Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud i recriwtio mwy i raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Dogfennau
Manylion
Mae Partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon yn gweithio i sicrhau bod ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn cael cymorth priodol cyn gwneud cais. Bydd cymorth yn cael ei roi yn ystod y broses ymgeisio i sicrhau bod unrhyw faterion sy’n ymweud â gwahaniaethu yn cael eu trin yn briodol.
Mae pob Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon wedi datblygu a chyhoeddi cynlluniau recriwtio i gefnogi'r gwaith hwn, a nod y cynlluniau hyn yn benodol yw cynyddu nifer yr ymgeiswyr ethnig lleiafrifol i gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon, gan gynnwys rhai cyfrwng Cymraeg:
- CaBan (Prifysgol Bangor) (Saesneg yn unig)
- Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac Abertawe)
- Partneriaeth Caerdydd
- Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
- Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru
- Y Brifysgol Agored