Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Mawrth 2018.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 734 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am gynigion ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru er mwyn llywio'r ffordd y byddwn yn defnyddio ein moroedd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Y cynllun morol hwn fydd yr un cyntaf o’i fath ar gyfer moroedd Cymru. Mae'n ymdrin â'r ardaloedd ar y môr ac ar y tir sy'n rhan o'r cynllun morol y mae Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel yr awdurdod cynllunio morol ar eu cyfer.
Rydym yn yngynghori ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru sy’n:
- cyflwyno fframwaith sydd o blaid gwneud penderfyniadau cynaliadwy ar gyfer ein moroedd
- nodi ein gweledigaeth a'n hamcanion strategol
- cyflwyno polisïau cyffredinol (economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol)
- cynnwys polisïau penodol ar gyfer y sectorau y mae eu gwaith yn ymwneud â'n moroedd (dyframaethu, agregau, amddiffyn, etc.).
