr, lleihau nifer y damweiniau angheuol/difrifol a gwella ansawdd bywyd.

Wrth gymharu’r canlyniadau hyn â’r arolwg barn cyhoeddus (ar ôl ail-seilio data’r ymgynghoriad ar y sampl gyfan), roedd y patrwm ymateb yn debyg, ond roedd y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn llawer mwy tebygol na’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad o gefnogi rhai o agweddau cadarnhaol y newid, er enghraifft, gwell diogelwch i gerddwyr, llai o ddamweiniau difrifol ar y ffyrdd, plant yn gallu chwarae’n fwy diogel a gwell diogelwch i feicwyr.

Nid oes unrhyw ddata ar gael ar gyfer y datganiad hwn yn yr ymgynghoriad.

Roedd nifer o’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad oedd yn erbyn y newid hefyd yn pwysleisio effeithiau negyddol posib’ 20mya, yn enwedig siwrneiau hirach, mwy o dagfeydd traffig a chythruddo gyrwyr. Wrth gymharu canlyniadau’r ymgynghoriad â chanlyniadau’r arolwg, roedd llawer mwy’n cytuno â’r holl effeithiau negyddol ynghlwm â therfynau cyflymder o 20mya, oherwydd y lefelau uwch o wrthwynebiad yn sampl yr ymgynghoriad.
 

Fe wnaeth ymatebwyr o’r grŵp ffocws oedd yn byw yn y tair ardal beilot dynnu sylw at nifer o agweddau cadarnhaol yr oeddent wedi sylwi arnynt ers gostwng y terfyn cyflymder yn eu cymunedau. Y prif fanteision a gafodd eu crybwyll oedd traffig mwy araf, gwell diogelwch i gerddwyr, manteision amgylcheddol, gwell ymdeimlad o les, llai o sŵn traffig ac, yn un gymuned, mantais economaidd bosib’ i fusnesau lleol.

Fe wnaeth rhai o ymatebwyr o’r grŵp ffocws hefyd leisio rhai pryderon. Roeddent yn ymwneud yn bennaf â diffyg gorfodaeth a rhai gyrwyr ddim yn cadw at y terfyn cyflymder newydd. Roedd rhai’n teimlo bod pobl yn anwybyddu’r terfyn newydd o 20mya ac felly nad oedd yn gweithio. Weithiau, roedd enghreifftiau’n cael eu rhoi am ei effaith negyddol ar yrru (er enghraifft, achosi i rai yrru’n rhy agos at gefn ceir eraill). Cytunai’r rhai oedd yn erbyn y newid bod terfynau cyflymder o 20mya yn angenrheidiol ond y dylent gael eu defnyddio mewn ardaloedd lle’r oedd y risg fwyaf, er enghraifft, ger ysgolion.

Effeithiau terfynau cyflymder o 20mya 

Dywedodd y rhan fwyaf a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad na fyddai eu harferion yn newid pe bai’r terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn cael ei ostwng i 20mya. Dywedodd tua un o bob tri a ymatebodd i’r ymgynghoriad y byddent yn cerdded ac yn beicio neu reidio sgwter yn amlach pe bai terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno.

Mae hi werth nodi bod yr un gyfran hefyd wedi dweud y byddent yn gyrru car yn fwy aml. 

Er hynny, roedd y gyfran a ddywedodd y byddent yn defnyddio mwy ar gludiant cyhoeddus yn is (tua un o bob saith). Er bod y cwestiwn wedi’i ofyn mewn ffordd wahanol yn yr ymgynghoriad, roedd y canlyniadau’n debyg iawn i rai’r arolwg barn o ran yr effaith gadarnhaol ddisgwyliedig ar arferion cerdded a beicio.

Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn yr arolwg yn canolbwyntio ar feicio ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at sgwteri.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn i bobl a fyddai terfyn cyflymder o 20mya yn cael effaith gadarnhaol ar rai grwpiau penodol o fewn y boblogaeth. Roedd tua hanner y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn rhagweld effaith gadarnhaol i’r newid i bobl hŷn a rhai sydd â namau corfforol a nam ar y synhwyrau, a thua pedwar o bob deg yn teimlo y byddai manteision i ferched beichiog.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn ceisio barn bobl am effaith gostwng y terfyn cyflymder ar wahanol fathau o fusnesau. Roedd y safbwyntiau’n eithaf cyfartal ynglŷn ag a fyddai’r effaith yn gadarnhaol neu’n negyddol i fusnesau lleol y “stryd fawr” ac i gwmnïau cynnal a chadw ffyrdd a chyfleustodau. Fodd bynnag, roedd cyfran uwch o ymatebwyr yr ymgynghoriad yn rhagweld effaith negyddol yn fwy na chadarnhaol ar fusnesau a ddefnyddiai’r ffyrdd ar gyfer mynediad neu ddanfoniadau.

Y safbwynt sefydliadol

Nid yw adborth manwl gan sefydliadau a grwpiau wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn. Ond o’r ymatebion a gafwyd gan sefydliadau, roedd bron i bob un (22 o 25) yn gyffredinol gefnogol o gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Ymatebodd un sefydliad ar gopi papur o ffurflen ymateb yr ymgynghoriad a darparodd ymateb ysgrifenedig mwy cynhwysfawr, felly dim ond unwaith mae wedi’i gyfrif yn y cyfanswm.

Y prif resymau am gefnogi’r newid oedd bod arafu cerbydau’n gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn lleihau’r perygl o wrthdrawiadau ac anafiadau difrifol/marwolaethau; mae’n gwella diogelwch trigolion, cymunedau ac yn enwedig plant a’u gallu i chwarae; mae’n cefnogi ac yn annog teithio llesol, drwy annog mwy i gerdded a beicio; mae’n creu cymdogaethau brafiach i fyw ynddynt ac yn gwella cydlyniant cymdeithasol; yn gysylltiedig â hyn mae’n fanteisiol i iechyd y cyhoedd drwy leihau problemau iechyd meddwl fel unigrwydd ac annog mwy o ymarfer corff; mae’n lleihau llygredd yn yr aer a llygredd sŵn; ac mae’n dod â buddion economaidd i’r stryd fawr drwy gynyddu nifer y cwsmeriaid a gwariant.

Fe wnaeth y rhai oedd yn erbyn y cynnig leisio’r safbwyntiau canlynol: teimlid nad oedd newidiadau cyffredinol i bob ardal o 30mya i 20mya yn effeithiol i leihau nifer yr anafiadau ac annog pobl i deithio’n llesol; roedd pryder y byddai’r newid yn ychwanegu at effeithiau niweidiol newid hinsawdd; ac y gallai arwain at ganlyniad difwriad lle na fyddai plant yn cymryd cymaint o ofal wrth groesi’r ffordd ag y maent ar hyn o bryd gyda therfyn cyflymder o 30mya.

Barn y sefydliad a oedd yn ymateb yw hyn. Mewn gwirionedd, 20mya yw’r terfyn arferol ond byddai modd gosod eithriadau fel y disgrifir uchod.

Casgliadau

Nid oedd yr ymgynghoriad yn arolwg o sampl gynrychioladol o’r boblogaeth ac, o ganlyniad, ni ellir cymryd bod y canfyddiadau’n cynrychioli barn y cyhoedd yng Nghymru’n gyffredinol. Mae llawer o duedd mewn adborth o ymgynghoriadau cyhoeddus gan fod y rhai sy’n dewis cymryd rhan i roi eu barn yn aml â barn gref am y pwnc. Mae hyn i’w weld yn y gwahaniaeth nodedig yn y lefelau o gefnogaeth i’r terfyn o 20mya rhwng yr arolwg barn cyhoeddus (arolwg ymchwil annibynnol o sampl gynrychioladol o boblogaeth Cymru) a’r ymgynghoriad cyhoeddus (lle’r oedd y sampl yn rhai oedd wedi dewis cymryd rhan). Roedd 81% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg o blaid gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ac 17% yn erbyn, o gymharu â 47% o blaid a 53% yn erbyn yn yr ymgynghoriad.

O ran cefnogaeth neu wrthwynebiad y cyhoedd i’r syniad yn y DU yn fwy cyffredinol, mae pob arolwg blaenorol o sampl gynrychioladol wedi gweld llawer o gefnogaeth i 20mya ar strydoedd preswyl a strydoedd prysur.

Cefndir

Ar 7 Mai 2019, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn y Senedd:

Rydym ni’n gwybod bod parthau 20mya yn arafu traffig, yn gostwng nifer y damweiniau – yn enwedig damweiniau i blant – ac rydym ni eisiau gweld hynny fel yr arferiad ledled Cymru.

Yn dilyn hyn, ffurfiwyd Grŵp Tasglu 20mya Cymru ar gyfarwyddyd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ym mis Mai 2019.

Cyhoeddodd y Grŵp Tasglu 20mya adroddiad ym mis Hydref 2020: Adroddiad Grŵp Tasglu 20mya Cymru, oedd yn cynnwys 21 o argymhellion i gyflwyno terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig.

Mae ffyrdd cyfyngedig yn cael eu diffinio fel ffyrdd y mae system o oleuadau stryd â lampau arnynt sydd wedi’u gosod ddim mwy na 200 llath ar wahân. Maent fel rheol wedi’u lleoli mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru lle mae llawer o bobl yn cerdded. Y terfyn cyflymder arferol ar gyfer ffyrdd o’r fath ar hyn o bryd yw 30mya, ond gall awdurdodau lleol ddefnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig i osod terfyn cyflymder arall mewn achosion priodol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai nad yw terfyn cyflymder o 20mya yn briodol ar gyfer pob ffordd gyfyngedig yng Nghymru, ac felly mae ‘proses eithriadau’ wedi’i datblygu. 

Mae’r ‘broses eithriadau’ yn awgrymu pryd nad yw terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig efallai yn addas, ar sail meini prawf ynghlwm â nifer y tai, ysgolion, canolfannau cymunedol a siopau sydd ar y ffordd. Gall awdurdodau lleol adolygu canlyniadau’r broses a phenderfynu cadw’r terfyn cyflymder presennol ar hyd rhai darnau o ffordd neu beidio.

Cynhaliwyd trafodaeth yn y Senedd ar 15 Gorffennaf 2020 a arweiniodd at bleidlais i gefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i gychwyn ar y broses o ddiwygio’r terfyn cyflymder. Roedd cefnogaeth drawsbleidiol i hyn gyda mwyafrif mawr (45 o 53 Aelod o’r Senedd) o blaid y cynnig.

Yn hydref 2020, comisiynodd Llywodraeth Cymru Beaufort Research i asesu agwedd y cyhoedd tuag at gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Cynhaliwyd arolwg ym mis Tachwedd 2020 ymysg sampl o 1,002 o oedolion 16 oed a hŷn oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru, gan ddefnyddio Omnibws Cymru Beaufort. Mae’r canlyniadau wedi cael eu cyhoeddi: Arolwg o Agweddau’r Cyhoedd at Orchmynion Traffig a Therfynau Cyflymder 20mya Astudiaeth Omnibws Cymru.  

Lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2021 i geisio barn am y cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru. Roedd yr ymgynghoriad yn cyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth yn cefnogi manteision terfynau is ar ffyrdd cyfyngedig i ddiogelwch ffyrdd a chymunedau ledled Cymru.

Yn yr un cyfnod, crëwyd a chofrestrwyd deiseb gyda Deisebau’r Senedd i atal Llywodraeth Cymru rhag cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar bob ffordd gyfyngedig.

Barn y deisebwyr yw hon. Mewn gwirionedd, 20mya yw’r terfyn arferol ond byddai modd gosod eithriadau fel y disgrifir uchod.

Roedd yn datgan y dylai terfynau cyflymder gael eu gosod gan awdurdodau lleol ac na ddylent fod yn 20mya ond lle bo angen. Ar y dyddiad cau (14 Hydref) roedd 161 o bobl wedi’i lofnodi ac mae bellach yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Deisebau.

Yn haf 2021, dechreuodd y cam cyntaf o gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya mewn wyth cymuned yng Nghymru. Roedd Llywodraeth Cymru’n dymuno deall barn trigolion oedd yn byw mewn ardaloedd peilot ar ostwng y terfyn cyflymder a phrofi dulliau creadigol amgen i hyrwyddo’r newid.

Felly, comisiynwyd Beaufort Research gan asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru, Golley Slater, i gynnal ymchwil ansoddol ymysg trigolion yr ardaloedd peilot. Saint-y-brid (Bro Morgannwg), Llandudoch (Sir Benfro) a Gogledd Llanelli (Sir Gaerfyrddin). Cynhaliwyd pedwerydd grŵp ffocws gyda thrigolion gwrywaidd o Saint-y-brid a Gogledd Llanelli a oedd yn dweud eu bod ‘ychydig’ neu ‘yn gryf’ yn erbyn y fenter (wedi’u labelu fel ‘gwrthwynebwyr’).

Yn fwy diweddar, mewn cyfarfod gyda’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ym mis Hydref 2021, roedd cefnogaeth unfrydol mewn egwyddor gan holl arweinwyr ac Aelodau Cabinet Cludiant y Cynghorau i’r cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru yn 2023.

Mae newid i derfyn cyflymder arferol o 20mya yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r potensial ganddo i gael effeithiau cadarnhaol, sylweddol ar iechyd pobl Cymru ac i gyflawni ar bob un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Nid yw’r gyfres o gamau uchod wedi digwydd fel menter unigol sy’n cael ei datblygu gan Gymru’n unig. Mae momentwm o blaid terfynau cyflymder o 20mya mewn mannau trefol a gwledig yn cynyddu mewn nifer o leoedd ar draws y byd. Mae i’w weld mewn nifer o wledydd incwm uchel, o Ogledd America, Awstralia, i Ewrop. Stockholm oedd un o’r dinasoedd cyntaf i gyflwyno terfyn cyflymder arferol o 20mya (30kmya). Mae hefyd yn cynnwys rhai dinasoedd o Affrica. Mae Sefydliad Iechyd y Byd o’r Cenhedloedd Unedig a’r Sefydliad ar gyfer Datblygiad Economaidd a Diwylliannol (OECD – grŵp o 38 o wledydd sy’n aelodau, sy’n trafod a datblygu polisi economaidd a chymdeithasol) yn cefnogi 20mya yn rhan o ymagwedd fyd-eang at systemau diogel i sicrhau diogelwch ar y ffyrdd. (Sefydliad Iechyd y Byd, 2017. Managing Speed. Genefa: Sefydliad Iechyd y Byd) (Fforwm Rhyngwladol Trafnidiaeth/OECD, 2018 Speed and Crash Risk. Paris: OECD ). Cafodd hyn fwy o gefnogaeth gan y 3edd Gynhadledd Weinidogol Fyd-eang ar Ddiogelwch Ffyrdd a gynhaliwyd yn Stockholm yn 2020 (Datganiad Stockholm) a oedd yn cytuno i fandadu terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd mewn ardaloedd lle mae defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed a cherbydau’n cymysgu’n aml ac mewn ffordd wedi’i chynllunio.

Cychwynnodd y diddordeb mewn terfynau cyflymder 20mya arwyddion-yn-unig yn y DU oddeutu’r flwyddyn 2000. Roedd yr Alban ar flaen y gad. Yn 2001, wrth dreialu terfynau cyflymder o 20mya mewn 78 o safleoedd yn yr Alban, gwelwyd llai o gyflymder ac anafiadau, ac fe ostyngodd y nifer oedd wedi’u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol o 20% o’r cyfanswm i 14%. Casglodd adroddiad yr Ymgynghorydd bod terfynau cyflymder o 20mya yn opsiwn rhad i hybu diogelwch ar y ffyrdd (Burns, A., Johnstone, N., Macdonald, 2001 20 mph speed reduction initiative. Uned Ymchwil Gweithrediaeth yr Alban, Caeredin). Roedd canlyniadau arolwg o agweddau’n dweud bod bron i dri chwarter yr ymatebwyr yn ystyried bod yr arbrawf wedi bod yn ‘llwyddiannus iawn’ neu’n ‘rhannol lwyddiannus’. Mae’n debyg bod yr Alban yn mynd i ddilyn Cymru i newid i 20mya fel y terfyn cyflymder arferol mewn aneddiadau yn lle 30mya. Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) a Phlaid Werdd yr Alban yn hydref 2021 yn cynnwys ymrwymiad y bydd terfyn cyflymder mwy diogel o 20mya ar bob ffordd briodol mewn ardaloedd adeiledig erbyn 2025 (Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth yr Alban a Grŵp Seneddol Plaid Werdd yr Alban).

Mae hyn yn dilyn tystiolaeth o Ororau’r Alban lle newidiodd y rhan fwyaf o aneddiadau o derfynau cyflymder 30mya i 20mya yn ystod y pandemig. Mae data o arolygon cyflymder cyn ac ar ôl y newid i 20mya yn dangos gostyngiadau parhaus ac ystadegol arwyddocaol i gyflymder (Fountas, G. et al, 2021 Quantifying the effectiveness of 20mph speed limits in  rural areas: empirical evidence from the Scottish Borders area, 10th International Symposium on Travel Demand Management and TInnGO and DIAMOND’s final conference: TDM Symposium 2021).

Amcanion

Comisiynwyd Beaufort Research gan Lywodraeth Cymru i ddadansoddi ac adrodd ar ganlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn haf 2021 ar y cynnig i gyflwyno terfyn cyflymder arferol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

I roi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn mewn cyd-destun, maent wedi’u cymharu â chanfyddiadau o ddwy astudiaeth ymchwil annibynnol a gynhaliwyd dros y flwyddyn ddiwethaf: yr arolwg barn cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cymru fis Tachwedd 2020; ac ymchwil grwpiau ffocws a wnaed mewn tair ardal beilot ym Medi 2021.

Dull

Lansiwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar 9 Gorffennaf a daeth i ben ar 30 Medi 2021.

Gallai’r ymatebwyr gwblhau’r ymgynghoriad cyhoeddus drwy ffurflen ar-lein (gweler Atodiad I) neu lawrlwytho’r ffurflen o wefan Llywodraeth Cymru a dychwelyd copi papur drwy radbost. Roedd fersiynau print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill o’r ddogfen ar gael ar gais hefyd.

Cafodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o 6,018 o ymatebion ar-lein rhwng 9 Gorffennaf a 30 Medi. Roedd hyn yn cynnwys nifer o ymatebion lluosog o’r un cyfeiriad IP. Fe gafodd y ffeil ddata (heb gynnwys data personol) ei darparu i Beaufort Research i’w glanhau a’i dadansoddi. Lle’r oedd ymatebion lluosog gan yr un cyfeiriad IP, roedd y rhain yn cael eu cwtogi i ddau wrth ddadansoddi, i atal cyfrif dwbl. O ganlyniad, cafodd 447 o ymatebion dyblyg eu tynnu, a oedd yn lleihau’r cyfanswm ar-lein i 5,571.

Roedd data pen agored a ddarparwyd mewn ymateb i’r cwestiwn terfynol (C18) wedi’i godio gan Beaufort fel bod modd dadansoddi’r data’n gyfeintiol. Mae’r rhain wedi’u cynnwys mewn dogfen o dablau data ar wahân.

Derbyniwyd 36 o ymatebion ychwanegol fel copïau caled gan ddefnyddio fersiwn PDF neu Word o ffurflen ymateb yr ymgynghoriad ac mae data o’r rhain wedi’i integreiddio i’r canlyniadau cyfeintiol. Ymatebion gan unigolion oedd y rhain i raddau helaeth, ond maent hefyd yn cynnwys ymatebion gan y 10 sefydliad/grŵp canlynol: 20s Plenty for Us, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Tref yr Wyddgrug, Cymdeithas Ddinesig Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Chwarae Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Tref Saltney, Cyngor Cymuned Tawe Uchaf a Threlawnyd a Gwaenysgor.  

Y cyfanswm terfynol mae’r adroddiad yn ymdrin ag o’n gyfeintiol felly yw 5,607 o ymatebion i’r ymgynghoriad.

Ynghyd â hyn, derbyniwyd 16 o gyflwyniadau mewn fformat gwahanol (heb ddefnyddio ffurflen ymateb yr ymgynghoriad), oedd felly ddim yn gallu cael eu cynnwys yn y set ddata gyfeintiol. Roedd y rhain yn bennaf gan sefydliadau a grwpiau. Y rhai a atebodd fel hyn oedd: Ymgyrch 20s Plenty Sili, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, Cyngor Sir Ceredigion, Comisiynydd Plant Cymru, IAM RoadSmart, Living Streets Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (yn ehangu ar sylwadau a wnaed yn ffurflen ymateb yr ymgynghoriad), Peter Price, Cyngor Tref Penarth, Grŵp Plaid Cymru CBS Castell-nedd Port Talbot, Pupils 2 Parliament, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Sustrans, CLlLC a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Nid yw adborth manwl gan sefydliadau a grwpiau wedi’i gynnwys yn yr adroddiad hwn. Ond o’r ymatebion a gafwyd gan sefydliadau, roedd bron i bob un (22 o 25) yn gyffredinol gefnogol o gynnig Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru.

Ymatebodd un sefydliad ar gopi papur o ffurflen ymateb yr ymgynghoriad a darparodd ymateb ysgrifenedig mwy cynhwysfawr, felly dim ond unwaith mae wedi’i gyfrif yn y cyfanswm.

Y prif resymau am gefnogi’r newid oedd bod arafu cerbydau’n gwella diogelwch ar y ffyrdd ac yn lleihau’r perygl o wrthdrawiadau ac anafiadau difrifol/marwolaethau; mae’n gwella diogelwch trigolion, cymunedau ac yn enwedig plant a’u gallu i chwarae; mae’n cefnogi ac yn annog teithio llesol, drwy annog mwy i gerdded a beicio; mae’n creu cymdogaethau brafiach i fyw ynddynt ac yn gwella cydlyniant cymdeithasol; yn gysylltiedig â hyn mae’n fanteisiol i iechyd y cyhoedd drwy leihau problemau iechyd meddwl fel unigrwydd ac annog mwy o ymarfer corff; mae’n lleihau llygredd yn yr aer a llygredd sŵn; ac mae’n dod â buddion economaidd i’r stryd fawr drwy gynyddu nifer y cwsmeriaid a gwariant.

Fe wnaeth y rhai oedd yn erbyn y cynnig leisio’r safbwyntiau canlynol: teimlid nad oedd newidiadau cyffredinol i bob ardal o 30mya i 20mya yn effeithiol i leihau nifer yr anafiadau ac annog pobl i deithio’n llesol.

Barn y sefydliad a oedd yn ymateb yw hyn. Mewn gwirionedd, 20mya yw’r terfyn arferol ond byddai modd gosod eithriadau fel y disgrifir uchod.

Roedd pryder y byddai’r newid yn ychwanegu at effeithiau niweidiol newid hinsawdd; ac y gallai arwain at ganlyniad difwriad lle na fyddai plant yn cymryd cymaint o ofal wrth groesi’r ffordd ag y maent ar hyn o bryd gyda therfyn cyflymder o 30mya.

Y cyd-destun

Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru’n gyfle i rai oedd â diddordeb yn y pwnc o derfynau cyflymder 20mya fynegi eu barn ond nid oedd yn arolwg ymchwil. Roedd y sampl ar gyfer yr ymgynghoriad yn hunan-ddewisol (hynny yw, roedd pobl yn gwirfoddoli i gymryd rhan ac felly roeddent yn debygol o fod â barn gref am y pwnc) ac mae tystiolaeth wyddonol yn dangos y gall hyn arwain at duedd ddifrifol mewn ymatebion (Bethlehem, J. 2010 Selection Bias in Web Surveys, International Statistical Review). Mae gwahaniaethau nodedig felly i’w gweld mewn mannau rhwng ymatebion i’r ymgynghoriad ac ymatebion i’r arolwg barn cyhoeddus a gynhaliwyd gan Beaufort Research fis Tachwedd 2020 (lle’r oedd y sampl wedi’i strwythuro i gynrychioli poblogaeth gyffredinol Cymru).

Comisiynwyd Beaufort Research gan Lywodraeth Cymru i asesu agwedd y cyhoedd tuag at derfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn 2020. Cynhaliwyd arolwg o sampl gynrychioladol o 1,002 o oedolion ar hyd a lled Cymru ym mis Tachwedd 2020 gan ddefnyddio arolwg Omnibws Cymru.

Mae’r rhain yn cael eu trafod yn yr adroddiad. Mae cyfeiriad hefyd at ganfyddiadau o ymchwil â grwpiau ffocws a wnaed ym mis Medi 2021 mewn ardaloedd peilot lle bo hynny’n berthnasol.  

Yn haf 2021, dechreuodd y cam cyntaf o gyflwyno’r terfyn cyflymder arferol o 20mya mewn wyth cymuned yng Nghymru. Comisiynwyd Beaufort Research i gynnal ymchwil ansoddol ymysg trigolion mewn tair ardal (Saint-y-brid, Llandudoch a Gogledd Llanelli) ym mis Medi 2021 i ddeall barn trigolion am y gostyngiad i’r terfyn cyflymder ac i brofi dulliau creadigol, amgen am ymgyrch hysbysebu i hyrwyddo’r newid. Cynhaliwyd pedwar grŵp ffocws – tri gyda chyfuniad o drigolion ym mhob ardal a phedwerydd â thrigolion a oedd yn ddynion, oedd yn dweud eu bod yn erbyn y newid.

O ran cefnogaeth neu wrthwynebiad y cyhoedd i’r syniad yn y DU, mae pob arolwg blaenorol o sampl gynrychioladol wedi gweld llawer o gefnogaeth (62%-89%) yn gyson i 20mya ar strydoedd preswyl28 29 30 31 32 33 34 35 ac ar strydoedd prysur, e.e. y stryd fawr (72%). Mae arolygon sampl yn cynnwys:

  • Atkins, 2010. Interim Evaluation of the Implementation of 20mph speed limits in Portsmouth. Ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth. Llundain: yr Adran Drafnidiaeth
  • Cyngor Dinas Bryste, 2012. 20MPH Speed Limit Pilot Areas. Monitoring Report. Bryste: Cyngor Dinas Bryste
  • Yr Adran Drafnidiaeth 2012, British Social Attitudes Survey 2011. Llundain: yr Adran Drafnidiaeth
  • Tapp, A., Nancarrow, C. 2014 20mph speed limits: attitudes and behaviours compared for GB, Bristol, established 20mph cities and towns, and non-20mph cities and towns. Prifysgol Gorllewin Lloegr Bryste
  • Cyngor Dinas Caeredin, 2013. South Central Edinburgh 20mph Limit Pilot Evaluation South
  • Robinson, J., Newman, N. 2016. 20mph Research – Purpose, Methodology and Early Findings. Astudiaeth ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth. Cyflwyniad yn Ninas Llundain, Chwefror
  • Pilkington, P., Bornioli, A., Bray, I., Bird, E. 2018. The Bristol Twenty Miles Per Hour Limit Evaluation (BRITE) Study, Bryste: Prifysgol Gorllewin Lloegr
  • Cyngor Calderdale, 2018. Report to Scrutiny Panel. 20mph speed limits. Halifax: Cyngor Calderdale

Yn ogystal â hynny, mewn arolwg ar gyfer Cyngor Dinas Bryste, cafwyd bod cefnogaeth yn parhau i gynyddu ar ôl cyflwyno’r terfyn 20mya. Gwelwyd hyn mewn arolwg yn 2017 o dri arolwg ymysg oedolion o Brydain a gynhaliwyd gan YouGov a oedd yn cynnwys ‘hwb’ i sampl dinas Bryste.

Canfyddiadau'r ymgynghoriad

Pryderon am ffyrdd a diogelwch ffyrdd

Towards the beginning of the consultation response form respondents were prompted with a list of different issues relating to roads, transport and road safety in their area and were asked how concerned they were, if at all, about each.  

Tua dechrau ffurflen ymateb yr ymgynghoriad, roedd rhestr o wahanol faterion yn ymwneud â ffyrdd, cludiant a diogelwch ffyrdd yn ardal yr ymatebwyr a gofynnwyd iddynt pa mor bryderus roeddent, os o gwbl, am bob un.

Roedd o leiaf hanner yr ymatebwyr yn pryderu i ryw raddau am bob un o’r materion (gweler ffigur 1 dros y ddalen). Y materion oedd yn peri’r pryder mwyaf oedd:

  • plant yn rhan o ddamwain (74% yn bryderus a 52% yn ‘bryderus iawn’)
  • ceir neu gerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym ger ysgolion (70% yn bryderus a 45% yn ‘bryderus iawn’)
  • ceir neu gerbydau eraill sydd wedi’u parcio ar balmentydd (64% yn bryderus a 40% yn ‘bryderus iawn’)
  • ceir neu gerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym o amgylch ardaloedd lle mae llawer o gerddwyr (62% yn bryderus a 42% yn ‘bryderus iawn’)
  • ceir neu gerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym yn gyffredinol (59% yn bryderus a 39% yn ‘bryderus iawn’)
  • ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i bobl â namau (59% yn bryderus a 35% yn ‘bryderus iawn’)
  • ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i feicwyr (54% yn bryderus a 34% yn ‘bryderus iawn’).

Roedd y farn yn fwy rhanedig ar y materion canlynol:

  • anodd croesi’r ffordd yn ddiogel (50% yn bryderus ond 49% ddim yn bryderus iawn/o gwbl)
  • ansawdd aer gwael/allyriadau cerbydau (50% yn bryderus ond 47% ddim yn bryderus iawn/o gwbl)
  • dim digon o gyfleusterau ar gyfer beicio (50% yn bryderus ond 47% ddim yn bryderus iawn/o gwbl)

Ffigur 1: Pa mor bryderus ydych chi am y materion canlynol lle’r ydych chi’n byw?

 

Pryderus iawn

Eithaf pryderus

Ddim yn bryderus iaw Ddim yn bryderus o gwbl

Ddim yn gwybod/heb ymateb

Plant yn rhan o ddamwain

52% 22% 13% 10% 3%

Ceir/cerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym ger ysgolion

45% 25% 15% 13% 2%
Ceir/cerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym 

o amgylch ardaloedd lle mae llawer o gerddwyr

42% 20% 22% 16% 0%

Ceir/cerbydau eraill sydd wedi’u parcio ar balmentydd

40% 24% 19% 17% 0%

Ceir/cerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym yn gyffredinol

39% 20% 20% 20% 0%

Ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i bobl â namau

35% 24% 20% 16% 4%

Ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i feicwyr

34% 20% 19% 26% 2%

Dim digon o gyfleusterau beicio

30% 20% 17% 30% 3%

Ansawdd aer gwael/allyriadau cerbydau

29% 21% 20% 27% 2%

Anodd croesi’r ffordd yn ddiogel

28% 22% 24% 25% 1%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Roedd yr un cwestiwn wedi’i gynnwys yn yr arolwg barn cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020 (heb gynnwys ambell agwedd newydd a ychwanegwyd at ffurflen yr ymgynghoriad).

Y rheiny oedd: Plant yn rhan o ddamwain; Ceir/cerbydau sy’n gyrru’n rhy gyflym o amgylch ardaloedd lle mae llawer o gerddwyr; Ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i bobl â namau

Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn dilyn patrwm tebyg i ganlyniadau’r arolwg ond roedd lefel y pryder ynglŷn â phob mater yn yr ymgynghoriad yn tueddu i fod yn uwch (gweler ffigur 2 isod). Yr eithriad oedd ceir sy’n gyrru’n rhy gyflym yn gyffredinol, lle mynegodd cyfran lai o ymatebwyr yr ymgynghoriad bryder (59%) na chyhoedd Cymru yn yr arolwg (68%).

Ffigur 2: Pa mor bryderus ydych chi am y materion canlynol lle’r ydych chi’n byw?

Cymhariaeth o ymatebion i’r ymgynghoriad a’r arolwg barn cyhoeddus
  Canran yn dweud 'diogel iawn / gweddol ddiogel' mewn ymatebion i'r ymgynghoriad Canran yn dweud 'diogel iawn / gweddol ddiogel' mewn ymatebion i'r arolwg barn gyhoeddus

Plant yn rhan o ddamwain

74%

Heb ei ofyn

Ceir/cerbydau eraill sy’n gyrru’n rhy gyflym ger ysgolion

71% 64%

Ceir/cerbydau sydd wedi’u parcio ar balmentydd

63% 60%
Cars / vehicles driving too fast around areas where there are lots of pedestrians 61%

Heb ei ofyn

Ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i bobl â namau

60%

Heb ei ofyn

Ceir/cerbydau sy’n gyrru’n rhy gyflym yn gyffredinol

59% 68%

Ffyrdd nad ydynt yn ddiogel i feicwyr

54% 49%

Ansawdd aer gwael/allyriadau cerbydau

51% 44%

Anodd croesi’r ffordd yn ddiogel

50% 44%

Dim digon o gyfleusterau beicio*

50% 43%

Sail: ymatebwyr i’r ymgynghoriad (5,607); ymatebwyr i arolwg Omnibws Cymru (1,002).

Sylwer* wedi’i eirio ar ffurf ‘Dim digon o lonydd beicio’ yn yr arolwg barn cyhoeddus.

Gofynnwyd wedyn i ymatebwyr i’r ymgynghoriad pa mor ddiogel roedden nhw’n teimlo wrth ddefnyddio ffyrdd at wahanol ddibenion lle’r oedden nhw’n byw. Mae ffigur 3 isod yn dangos canran yr ymatebwyr oedd yn teimlo’n ddiogel ac yn anniogel wrth wneud pob gweithgaredd. 

Dywedodd y rhan fwyaf helaeth o’r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad eu bod yn teimlo’n ddiogel iawn neu’n eithaf diogel wrth gerdded yn eu hardal leol (79%) ac wrth groesi’r ffordd (75%). Roedd bron i chwech o bob deg (57%) yn teimlo’n ddiogel wrth gerdded neu feicio i arhosfan bysiau neu orsaf drenau, ond roedd llai na phedwar o bob deg (38%) yn teimlo’n ddiogel wrth feicio ar ffyrdd lleol. A dweud y gwir, roedd bron gymaint o ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn dweud eu bod yn teimlo’n anniogel (35%) wrth feicio ar ffyrdd lleol ag oedd yn teimlo’n ddiogel wrth wneud hynny (38%).

Roedd un o bob pedwar o’r rheiny a ymatebodd i’r ymgynghoriad (24%) yn teimlo’n anniogel wrth groesi’r ffordd ac yn cerdded/beicio i’r arhosfan bysiau neu’r orsaf drenau, ac roedd un o bob pump (20%) yn dweud eu bod yn teimlo’n anniogel wrth gerdded yn eu hardal leol.

Ffigur 3: Pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo wrth wneud y canlynol ble rydych chi’n byw?

  Canran yn dweud diogel /diogel Canran yn dweud ddim yn ddiogel iawn / ddim yn ddiogel 

o gwbl

Cerdded yn eich ardal leol

79% 20%

Croesi’r ffordd

75% 24%
Cerdded/beicio i’r arhosfan bysiau neu’r orsaf 57% 24%

Beicio ar ffyrdd lleol

38% 35%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Gofynnwyd yr un cwestiwn i’r cyhoedd yn arolwg Omnibws Cymru ym mis Tachwedd 2020. Roedd canlyniadau’r arolwg yn debyg iawn, er i gyfran ychydig yn llai o ymatebwyr yr arolwg ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn beicio ar ffyrdd lleol (gweler ffigur 4 isod).

Ffigur 4: Pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo wrth wneud y canlynol ble rydych chi’n byw?

Cymharu ymatebion i'r ymgynghoriad ag arolwg barn y cyhoedd
  Canran yn dweud 'diogel iawn / gweddol ddiogel' mewn ymatebion i'r ymgynghoriad Canran yn dweud 'diogel iawn / gweddol ddiogel' mewn ymatebion i'r arolwg barn gyhoeddus

Cerdded yn eich ardal leol

79% 78%

Croesi’r ffordd

75% 75%

Cerdded/beicio i’r arhosfan bysiau neu’r orsaf

57% Heb ei ofyn

Beicio ar ffyrdd lleol

38% 34%

Sail: ymatebwyr i’r ymgynghoriad (5,607); ymatebwyr i arolwg Omnibws Cymru (1,002).

Barn am derfynau cyflymder 20mya

Roedd y cwestiwn cyntaf yn yr ymgynghoriad cyhoeddus yn gofyn a oedd yr ymatebwyr yn teimlo bod angen gostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig. Atebodd ychydig dros hanner y rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ‘Nac ydw’ (51%), o gymharu â 46% yn dweud ‘Ydw’ a 3% yn ateb ‘Ddim yn gwybod’ neu heb ateb.

Ffigur 5: Ydych chi’n teimlo bod angen lleihau terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig?

  Ydw Nac ydw

Ddim yn gwybod / heb ateb

Ydych chi’n teimlo bod angen lleihau terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig? 46% 51% 3%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Roedd gwahaniaeth barn nodedig yn ôl grŵp oedran yn amlwg, a’r ymatebwyr iau (34 oed ac iau) yn llawer mwy tebygol o ateb ‘Nac ydw’ na phobl hŷn. Nid oedd y rhan fwyaf o rai 44 oed ac iau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad yn teimlo bod angen gostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig, ond fel arall yr oedd hi ymysg ymatebwyr 45 oed a hŷn (gweler Tabl 1 isod):

Tabl 1: Ydych chi’n teimlo bod angen lleihau terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig?

Grŵp oedran Ydw Nac ydw Ddim yn gwybod/heb ateb
16 i 24 19% 81% 0%
25 i 34 30% 68% 1%
35 i 44 46% 53% 1%
45 i 65 50% 48% 3%
Dros 65 59% 37% 4%
Cyfanswm 46% 51% 3%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Yn nes ymlaen yn ffurflen ymateb yr ymgynghoriad, dywedwyd wrth yr ymatebwyr bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu gostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, sydd yn gyffredinol wedi’u lleoli mewn cymunedau preswyl ac ardaloedd adeiledig ledled Cymru. Gofynnwyd iddynt wedyn beth oedd eu barn am y syniad hwn.

Ar y cyfan, dywedodd 47% o ymatebwyr yr ymgynghoriad eu bod o blaid y cynnig, gyda 41% ‘yn gryf o blaid’ a 6% arall ‘ychydig o blaid’. Dywedodd cyfran ychydig yn uwch o’r rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad eu bod yn erbyn y syniad, er hynny – cyfanswm o 53%, gyda 47% ‘yn gryf yn erbyn’ a 6% ‘ychydig yn erbyn’.

Mae ffigur 6 isod yn cymharu canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus â rhai’r arolwg barn cyhoeddus a gynhaliwyd ymysg sampl gynrychioladol o’r cyhoedd tua diwedd 2020. Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod wyth o bob deg o aelodau’r cyhoedd (81%) o blaid gostwng y terfyn cyflymder i 20mya, gyda chyfran ychydig yn uwch ‘yn gryf o blaid’ a chyfran llawer uwch ‘ychydig o blaid’ nag ymysg y rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru.

Mae’r prif wahaniaeth arall rhwng canlyniadau’r arolwg a’r ymgynghoriad i’w weld yn y cyfraddau sy’n gryf yn erbyn gostwng i derfyn cyflymder o 20mya – er bod bron i hanner y rhai a oedd yn ymateb i’r ymgynghoriad (47%) yn dweud eu bod ‘yn gryf yn erbyn’ y syniad, dim ond 7% ddywedodd hynny yn yr arolwg. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i wahanol ddulliau samplo’r ddau holiadur – hunan-ddewisol oedd y sampl ar gyfer yr ymgynghoriad (hynny yw, pobl yn gwirfoddoli i gymryd rhan ac felly yn fwy tebygol o fod â barn gref am y pwnc), ond roedd sampl yr arolwg wedi’i strwythuro i gynrychioli’r boblogaeth gyffredinol, oedd felly yn cael gwared ag unrhyw duedd hunan-ddewisol.

Ffigur 6: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn cymunedau preswyl ac ardaloedd adeiledig ledled Cymru. Beth yw eich barn am y syniad hwn?

  Ymatebion yr ymgynghoriad   

Ymatebion yr arolwg barn cyhoeddus

Yn gryf o blaid

41% 54%

Ychydig o blaid

6% 27%

Ychydig yn erbyn

6% 10%

Yn gryf yn erbyn

47% 7%

Ddim yn gwybod/heb ateb

0% 2%

Sail: ymatebwyr i’r ymgynghoriad (5,607); ymatebwyr i arolwg Omnibws Cymru (1,002).

Yn yr un modd â’r ymatebion i’r cwestiwn blaenorol am yr angen am ostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig, roedd gwahaniaeth barn amlwg rhwng gwahanol grwpiau oedran. Dim ond 18% o’r rhai yn y grŵp oedran ieuengaf a ymatebodd i’r ymgynghoriad (16-24) oedd o blaid y syniad, o gymharu â 60% o’r grŵp oedran hynaf (65+). Mae ffafriaeth i ostwng y terfyn cyflymder yn cynyddu yn ôl grŵp oedran (gweler ffigur 7 isod).

Roedd unrhyw wahaniaeth barn rhwng mathau eraill o unigolion a ymatebodd (e.e. rhieni plant oed ysgol a phobl anabl) yn fach.

Ffigur 7: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig lleihau'r terfyn cyflymder o 30mya i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, sydd fel arfer wedi'u lleoli mewn cymunedau preswyl ac ardaloedd adeiledig ledled Cymru. Beth yw eich barn am y syniad hwn?

  Canran (yn gryf/ychydig) o blaid

Cyfanswm

46%
16 i 24 18%
25 i 34 31%
35 i 44 46%
45 i 65 50%
Dros 65 60%
 nam neu gyflwr 46%
Heb nam neu gyflwr 50%

 phlant oedran ysgol

45%

Heb blant oedran ysgol

47%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607) 16-24 (180), 25-34 (679), 35-44 (1,171), 45-65 (2,335), 65+ (1,029); Â nam neu gyflwr iechyd (1,142), Heb nam neu gyflwr iechyd (3,984); Â phlant oedran ysgol (2,022), Heb blant oedran ysgol (3,538).

Y safbwynt ansoddol

Yn y grwpiau ffocws a gynhaliwyd mewn tair ardal beilot ym Medi 2021, roedd rhan gyntaf pob trafodaeth yn ystyried barn pobl am y terfyn cyflymder newydd a’r effaith y byddai’n debygol o’i chael.

Roedd y rhai a gymerodd ran o bentrefi Saint-y-brid a Llandudoch a rhai yng Ngogledd Llanelli yn bennaf yn gefnogol iawn i gyflwyno terfyn cyflymder arferol o 20mya mewn ardaloedd preswyl. I grynhoi eu barn am y newid, bu iddynt ddefnyddio:

  • Termau teimladol: gwych, ardderchog, rhagorol, gwych os bydd pobl yn cadw atynt, hapus, balch iawn, hynod fodlon, croesawu
  • Termau’n ymwneud â manteision (i raddau mwy helaeth yn Llandudoch): gwell, llai ffyrnig, potensial, arafach
  • Mae’n llai ffyrnig, yn sicr yn llai ffyrnig wrth yrru, o fyw ar y brif ffordd. Mae pobl yn mynd yn fwy araf. Yn amlwg, mae pobl sy’n mynd dros 20, ond mae’n sicr yn fwy araf. (Saint-y-brid, menyw)

Fe fynegodd rhai yn ardal fwy trefol Gogledd Llanelli farn debyg i’r grŵp o wrthwynebwyr (cyfuniad o drigolion Saint-y-brid a Gogledd Llanelli).

Roedd pob un oedd yn cymryd rhan yn ymwybodol o’r terfyn cyflymder newydd cyn gofyn iddynt fod yn rhan o’r ymchwil.

Beth bynnag oedd eu barn am y terfyn cyflymder newydd o 20mya, roedd y cyfranwyr yn cytuno ei bod yn hanfodol rheoli cyflymder cerbydau mewn ardaloedd preswyl. Heb gynnwys ambell wrthwynebwr, roedd pobl eisiau cadw’r terfyn o 20mya ar y stryd roedden nhw’n byw ynddi, er i rai pryderon gael eu mynegi.

Roedd pobl yn tueddu i ystyried mai diben y terfyn cyflymder arferol newydd o 20mya oedd ‘diogelwch’ ac i achub bywydau. Fe gafodd manteision ehangach eraill eu crybwyll ond nid mor aml â diogelwch cyffredinol. Mae’r manteision a ddisgrifiodd y rhai oedd yn cymryd rhan wedi’u disgrifio yn 3.3 isod.

Llandudoch, menyw: 

Fe wnaeth rhywun roi hyn ar grŵp Facebook [lleol]: ‘I just had to pull my child out of the road from a speeding van’ ac roedd hynny’n sioc fawr i mi. Ofn y rhiant hwnnw, ac rydw i’n teimlo mai dyna beth yw’r terfyn o 20 milltir yr awr, i stopio pobl rhag mynd ar wib ar eu ffordd i rywle.

Wrth ganolbwyntio ar wrthwynebwyr, roedden nhw’n disgrifio pwrpas y terfyn cyflymder newydd fel gwneud ffyrdd yn fwy diogel a lleihau damweiniau â cherbydau. Roedd rhai hefyd cyfeirio at bwrpas ymddangosiadol o’i gwneud yn fwy diogel ger ysgolion yn yr ardal. Roeddent yn tueddu i beidio â sôn cymaint am fanteision ehangach â’r rhai oedd yn gyffredinol o blaid y newid.  

Gwrthwynebydd, dyn:

Fe fyddwn i’n dweud mai diogelwch y plant [yw’r pwrpas]. Maen nhw’n cerdded i lawr y ffordd i’r ysgol. Mae loris yn mynd i ben y cwrb a phob math o bethau’n digwydd, ac roedd hynny’n gychwyn ar ddod â’r terfyn cyflymder newydd i rym. Er diogelwch, yn gryno.

Rhesymau am gefnogi terfynau cyflymder o 20mya

Dangoswyd rhai rhesymau i bobl oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad, oedd o blaid gostwng y terfyn cyflymder i 20mya ar ffyrdd cyfyngedig, ynglŷn â pham y byddai pobl yn cefnogi’r newid hwn. Gofynnwyd iddynt pa rai yr oeddent yn cytuno â nhw, os o gwbl. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn ffigur 8 isod.

Roedd y rhai oedd o blaid yn tueddu i weld nifer o agweddau cadarnhaol ynghlwm â therfynau cyflymder o 20mya ac, o ganlyniad, roedd llawer o gefnogaeth i bron bob un o’r rhesymau.

Roedd y gefnogaeth fwyaf ar gyfer Ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr a Lleihau’r risg o ddamweiniau angheuol, lle’r oedd tua naw o bob deg o’r rhai oedd yn cefnogi’r newid yn cytuno â phob un. Roedd tua wyth o bob deg o gefnogwyr y newid yn cytuno ei fod Yn golygu llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd, Gwneud strydoedd yn fwy dymunol i fyw ynddynt ac Ei gwneud yn fwy diogel i feicwyr. Roedd saith o bob deg o gefnogwyr wedyn yn cytuno ei fod yn Annog mwy o gerdded a beicio, Gwella ansawdd bywyd, Lleihau llygredd aer a Lleihau sŵn.

Y rhai yr oedd pobl yn cytuno leiaf â nhw oedd Gwella llif y traffig ac Ei gwneud hi’n haws i bobl gwrdd – (cefnogaeth gan oddeutu pedwar o bob deg o’r rhai oedd o blaid terfynau cyflymder o 20mya).

Ffigur 8: Dyma rai rhesymau pam y gallai pobl gefnogi terfynau cyflymder o 20mya. Gyda pha rai o’r rhain rydych chi’n cytuno?

  Canran y rhai oedd o blaid y syniad o 20mya oedd yn cytuno

Ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr

92

Lleihau'r risg o ddamweiniau angheuol

87

Yn golygu llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd

82
Gwneud strydoedd yn fwy dymunol i fyw ynddynt 81

Ei gwneud yn fwy diogel i feicwyr

75

Annog mwy o gerdded a beicio

73

Gwella ansawdd bywyd

72
Lleihau llygredd 68

Lleihau sŵn

68

Gwella iechyd corfforol a meddyliol

55

Gwella llif traffig

42

Ei gwneud hi'n haws i bobl gwrdd

35

Dim un o’r rhain

0

Sail: ymatebwyr i’r ymgynghoriad oedd o blaid terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (2,604).

Gofynnwyd yr un cwestiwn i sampl gynrychioladol o gyhoedd Cymru yn arolwg Omnibws Cymru ym mis Tachwedd 2020. At ddibenion cymharu, mae’r canlyniadau o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru wedi’u hail-seilio i gynnwys holl ymatebwyr yr ymgynghoriad ac wedi’u cymharu â’r rhai o’r arolwg o sampl gynrychioladol o oedolion Cymru yn ffigur 9 isod.

Er bod y patrwm ymateb yn debyg, roedd y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn llawer mwy tebygol o gefnogi rhai o agweddau cadarnhaol gostwng y terfyn cyflymder, yn enwedig:

  • Ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr
  • Yn golygu llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd
  • Mae'n golygu y gall plant chwarae'n fwy diogel
  • Ei gwneud yn fwy diogel i feicwyr
  • Gwneud strydoedd yn fwy dymunol i fyw ynddynt.

Ffigur 9: Dyma rai rhesymau y gallai pobl gefnogi terfynau cyflymder o 20mya. Gyda pha rai o’r rhain rydych chi’n cytuno? Cymhariaeth o ymatebion i’r ymgynghoriad a’r arolwg barn cyhoeddus  

 

Ymatebion yr ymgynghoriad

Ymatebion yr arolwg barn gyhoeddus

Lleihau'r risg o ddamweiniau angheuol         

49%

Heb ei ofyn

Ei gwneud yn fwy diogel i gerddwyr

48% 72%

Yn golygu llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd

43% 67%

Gwneud strydoedd yn fwy dymunol i fyw ynddynt

40% 52%

Ei gwneud yn fwy diogel i feicwyr

38% 55%

Lleihau sŵn

35% 38%

Gwella ansawdd bywyd

35% 34%

Annog mwy o gerdded a beicio

35% 33%

Lleihau llygredd aer

34% 36%

Gwella iechyd corfforol a meddyliol

26%

Heb ei ofyn

Gwella llif traffig

20% 27%

Ei gwneud hi'n haws i bobl gwrdd

17%

Heb ei ofyn

Mae'n golygu y gall plant chwarae'n fwy diogel

Heb ei ofyn

60%

Heb ei ofyn / dim un o’r rhain / ddim yn gwybod

37% 9%

Sail: yr holl ymatebwyr i’r ymgynghoriad (5,607); yr holl ymatebwyr i arolwg Omnibws Cymru (1,002).

Sylwer: yn yr ymgynghoriad, dim ond i’r rhai oedd o blaid gostwng y terfyn cyflymder i 20mya y gofynnwyd y cwestiwn, felly mae wedi’i ail-seilio i’r sampl gyfan yn y siart hwn at ddibenion cymharu.

Y safbwynt ansoddol

Fe wnaeth rhai o gymunedau peilot oedd yn cymryd rhan yn yr ymchwil grŵp ffocws ym Medi 2021 amlygu’r themâu cadarnhaol canlynol oedd yn gysylltiedig â’r newid i’r terfyn cyflymder:

Traffig arafach 

Roedd rhai yng nghymunedau bach Saint-y-brid a Llandudoch yn teimlo bod y traffig wedi arafu ychydig oherwydd y terfyn cyflymder newydd. Er eu bod yn meddwl bod cerbydau’n parhau i deithio dros 20mya, roedd yn ymddangos yn fwy araf na 30mya. Roedd rhai’n credu bod traffig yn fwy araf ar rai ffyrdd yn y pentref, ond nid ar bob un. Roeddent o’r farn bod yr arwydd mesur cyflymder oedd yn fflachio yn Llandudoch yn gweithio’n dda i atgoffa gyrwyr i arafu.

Saint-y-brid, menyw:

Mae pobl yn sicr yn gyrru’n fwy araf. Nid ydw i’n dweud eu bod nhw’n gwneud 20mya, ond maen nhw heb os yn gyrru’n fwy araf.

Llandudoch, menyw:

Rydw i wedi gweld cymaint o geir â’u goleuadau brecio ymlaen wrth basio’r arwyddion sy’n fflachio, felly rydw i’n meddwl bod yr arwyddion wir yn helpu.

Roedd dau oedd yn cymryd rhan mewn un lleoliad wedi bod mewn cyswllt â’r awdurdod lleol ynglŷn â’r terfyn cyflymder newydd ac roeddent yn ymwybodol bod terfynau cyflymder cyfartalog yn gostwng mewn rhai mannau yn y pentref. Fe wnaeth un gyfaddef nad oedd yn dda iawn am amgyffred pa mor gyflym roedd cerbydau’n teithio yn y pentref, ar sail y wybodaeth roedd wedi’i derbyn. Roedd hyn yn cynnwys sgwrs gyda gweithiwr a oedd yn gyfrifol am fonitro’r dyfeisiau cyflymder cyfartalog. Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn y grŵp hwn hefyd yn cydnabod y byddai’n cymryd peth amser i yrwyr newid eu harferion.

Llandudoch, menyw:

Pan maen nhw wedi bod yn gwneud y cyflymder cyfartalog, efallai bod llwyth ohonom ni ar droed ddim yn gallu dweud ar ba gyflymder maen nhw’n teithio, oherwydd mae’n sicr yn edrych fel ei fod wedi gostwng. Nid yw wedi newid y drefn yn llwyr eto, nid yw fel rhyw ffon hud, ond mae’n debyg bod y ffigyrau wedi gostwng. Ar wahân i [un darn o ffordd].

Mewn un achos, fe wnaeth gwrthwynebydd gydnabod eu bod wedi sylwi bod cerbydau’n teithio’n fwy araf yn y pentref ond fe wnaeth gyfiawnhau’r newid hwn â’r gred bod traffig wedyn yn gwasgu mwy ar y sbardun wrth fynd draw, oedd ddim yn ddiogel iawn.

Gwrthwynebydd, dyn:

Ar y ffordd lle maen nhw wedi rhoi’r terfyn cyflymder o 20mya yn Saint-y-brid, maen nhw wedi arafu ychydig drwy’r pentref ond cyn gynted ag yr ydych chi’n troi am Southerndown, ar foreau Sul, mae yno feiciau modur – dydi terfyn cyflymder o 20mya yn cyfrif dim.

Mae ceir i’w gweld yn mynd yn gynt nawr ac mae’r terfyn o 20mya yn cael ei ddiystyru’n llwyr.

Mwy diogel i gerddwyr

Roedd traffig mwy araf yn golygu bod cerddwyr yn teimlo’n fwy diogel wrth gerdded ar y brif ffordd (weithiau heb balmant mewn pentrefi), wrth gerdded â’r plant i’r ysgol neu wrth groesi’r ffordd, yn ôl rhai fu’n cymryd rhan yn Saint-y-brid a Llandudoch. Roedd yn teimlo’n fwy diogel i’r plant oedd yn chwarae y tu allan wrth flaen y tŷ i riant yng Ngogledd Llanelli hefyd.  

Saint-y-brid, menyw:

Rydw i yn sicr yn teimlo’n fwy diogel gyda’n plant yn cerdded i’r ysgol ar y ffordd fawr. Fel arfer, byddai ceir yn gwibio heibio ac fe fyddai pwff mawr o wynt yn eich taro chi, ond mae hynny’n llai tebygol (nawr).  

Gogledd Llanelli, menyw:

Mewn gwirionedd, nid ydw i’n credu bod angen i bob ffordd fod yn 20, ond mae’n gwneud i mi deimlo ychydig mwy diogel gan fod y plant yn chwarae llawer y tu allan ar y ffyrdd o gwmpas y lle yma, ac rydw i’n teimlo eu bod nhw’n fwy diogel.

Manteision amgylcheddol 

Mewn ambell achos, roedd y rhai a gymerodd ran yn cysylltu traffig mwy araf â manteision amgylcheddol fel llai o allyriadau CO2. Fodd bynnag, nid oeddent yn sicr pa mor arwyddocaol fyddai unrhyw welliant, o newid y terfyn o 30mya i 20mya.

Gwell lles

Roedd traffig mwy araf yn golygu teimlo ychydig yn dawelach eich meddwl a hamddenol wrth gerdded yn y pentref, meddai dau o un pentref a gymerodd ran, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad oedd palmant. Gallai hefyd olygu dechrau teimlo ‘ychydig yn fwy cymdeithasol’ o ganlyniad, gan fod y traffig yn teimlo’n fwy ‘heddychlon’.

Llandudoch, menyw:

Rydw i wedi cyfarfod nifer o bobl sydd wedi dweud wrthyf i eu bod yn teimlo eu bod yn gallu ymlacio ychydig mwy wrth gerdded i weld eu ffrindiau, neu os ydynt yn cerdded eu cŵn. Mae gennym ni dipyn o bobl sy’n hoffi cerdded eu cŵn ac nid oes unrhyw balmentydd mewn mannau… Mae pobl yn teimlo ei bod yn llai gwyllt nag oedd hi. Rydw i’n meddwl bod gallu cerdded, stopio a chael sgwrs yn dda i allu cadw’n heini a bod ychydig yn fwy cymdeithasol.

Llai swnllyd i gerddwyr  

Roedd nifer bach iawn o rai a gymerodd ran yn Saint-y-brid wedi nodi a sylwi bod y traffig yn dawelach ers cyflwyno’r terfyn cyflymder.

Saint-y-brid, dyn:

I’ve really noticed the difference in noise, actually. It’s much quieter on the main road. 

Budd economaidd posib’ 

Roedd dau a gymerodd ran o Landudoch yn meddwl y gallai arafu traffig olygu bod gan y rhai sy’n pasio drwodd fwy o amser i weld beth oedd gan y pentref i’w gynnig, fel y dafarn a’r siopau. Roeddent yn credu y byddai’n bosib’ wedyn y byddai pobl yn stopio ac yn gwario yn y pentref yn hytrach na theithio drwyddo’n gyflymach.  

Llandudoch, menyw:

Mae’n siŵr gen i y byddai’n fanteisiol, pe bai pobl yn mynd yn fwy araf. Byddent yn gweld ein tafarn gymunedol ac yn troi i mewn i’r maes parcio i’w defnyddio, yn hytrach na gwibio heibio. Rydw i’n meddwl y gallai ei gwneud hi’n haws i bobl weld rhai o’r pethau hynny yn y gymuned.

Rhesymau am wrthwynebu’r terfynau cyflymder o 20mya

Dangoswyd rhestr o resymau posib’ y gallai pobl ddewis gwrthwynebu i derfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig i ymatebwyr i’r ymgynghoriad oedd ddim o blaid gostwng y terfyn cyflymder (gweler ffigur 10 isod).

Roedd cefnogaeth i’r rhan fwyaf o’r rhesymau, gyda’r gefnogaeth fwyaf i Gwneud amseroedd teithio yn hirach, Cynyddu tagfeydd ac Yn cythruddo gyrwyr, a phob un wedi’u cefnogi gan tua 8 o bob deg o’r rhai oedd yn erbyn y syniad. Roedd oddeutu saith o bob deg o’r grŵp hwn yn cytuno Na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch beicwyr, Gallai gael ei anwybyddu gan lawer o yrwyr ac Na fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch cerddwyr. Yr un yr oedd y lleiaf o bobl yn cytuno ag o oedd Cynyddu damweiniau (tua phedwar o bob deg o’r rhai oedd yn erbyn terfynau cyflymder 20mya).

Ffigur 10: Dyma rai rhesymau y gallai pobl wrthwynebu terfynau cyflymder o 20mya. Gyda pha rai o’r rhain rydych chi’n cytuno?

  Canran y rhai oedd yn erbyn y syniad o 20mya oedd yn cytuno

Gwneud amseroedd teithio yn hirach

81%

Cynyddu tagfeydd

77%

Yn cythruddo gyrwyr

75%
Ni fyddai'n gwneud unrhyw 

wahaniaeth i ddiogelwch beicwyr

74%

Gallai gael ei anwybyddu gan lawer o yrwyr

72%
Ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch cerddwyr 70%

Cynyddu llygredd

62%

Gwneud ansawdd bywyd yn waeth

57%

Efallai na chaiff ei blismona a'i orfodi'n effeithiol

57%

Cynyddu damweiniau

36%

Dim un o’r rhain

1%

Sail: ymatebwyr i’r ymgynghoriad oedd yn erbyn terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig (2,971).

Eto, mae’r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi’u cymharu â chanlyniadau arolwg Omnibws Cymru, ar ôl eu hail-seilio i gynnwys y sampl lawn (gweler ffigur 11 dros y ddalen).

Fel y gellid ei ddisgwyl (oherwydd y lefel uwch o wrthwynebiad o fewn sampl yr ymgynghoriad), roedd cefnogaeth i’r holl agweddau negyddol ynghlwm â therfynau cyflymder o 20mya yn sylweddol uwch yn yr ymgynghoriad nag yn yr arolwg o’r boblogaeth gyffredinol. Roedd y gwahaniaeth barn mwyaf rhwng ymatebwyr yr ymgynghoriad a chyhoedd Cymru’n gyffredinol yn amlwg ar yr agweddau canlynol:

  • ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch beicwyr
  • ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch cerddwyr
  • cynyddu llygredd
  • gwneud ansawdd bywyd yn waeth
  • cynyddu tagfeydd

Ffigur 11: Dyma rai rhesymau y gallai pobl wrthwynebu terfynau cyflymder o 20mya. Gyda pha rai o’r rhain rydych chi’n cytuno?  Cymhariaeth o ymatebion i’r ymgynghoriad a’r arolwg barn cyhoeddus

  Ymatebion yr ymgynghoriad Ymatebion yr arolwg barn gyhoeddus

Gallai gael ei anwybyddu gan lawer o yrwyr

67% 56%

Efallai na chaiff ei blismona a'i orfodi'n effeithiol

61% 45%

Gwneud amseroedd teithio yn hirach

53% 37%

Yn cythruddo gyrwyr

50% 40%

Cynyddu tagfeydd

46% 25%

Ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch beicwyr

42% 10%

Ni fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i ddiogelwch cerddwyr

39% 10%

Cynyddu llygredd

36% 13%

Gwneud ansawdd bywyd yn waeth

31% 8%

Cynyddu damweiniau

20% 9%

Heb ei ateb/dim un o’r rhain/ddim yn gwybod

12% 22%

Sail: yr holl ymatebwyr i’r ymgynghoriad (5,607); yr holl ymatebwyr i’r arolwg (1,002).

Sylwer: yn yr ymgynghoriad, dim ond i’r rhai oedd yn erbyn gostwng y terfyn cyflymder i 20mya y gofynnwyd y cwestiwn, felly mae wedi’i ail-seilio ar y sampl gyfan yn y siart hwn at ddibenion cymharu

Y safbwynt ansoddol

Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn y grŵp ffocws mewn ardaloedd peilot oedd ddim o blaid y terfyn cyflymder newydd yn seilio eu pryderon ar yr hyn yr oedden nhw’n ei amgyffred, eu profiad personol a hanesion. Fe ddefnyddiodd gwrthwynebwyr a rhai yng Ngogledd Llanelli dermau crynhoi oedd yn adlewyrchu:

  • problemau tybiedig â’r cysyniad: dryswch, gormodol, anhyblyg, gorgywiro, dros ben llestri
  • emosiwn: pryder, rhwystredigaeth
  • problemau cyflwyno tybiedig: ddim yn cael ei weithredu, ddim yn cael ei orfodi

Un dull cyffredinol i bob man yn eithafol

Barn rhai o’r trigolion sy’n cymryd rhan yn y grŵp ffocws yw hon. 20mya yw’r cyflymder arferol ond byddai posibilrwydd o roi eithriadau.

Cytunai’r gwrthwynebwyr fod terfynau cyflymder o 20mya yn angenrheidiol ond y dylent gael eu defnyddio mewn ardaloedd lle’r oedd y risg fwyaf yn unig. Byddai’r rhain ger ysgolion, er enghraifft, neu ar ddarnau preswyl o ffordd lle’r oedd cerddwyr yn fwy agored i niwed gan draffig. Fodd bynnag, nid oeddent yn meddwl ei bod yn iawn cyflwyno terfyn cyflymder i bob man gan eu bod yn credu bod rhai ardaloedd yn iawn â therfyn o 30mya.

Gwrthwynebydd, dyn:

Nid ydw i’n deall pam ei fod wedi cael ei gyflwyno. Rydw i’n meddwl ei bod hi’n iawn bod rhai rhannau felly, yn enwedig o amgylch ysgolion am resymau diogelwch, ond rhwng deg y nos a saith y bore, rydw i’n meddwl ei bod yn eithafol iddo fod yn 20mya. Nid oes plant o gwmpas ar yr adeg honno.

Diffyg gorfodaeth a dim tystiolaeth o newid

Roedd rhai o bob grŵp yn aml yn pryderu nad oedd rhai gyrwyr yn cadw at y terfyn cyflymder newydd. Roeddent yn seilio’r pryder hwn ar weld pa mor sydyn yr oedd traffig yn parhau i deithio drwy’r ardaloedd preswyl. Roedd rhai’n credu bod pobl leol yn cadw at 20mya ond bod y rhai oedd yn teithio drwodd, gyrwyr cerbydau masnachol a’r rhai oedd ddim o’r ardal yn fwy tebygol o’i anwybyddu. Rhan o’r ‘dystiolaeth’ i rai, felly, oedd peidio â gweld newid i arferion gyrru pobl eraill. Roedd galw am fwy o orfodaeth.  

Saint-y-brid, dyn:

Rydw i’n meddwl bod y rhan fwyaf o bobl yn y pentref yn ei gefnogi. Maent yn ei hoffi yn ôl yr hyn rydw i’n ei glywed a phobl o’r pentref yn bennaf yw’r rhai sy’n cadw at y terfyn cyflymder. Ond mae’n amlwg mai’r rhai sydd ddim o reidrwydd yn rhan o’r pentref sy’n parhau i deithio drwodd fel mellten weithiau.  

Gwrthwynebydd, dyn:

Nid oes unrhyw beth i’w orfodi, yn ein stryd ni, beth bynnag, felly mae pobl yn gwneud beth bynnag maent yn ei ddymuno.  

Roedd rhai’n teimlo bod yr arwyddion angen eu lleoli’n nes at ei gilydd ar strydoedd preswyl i’w gwneud yn amlycach ac i atgoffa gyrwyr mai 20mya oedd y terfyn. Fe wnaeth rhai oedd yn cymryd rhan gyfaddef, oherwydd eu bod wedi arfer fel arall, eu bod nhw weithiau yn anghofio am y terfyn cyflymder newydd ac yn gyrru ar 30mya – felly roedd angen eu hatgoffa.

Effaith negyddol ar yrru

Roedd rhai oedd yn cymryd rhan yn meddwl eu bod wedi sylwi bod y terfyn cyflymder yn annog mwy o yrru peryglus. Roedd enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:

  • gyrru trwyn wrth gwt – rhoddodd rhai ar draws y grwpiau enghreifftiau o brofi neu weld pobl yn gyrru trwyn wrth gwt, oedd yn creu ychydig o bryder, a cheir yn eu pasio ar strydoedd preswyl, oedd heb ddigwydd o’r blaen. Roedd wedi gwneud i un neu ddau o’r rhai yn y grwpiau deimlo mewn ychydig o berygl fel cerddwyr hefyd;

Saint-y-brid, dyn:

Mae gyrwyr diamynedd wedi fy mhasio ambell waith ac wedi gyrru wrth fy nghwt droeon, felly mae’n siŵr y byddai hynny’n gallu cael ei gyfrif yn broblem.

Gogledd Llanelli, menyw:

Rydw i wedi gweld pobl yn pasio pobl eraill sy’n mynd yn fwy araf, ac mae hynny’n gwneud i mi boeni gan fy mod i’n gwthio pram.  

  • gallai gyrwyr ganolbwyntio gormod ar eu cyflymder a dim digon ar yr hyn sy’n digwydd o’u hamgylch ar y ffordd;
  • byw ar stryd oedd heb ddigon o arwyddion yn nodi’r terfyn cyflymder newydd ac yn gweld bod gyrwyr yn cymryd yn ganiataol bod y terfyn newydd wedi dod i ben, felly’n cyflymu ar hyd y stryd fwy nag yn y gorffennol. Ar y cyfan, yn fenter aneffeithiol ac yn wastraff arian.

Ar y cyfan, yn fenter aneffeithiol ac yn wastraff arian

Yn cyd-fynd â rhai o’r pryderon uchod, nid oedd rhai a gymerodd ran yn meddwl bod cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd yn gweithio. Roeddent yn meddwl ei fod yn cael ei anwybyddu a ddim y cael ei orfodi. Roedd teimlad bod pobl leol yn fwy tebygol o gadw at y terfyn cyflymder, ond bod rhai oedd yn pasio drwodd yn llai tebygol. Roedd cred bod angen mwy o ymdrech i annog peidio â goryrru mewn ardaloedd preswyl, fel camerâu cyflymder, signalau ‘arafwch’ electronig, twmpathau ar y ffordd a newid i gynllun y ffordd. Nid oedd gan y gwrthwynebwyr unrhyw syniad a oedd unrhyw waith yn cael ei wneud i fesur y newidiadau i gyflymder traffig er bod un yn ymwybodol o ‘stribyn du’ ar draws eu stryd.

Gwrthwynebydd, dyn:

Rydw i’n meddwl bod yr arwyddion yn hynod aneffeithiol – nid ydyn nhw’n gweithio. Mae hi’n ffordd hen ffasiwn o edrych ar ddiogelwch, heb os, yn fy marn i. Ni fydd gosod arwyddion bach yn unig yn newid dim mewn gwirionedd, gan nad yw’n cael ei blismona o gwbl.

Gwrthwynebydd, dyn:

Os mai’r nod yw gwella diogelwch, mae hyn yn wastraff amser. Mae’n wastraff arian.

Roedd ambell un a gymerodd ran yn ddi-hid neu’n niwtral eu barn am y newid i’r terfyn cyflymder. Mewn un enghraifft, roedd yr unigolyn yn meddwl y gallai fod yn fwy diogel i gerddwyr ond roedd yn ansicr faint o wahaniaeth y byddai’n ei wneud mewn gwirionedd.

Gogledd Llanelli, dyn:

Fel rhywun sydd ddim yn gyrru, sy’n cerdded llawer, yn amlwg, mae elfen o ddiogelwch iddo sy’n gwneud i chi feddwl – 20mya – fel cerddwr, y dylai fod yn fwy diogel. Ond ar y llaw arall, fydd hynny’n gwneud llawer o wahaniaeth go iawn? Mae’n anodd dweud un ffordd neu’r llall a dweud y gwir.

Effeithiau ymddangosiadol terfyn cyflymder o 20mya

Gofynnwyd i’r rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad pa wahaniaeth, os o gwbl, y gallai terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig ei wneud i’w harferion nhw. Gofynnwyd iddynt a fyddai terfynau cyflymder o 20mya yn eu gwneud nhw’n fwy tebygol o wneud pob un o’r canlynol:

  • Cerdded mwy
  • Beicio mwy
  • Beicio neu reidio sgwter
  • Defnyddio cludiant cyhoeddus

Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr yr ymgynghoriad (o leiaf dau o bob tri) na fyddai eu harferion yn newid yn unrhyw un o’r ffyrdd hyn o ganlyniad i ostwng terfynau cyflymder. Wedi dweud hynny, fe wnaeth tua un o bob tri oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ddweud y byddent yn cerdded mwy ac yn beicio neu reidio sgwter mwy (a hefyd yn gyrru mwy) pe bai terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno. Roedd y gyfran a ddywedodd y byddent yn defnyddio mwy ar gludiant cyhoeddus yn is – tua un o bob saith (gweler ffigur 12 isod).

Ffigur 12: Pa wahaniaeth y byddai terfynau cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn ei wneud i chi’n bersonol? A fyddent yn eich gwneud yn fwy tebygol o wneud y canlynol?

  Canran yn dweud byddent Canran yn dweud na fyddent

Heb ymateb

Cerdded mwy

33% 65% 3%

Gyrru mwy

30% 65% 5%

Beicio neu reidio sgwter

30% 65% 5%

Defnyddio  cludiant cyhoeddus

15% 77% 7%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Er bod y cwestiwn yn wahanol yn yr ymgynghoriad, roedd y canlyniadau o’r ymgynghoriad yn debyg iawn i rai’r arolwg barn cyhoeddus o ran yr effaith gadarnhaol ddisgwyliedig ar arferion cerdded a beicio.

Yn yr arolwg, gofynnwyd i’r rhai oedd yn cymryd rhan a fyddai terfynau cyflymder o 20mya yn ei gwneud yn fwy neu’n llai tebygol iddynt newid eu harferion mewn ffyrdd penodol a gallent ddewis o raddfa o atebion (llawer mwy tebygol i lawer llai tebygol). Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i’r ymatebwyr a fyddai terfynau cyflymder o 20mya yn ei gwneud yn fwy tebygol iddynt newid eu hymddygiad a dim ond ‘byddai’ neu ‘na fyddai’ y gallent ei ddewis.

Roedd y cwestiwn a ofynnwyd yn yr arolwg yn canolbwyntio ar feicio ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at sgwteri.

Yn yr arolwg barn cyhoeddus, dywedodd 35% o oedolion Cymru y byddai gostwng y terfynau cyflymder yn ei gwneud yn fwy tebygol iddyn nhw gerdded mwy (o gymharu â 33% o ymatebwyr i’r ymgynghoriad) a dywedodd 31% y byddent yn fwy tebygol o feicio mwy (o gymharu â 30% o ymatebwyr i’r ymgynghoriad). Fodd bynnag, roedd y gyfran o ymatebwyr i’r arolwg a ddywedodd y byddent yn gyrru mwy’n llai na hanner (14%) y lefel yn yr ymgynghoriad (30%).

Gofynnai’r ymgynghoriad i’r rheiny oedd â phlant oedran ysgol a fydden nhw a’u plant yn defnyddio ffyrdd llesol o deithio (hynny yw, cerdded, beidio neu reidio sgwter) yn fwy aml i fynd i’r ysgol pe bai’r terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig yn cael ei ostwng i 20mya. Ar y cyfan, dywedodd tua un o bob pedwar o rieni plant oedran ysgol oedd yn cymryd rhan (27%) y byddent yn gwneud mwy o hynny, ond dywedodd dwywaith gymaint (54%) na fyddent. Ni wnaeth yr 19% oedd yn weddill ateb. Er hynny, ymysg y rhai oedd o blaid y gostyngiad i’r terfyn cyflymder, dywedodd mwyafrif o bron i chwech o bob deg o rieni (57%) y byddent yn gwneud hynny’n fwy aml, o gymharu ag 1% yn unig o rieni oedd yn erbyn y newid yn dweud hyn. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn a oeddent yn credu y byddai terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn cael effaith gadarnhaol ar y grwpiau canlynol o fewn y boblogaeth:

  • pobl hŷn
  • y rhai â namau corfforol
  • y rhai â nam ar y synhwyrau
  • merched beichiog

Roedd tua hanner y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn meddwl y byddai’n cael effaith gadarnhaol ar bobl hŷn a rhai sydd â namau corfforol a nam ar y synhwyrau, ond roedd y gyfran o’r farn hon am ferched beichiog yn gostwng i lai na phedwar o bob deg (gweler ffigur 13 isod). Pobl 65 oed a hŷn oedd yn cymryd rhan oedd y rhai mwyaf tebygol o ragweld effaith gadarnhaol gostwng terfynau cyflymder ar bobl hŷn (62% yn cytuno, o gymharu ag ond 26% o rai 16-24 oed).

Ffigur 13: Ydych chi’n meddwl y byddai terfyn cyflymder o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn cael effaith gadarnhaol ar y canlynol…?

  Canran yn dweud byddai     Canran yn dweud na fyddai     Heb ateb

Y rhai â nam ar y Synhwyrau (gweledol, clyw)

52% 47% 1%

Y rhai sydd â nam corfforol

51% 48% 1%

Pobl hŷn

49% 50% 1%

Merched beichiog

37% 60% 4%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Yn olaf, roedd y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad yn gofyn sut roedd pobl yn meddwl y byddai'r terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn effeithio ar wahanol fathau o fusnesau, sef:

  • busnesau "stryd fawr" lleol (siopau, caffis, tafarndai a sefydliadau eraill sy’n wynebu cwsmeriaid)
  • busnesau yn yr ardal sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer mynediad neu ddanfoniadau
  • cwmnïau cynnal a chadw ffyrdd a chyfleustodau (trydan, nwy, dŵr, cyfathrebu) sydd angen mynediad i weithio ar y ffordd.

Roedd y farn wedi’i rhannu’n eithaf cyfartal ynglŷn ag effaith gadarnhaol neu negyddol gostwng y terfyn cyflymder ar fusnesau “stryd fawr” lleol a chwmnïau cynnal a chadw ffyrdd a chyfleustodau. Roedd 35% o ymatebwyr yr ymgynghoriad yn teimlo y byddai’r effaith ar y busnesau “stryd fawr” yn gadarnhaol (o gymharu â 32% oedd yn meddwl fel arall), a’r ffigyrau cyfatebol ar gyfer cwmnïau cynnal a chadw a chyfleustodau oedd 31% yn gadarnhaol a 29% yn negyddol.

Er hynny, roedd mwy o ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn rhagweld effaith negyddol yn hytrach na chadarnhaol ar fusnesau oedd yn defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer mynediad neu ddanfoniadau (45% yn gweld effaith negyddol o gymharu â 24% yn gweld effaith gadarnhaol).

Ffigur 14: Sut ydych chi'n meddwl y byddai'r terfyn cyflymder 20mya ar ffyrdd cyfyngedig yn effeithio ar y busnesau canlynol?

 

Cadarnhaol iawn     

Gweddol gadarnhaol            

Niwtral

Braidd yn negyddol       

Negyddol iawn          

Heb ateb

Busnesau "stryd fawr" lleol (siopau, caffis, tafarndai a sefydliadau eraill sy’n wynebu cwsmeriaid)

23% 12% 32% 13% 19% 1%

Cwmnïau cynnal a chadw ffyrdd a chyfleustodau sydd angen mynediad i weithio ar y ffordd

17% 14% 39% 10% 19% 1%

Busnesau yn yr ardal sy'n defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer mynediad neu ddanfoniadau

13% 11% 30% 17% 28% 1%

Sail: holl ymatebwyr yr ymgynghoriad (5,607).

Casgliadau

Nid oedd yr ymgynghoriad yn arolwg o sampl gynrychioladol o’r boblogaeth ac, o ganlyniad, ni ellir cymryd ei fod yn cynrychioli barn y cyhoedd yng Nghymru’n gyffredinol.

Mae adborth o ymgynghoriadau cyhoeddus yn agored i duedd gan fod y rhai sy’n dewis cymryd rhan i roi eu barn yn aml â barn gref am y pwnc. Mae hyn i’w weld yn y gwahaniaeth nodedig yn y lefelau o gefnogaeth i’r polisi rhwng yr arolwg barn cyhoeddus (arolwg ymchwil annibynnol o sampl gynrychioladol o boblogaeth Cymru) a’r ymgynghoriad cyhoeddus (lle’r oedd y sampl yn rhai oedd wedi dewis cymryd rhan).

Roedd dros wyth o bob deg (81%) o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg o blaid gostwng y terfyn cyflymder i 20mya a llai na dau o bob deg (17%) yn erbyn, o gymharu â 47% o blaid a 53% yn erbyn yn yr ymgynghoriad. Yn ogystal, roedd bron i hanner y rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad (47%) yn dweud eu bod ‘yn gryf yn erbyn’ terfyn o 20mya, o gymharu â 7% yn unig o sampl yr arolwg yn dweud hynny.

Maes arall lle mae ymatebion i'r ymgynghoriad yn wahanol i’r arolwg barn cyhoeddus yw cefnogaeth i agweddau cadarnhaol a negyddol ynghlwm â gostwng y terfyn cyflymder. Roedd y rhai oedd yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad yn llai tebygol o gydnabod bron i bob un o fanteision posib’ 20mya na’r cyhoedd yn sampl gynrychioladol yr arolwg.

I’r gwrthwyneb, roedd ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn llawer mwy tebygol o gefnogi’r holl agweddau negyddol, oherwydd y duedd ymysg y sampl o blaid pobl oedd yn gwrthwynebu’r polisi.

O ran cefnogaeth neu wrthwynebiad y cyhoedd i’r syniad yn y DU yn fwy cyffredinol, mae pob arolwg blaenorol o sampl gynrychioladol wedi gweld llawer o gefnogaeth i 20mya ar strydoedd preswyl a strydoedd prysur, fel y stryd fawr.