Heddiw, bydd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn cyhoeddi cynllun uchelgeisiol i drawsnewid gofal a gynlluniwyd a lleihau amseroedd aros yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Bydd y cynllun yn cael ei ategu gan £60m o arian ychwanegol i’r byrddau iechyd, sef £15m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf. Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo mwy nag £1 biliwn yn ystod tymor y Senedd hon i helpu'r GIG i adfer wedi’r pandemig.
Mae’r cynllun, a fydd yn cael ei gyhoeddi am 12.00 heddiw, wedi’i lunio i helpu'r GIG i reoli'r apwyntiadau a’r triniaethau sydd wedi cronni yn ystod y pandemig, ac i leihau amseroedd aros i bobl â chyflyrau iechyd nad ydynt yn rhai brys.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai nod y cynllun yw sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025.
Bydd cyfres o dargedau ymestynnol ar gyfer y byrddau iechyd yn cael eu datgan yn y cynllun. Mae'r pandemig wedi effeithio'n fawr ar amseroedd aros a rhestrau aros ar gyfer gofal a gynlluniwyd – sef atgyfeiriadau arferol a gofal nad yw'n ofal brys – ar draws y Deyrnas Unedig.
Ar ddechrau'r pandemig, gohiriwyd y rhan fwyaf o apwyntiadau a thriniaethau er mwyn galluogi'r GIG i ganolbwyntio ar ofalu am y nifer fawr o bobl oedd â Covid-19. Mae’r tonnau dilynol o heintiadau coronafeirws hefyd wedi effeithio ar lefelau gweithgarwch yn y GIG.
Mae’r mesurau trwyadl ond angenrheidiol i reoli heintiau yn y GIG, yn enwedig mewn ysbytai, wedi achosi newid mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu ac wedi lleihau nifer yr apwyntiadau a'r llawdriniaethau y gellir eu cynnal.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
"Mae angen ymdrech ddwys i sicrhau bod pobl sy'n aros am apwyntiadau a thriniaeth yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl ac yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Rydym yn ymrwymo £1 biliwn yn ystod tymor y Sendd hon i helpu'r GIG i adfer wedi’r pandemig ac i drin pobl cyn gynted â phosibl.
"Bydd lleihau amseroedd aros yn gofyn am atebion newydd, mwy o gyfarpar, cyfleusterau newydd a mwy o staff i helpu i roi diagnosis cyflym i bobl fel rhan o wasanaeth gofal a gynlluniwyd sy’n effeithiol ac yn effeithlon. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y byddwn yn trawsnewid gofal a gynlluniwyd fel bod yr achosion â’r mwyaf o frys yn cael blaenoriaeth.
"Yn anffodus, mae amseroedd aros a rhestrau aros wedi tyfu yn ystod y pandemig. Er y bydd yn cymryd amser hir a llawer o waith caled, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'n Gwasanaeth Iechyd ardderchog i sicrhau na fydd neb yn aros am fwy na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025.
"Yn ogystal â lleihau amseroedd aros, rydyn ni hefyd eisiau helpu pobl i ddeall a rheoli eu cyflyrau ac i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt aros am driniaeth.
"Mae hon yn dasg fawr - ond dyna ein ffocws am weddill y tymor hwn."
Wrth i Gymru symud y tu hwnt i'r ymateb brys i'r pandemig, mae'r ffordd y mae'r GIG yn darparu rhai mathau o ofal wedi newid – ni fydd angen i bobl fynd i’r ysbyty oni bai bod angen gofal, cyngor neu wasanaethau arnynt na ellir eu darparu mor agos i'w cartref â phosibl.
Mae'r cynllun yn adeiladu ar y newidiadau hyn ac yn gosod y nod o sicrhau bod 35% o'r holl apwyntiadau newydd a 50% o’r apwyntiadau dilynol yn cael eu cynnal yn rhithwir yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu i ryddhau amser clinigwyr fel y gallant weld a thrin mwy o gleifion.
Elfen allweddol arall o'r cynllun yw darparu mwy o brofion diagnostig y tu allan i ysbytai ac yn agosach at gartrefi pobl, mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Bydd hyn yn arbed amser. Bydd cynlluniau ar gyfer dwy ganolfan ddiagnostig gymunedol yn cael eu datblygu eleni, gyda rhagor i ddilyn erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
Bydd gwefan yn cael ei chreu i roi gwybodaeth a chefnogaeth i gleifion i’w galluogi i reoli eu cyflyrau eu hunain. Bydd hyn yn helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain ac yn golygu na fydd angen i gymaint ohonynt fynd yn ôl i’r ysbyty i gael triniaeth.
Dyma enghreifftiau o’r ffordd y mae’r cyllid hwn wedi’i ddefnyddio eisoes i leihau amseroedd aros:
- £19,937m ar gyfer dwy theatr lawdriniaeth barhaol newydd yn Ysbyty'r Tywysog Philip, yn Llanelli, a fydd yn trin 4,600 yn rhagor o bobl bob blwyddyn;
- £2.2m i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer Uned Llawdriniaeth Ddydd Singleton, a fydd yn trin 3,000 yn rhagor o o gleifion cataract bob blwyddyn;
- £1.034m ar gyfer trawma ac orthopedeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, i drin 3,650 yn rhagor o bobl;
- £827,000 ar gyfer unedau endosgopi symudol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i drin 4200-5400 yn rhagor o gleifion;
- £1.389m ar gyfer dwy theatr symudol arloesol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a fydd yn gweld rhwng 3,900 a 4,500 o bobl y flwyddyn.