Neidio i'r prif gynnwy

Mae Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, wedi cyhoeddi bod cynllun treialu sy'n gwarantu sesiynau ysgol ychwanegol i ddysgwyr yng Nghymru bellach ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd dros 1,800 o ddysgwyr yn cymryd rhan yn y cynllun, gan elwa ar bum awr o weithgarwch ychwanegol yr wythnos dros gyfnod o ddeng wythnos.

Mae'r cynllun, sy'n dilyn ymrwymiad gan y llywodraeth i archwilio’r posibilrwydd o ddiwygio'r diwrnod ysgol, yn canolbwyntio ar gefnogi disgyblion difreintiedig ac ysgolion yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol yn ystod y pandemig. Mae’r cynlluniau’n wedi’u llywio gan fodelau rhyngwladol a chynigion a wnaed gan y Sefydliad Polisi Addysg.

Mae athrawon wedi penderfynu beth sy'n cael ei gyflwyno a sut ym mhob un o'r tair ysgol ar ddeg ac un coleg yn ystod y cyfnod prawf, gan weithio gyda phartneriaid allanol neu addasu gweithgareddau sy'n bodoli eisoes megis clybiau ar ôl ysgol.

Mae'r cynllun yn un o ymrwymiadau yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Bydd canlyniadau'r cynllun treialu a’r camau nesaf yn cael eu hystyried gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio.

Un o'r ysgolion sy'n rhan o'r cynllun yw Cymuned Ddysgu Abertyleri a fydd yn darparu darpariaeth ar ôl ysgol am awr y dydd, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon ychwanegol fel Crefft Ymladd Cymysg. 

Dywedodd Jeremy Miles:

"Rydym yn gwybod o waith ymchwil y gall pobl ifanc elwa ar y dull hwn o ran eu hyder a’u lles, yn enwedig dysgwyr difreintiedig.

"Gall rhaglenni sy'n darparu sesiynau ychwanegol sy'n cyfoethogi ac yn ysgogi dysgwyr i ailymgysylltu â dysgu gael mwy o effaith ar gyrhaeddiad na'r rhai sy'n academaidd eu ffocws yn unig.

"Mae'r cynllun treialu’n gyfle gwych i gasglu ragor o dystiolaeth ar sut rydym yn defnyddio ac yn strwythuro amser yn yr ysgol a sut y gallai hynny esblygu yn y dyfodol. Byddwn yn dysgu sut y gallai'r sesiynau ychwanegol hyn wella lles a dilyniant academaidd a sicrhau mwy o gyfalaf cymdeithasol a diwylliannol.

"Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion drwy annog mwy fyth o ymgysylltu cymunedol fel ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac yn cyrraedd safonau uchel i bawb."