Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad y flwyddyn nesaf ar becyn uchelgeisiol o ddiwygiadau i’r dreth gyngor.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma’r cam cyntaf wrth ddatblygu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu a Chytundeb Cydweithio Plaid Cymru i wneud y dreth gyngor yn fwy teg.

Mae’r opsiynau sy’n cael eu hystyried y tymor hwn yn cynnwys cynnal proses ailbrisio, adolygu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a gwerthuso gostyngiadau, diystyriadau, esemptiadau a phremiymau – gydag opsiynau ar gyfer diwygio mwy sylfaenol yn y tymor hwy.

Byddai diwygiadau i’r dreth gyngor yn cael eu dylunio i sicrhau bod cyfraniadau gan aelwydydd yn cael eu gwneud mor deg â phosibl, wrth gynnal ei rôl fel ffrwd refeniw sylweddol sy’n helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus allweddol gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol ac ailgylchu.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Rydyn ni eisiau moderneiddio system y dreth gyngor a’i gwneud yn fwy teg. Rydyn ni eisiau gwneud y dreth gyngor yn fwy graddoledig o ran ei dyluniad a’i darpariaeth.

Bydd hwn yn ddarn pwysig o waith a bydd yn bwysig, drwy’r ymgynghoriad rydyn ni’n ei lansio’r flwyddyn nesaf, ein bod yn gwrando ar safbwyntiau pobl ac yn edrych ar yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod tymor y Senedd hon – yn ogystal â pheidio â diystyru’n llwyr y posibilrwydd ar gyfer diwygiadau eraill a mwy sylfaenol yn y tymor hwy.

Rydw i wedi bod yn siarad â chydweithwyr mewn llywodraeth leol, sydd wrth gwrs yn bartneriaid allweddol wrth gyflawni ein nodau gwreiddiol. Mae’n bwysig ein bod yn cyd-ddylunio gyda nhw yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid yn y Senedd a ledled Cymru i ddod i gytundeb ar ddiwygio.

Ni fydd newidiadau yn cael eu gwneud yn syth a bydd yn bwysig canolbwyntio gwaith ar y cerrig sylfaen cynnar sy’n ofynnol ar gyfer newid, gan gynnwys ailbrisio. Rydw i eisiau sicrhau diwygio ystyrlon, gyda syniadau sydd wedi’u hystyried yn ofalus a chyfle i bawb ddweud eu dweud arnyn nhw.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni mewn cydweithrediad â Grŵp Senedd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Arweiniol Dynodedig Plaid Cymru:

Bydd Plaid Cymru yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru i ddiwygio system drethu sy’n hen, yn annheg ac yn gamarweiniol. Rydyn ni wedi dadlau ers tro fod y system bresennol yn effeithio’n anghymesur ar ardaloedd tlotach ac mae’n hen bryd inni gael newid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu system fwy teg a graddoledig wrth inni roi ein cytundeb cydweithio â Llywodraeth Cymru ar waith.

Bwriedir cynnal ymgynghoriad gyda’r nod o gyflwyno diwygiadau cychwynnol yn ystod tymor y Senedd hon.

Yn ystod y tymor diwethaf, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddileu’r bygythiad o garchar i unigolion nad ydynt yn talu’r dreth gyngor, creu esemptiad newydd i bobl ifanc sy’n gadael gofal, gwella mynediad at ostyngiadau i bobl â nam meddyliol difrifol, a lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gymorth gan gynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a’r Cytundeb Cydweithio a fabwysiadwyd yr wythnos diwethaf, ill dau yn cynnwys ymrwymiadau i ddiwygio’r dreth gyngor i’w gwneud yn fwy teg.