Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i ysgolion drwy Gymru gorffen am yr haf, mae cynllun peilot 'newyn gwyliau', sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn anelu at helpu teuluoedd incwm isel dros y gwyliau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y Cynllun Peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau, sydd wedi cael £100,000 gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu i leoliadau cymunedol a lleoliadau gwaith chwarae drwy Gymru estyn eu gwasanaeth darparu bwyd mewn ardaloedd difreintiedig iawn, lle mae posibl i 'newyn gwyliau' fod ar ei waethaf. 

Mae'r cynllun peilot hwn yn ategu rhaglen a arweinir Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sef Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf, sy'n fenter mewn ysgolion i ddarparu prydau iach, addysg ar faeth, gweithgarwch corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol yn ystod gwyliau'r ysgol.

Bydd y cynllun peilot hwn a'r cynllun ehangach yn rhoi cymorth i'r cymunedau tlotaf yn ein cymdeithas ar adeg pan all llawer o deuluoedd, yn enwedig y rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim fel arfer, wynebu heriau ariannol ychwanegol.

O dan y cynllun, bydd cyfanswm o £100,000 yn cael ei roi i 13 o ardaloedd awdurdod lleol yng Nghymru – sy'n cynnwys £75,000 tuag at ddarparu mynediad agored i leoliadau chwarae yn ystod y gwyliau a mentrau eraill i blant a phobl ifanc, a £25,000 ar gyfer darparu lleoliadau mewn clybiau gwyliau y tu allan i'r ysgol. Nodwyd lleoliadau sy'n addas i'w cynnwys yn y cynllun peilot hwn drwy ymgynghori â'r sefydliadau ymbarél mwyaf blaenllaw ar gyfer chwarae yng Nghymru, sef Chwarae Cymru a Clybiau Plant Cymru. 

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym yn cydnabod bod y gwyliau haf hir yn rhoi straen ychwanegol ar deuluoedd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd fel arfer yn cael prydau ysgol am ddim. Drwy'r cynllun peilot hwn, rydym yn gobeithio helpu'r teuluoedd hynny i osgoi ‘newyn gwyliau’ yn ystod gwyliau'r haf - gan fynd i'r afael â'r anghydbwysedd o ran y gallu i gael bwyd, anghydraddoldeb iechyd ac ynysu cymdeithasol sy'n cael effaith anghymesur ar blant sy'n byw mewn tlodi.”

Bydd y cynllun peilot yn rhedeg trwy'r gwyliau haf.

Mae ardaloedd yr awdurdodau lleol canlynol yn cael cyllid fel rhan o'r cynllun peilot hwn:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerdydd
  • Ceredigion
  • Conwy
  • Merthyr Tudful
  • Sir y Fflint
  • Sir Benfro
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Wrecsam
  • Bro Morgannwg