Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod mwy na 1,100 o bobl ddi-waith sy’n wynebu rhwystrau cudd sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn y farchnad lafur wedi cael cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain diolch i gynllun grant Llywodraeth Cymru.
Mae Sami Gibson yn un ohonynt sy’n fam sengl, ddi-waith a oedd yn benderfynol o greu bywyd gwell iddi hi ei hun a'i phlentyn.
Roedd gan Sami freuddwydion am sefydlu ei busnes ei hun ond roedd yn wynebu sawl rhwystr - doedd ganddi ddim gliniadur na chysylltiad rhyngrwyd ac roedd yn byw mewn lleoliad gwledig, anghysbell.
Diolch i gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae Sami wedi sefydlu busnes newydd o'r enw Roots, sy'n tyfu ac yn gwerthu perlysiau a phlanhigion eraill mewn ffordd gynaliadwy. Mae Roots hefyd yn creu cymysgeddau fel perlysiau ar gyfer stwffin sy’n cynnwys llus gwyllt, halen capan cornicyll, a pherlysiau saws pitsa.
Cafodd Sami Grant Rhwystrau rhag Dechrau Busnes gwerth £2,000, ac roedd yn defnyddio hynny i brynu offer a deunyddiau marchnata ar gyfer ei busnes newydd.
Meddai Sami:
"Diolch i gefnogaeth amhrisiadwy gan Busnes Cymru, rydw i bellach yn masnachu'n rheolaidd mewn marchnadoedd ac mae gen i wefan lewyrchus rwy’n ei defnyddio i werthu fy nwyddau."
Grant refeniw yw'r Grant Rhwystrau i Bobl Ifanc i helpu unigolion dros 25 oed sydd yn economaidd anweithgar a di-waith i ddechrau busnes yng Nghymru.
Mae'n targedu unigolion sy'n wynebu rhwystrau rhag dechrau eu busnes eu hunain neu fynd i mewn i'r farchnad lafur. Mae'n rhan o becyn cymorth sy'n cynnwys cyngor a gweminarau un-i-un i fagu hyder mewn arferion busnes a datblygu cynlluniau ar gyfer dechrau busnes.
O'r ymgeiswyr llwyddiannus yng ngham diweddaraf y cynllun grant, roedd 57% yn fenywod, 26% yn anabl, a 13% yn ystyried eu hun yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae'r gronfa yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o ddileu'r bwlch rhwng y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru a'r DU erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chodi cyfranogiad yn y farchnad lafur gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Wrth siarad ar ddechrau'r Wythnos Entrepreneuriaeth Byd-eang, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o greu Cymru decach a mwy ffyniannus, lle y mae pobl yn cael cymorth i gyflawni eu gwir botensial.
"Rydym yn gweithio'n galed i greu swyddi o ansawdd da mewn cymunedau ledled Cymru. Mae hynny'n cynnwys cefnogi pobl i weithio, beth bynnag yw eu hamgylchiadau unigol neu'r rhwystrau sy'n eu hwynebu rhag dod o hyd i waith.
"Rydym hefyd yn canolbwyntio ar gefnogi mwy o bobl i ddechrau eu busnes eu hunain, meithrin sector BBaCh hyd yn oed yn fwy bywiog, a blaenoriaethu mentrau a sefydlwyd ar gynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
"Rwy'n falch iawn bod y fenter grantiau hon wedi helpu cymaint o bobl yn barod, gan gynnwys rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, a'r rhai sydd mewn ac allan o waith gyda chyflyrau iechyd hirdymor."
Yn ogystal â chynorthwyo unigolion dros 25 oed i ddechrau busnes, cymeradwyodd Gweinidog yr Economi £5 miliwn dros dair blynedd i gefnogi pobl ifanc i fod yn hunangyflogedig gyda chyngor a chymorth ariannol i gyflawni’r Warant i Bobl Ifanc. Aeth Grant Dechrau Busnes Pobl Ifanc i'r rheini dan 25 yn fyw ym mis Gorffennaf 2022 ac fe'i gweinyddir gan Syniadau Mawr Cymru. Bydd y grant hwn yn weithredol tan 2025.
Dysgwch sut y gallai Busnes Cymru eich helpu chi yn mynnwch gymorth.