Bydd gwasanaeth bws sy’n cysylltu Cas-gwent a Bryste yn parhau hyd fis Rhagfyr 2020, a hynny ar ôl i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy gytuno ar ateb tymor byr ar ôl i wasanaeth masnachol ddod i ben.
Bydd New Adventure Travel yn gweithredu gwasanaeth bob awr, o’r enw Traws Hafren X7, yn lle gwasanaeth Severn Express.
Cyhoeddodd Stagecoach West yn ddiweddar y byddai ei wasanaeth bws masnachol X14 Severn Express sy’n cysylltu Cas-gwent a Cribbs Causeway a hefyd ganol dinas Bryste yn dod i ben ar 13 Mehefin 2020. Cafodd y gwasanaeth ei ddefnyddio gan dros 244,000 o deithwyr yn 2018-19 ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn ymysg cymudwyr, myfyrwyr a siopwyr.
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo ateb tymor byr â Chyngor Sir Fynwy, am ddim cost ychwanegol. Bydd New Adventure Travel, sy’n gweithredu gwasanaeth T9 Maes Awyr Caerdydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn gweithredu’r gwasanaeth o 15 Mehefin am gyfnod o 6 mis.
Bydd Cyngor Sir Fynwy a Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu a gwneud penderfyniadau ynghylch pa mor ymarferol fydd y gwasanaeth yn yr hirdymor.
Argymhellodd Llywodraeth Cymru yr wythnos hon y dylai teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus ddefnyddio gorchuddion wyneb tair haen ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Dylai pobl hefyd barhau i gadw at y cyfyngiadau teithio sydd mewn grym yn sgil y coronafeirws.
Dywedodd Barclay Davies, Cyfarwyddwr Cymru:
Roedd nifer o ddefnyddwyr wedi cysylltu â ni gan nodi eu pryderon y byddai’r gwasanaeth cyswllt hwn yn dod i ben ac yn pwysleisio’r ffaith y byddai hyn yn cael effaith andwyol ar eu gallu i deithio i’w gwaith yn ardal Bryste. Rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i sicrhau y bydd y gwasanaeth trawsffiniol pwysig hwn yn parhau. Mae’n creu cyfle gwych i gymunedau De-ddwyrain Cymru gynnal cysylltiadau â Phrifysgol a dinas Bryste.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Seilwaith a Gwasanaethau Cymdogaeth, y Cynghorydd Jane Pratt:
Diogelu gwasanaethau allweddol fydd prif flaenoriaeth Cyngor Sir Fynwy bob amser, ac yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Wrth i ni symud ymlaen bydd cynnal y cysylltiadau ar gyfer ein trefi a’n dinasoedd yn bwysicach nag erioed, er mwyn adfer ein heconomi. Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn pennu ateb ar gyfer achub y gwasanaeth hwn.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu camu i mewn, gan helpu i gynnal y gwasanaeth bws hwn a gaiff ei ddefnyddio’n helaeth er mwyn cysylltu Cas-gwent a Cribbs Causeway a hefyd ganol dinas Bryste. Mae’n wasanaeth sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan fyfyrwyr, cymudwyr a siopwyr ac roeddem yn ymwybodol iawn fod nifer o deithwyr yn poeni ynghylch colli’r gwasanaeth allweddol hwn.
Trwy weithio mewn partneriaeth â’r NAT Group, Defnyddwyr Bysiau Cymru a Chyngor Sir Fynwy rydym wedi ailneilltuo cerbydau er mwyn creu gwasanaeth bws newydd X7 Traws Hafren am ddim cost ychwanegol. Byddwn yn cydweithio â Chyngor Sir Fynwy yn awr er mwyn ystyried pa mor ymarferol yw’r gwasanaeth hwn ac a oes modd ei gynnal ar gyfer yr hirdymor.