Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwella safonau mewn ffordd sy'n diogelu masnach ac yn creu sector ffermio mwy cynaliadwy yn allweddol i Gynllun Gweithredu Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma'r neges gan y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wrth i'r Cynllun Gweithredu terfynol a gyhoeddir o dan y Fframwaith cyfredol gael ei lansio heddiw, ar gyfer 2022-24.

Mae Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn datgan cynllun 10 mlynedd (2014-2024) ar gyfer gwelliannau parhaus ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid a gedwir, gan gyfrannu hefyd at ddiogelu iechyd y cyhoedd, yr economi a'r amgylchedd. Bydd fframwaith newydd yn cael ei gyflwyno yn 2024.

Mae Cynllun Gweithredu 2022-24 yn cael ei gyhoeddi yn wyneb yr heriau cyfun mae pandemig y coronafeirws, gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd yn eu hachosi ac mae'n cael ei gyflwyno wrth i gyfres sylweddol o achosion o ffliw adar ddod i’r amlwg ledled y DU.

Mae'r uchelgais i sicrhau'r safonau uchaf un yng Nghymru yn cael ei gofnodi ym mhrif ddyheadau'r cynllun “Un Iechyd, Un Lles a Bioddiogelwch”, sy'n cynnwys pob agwedd ar iechyd a lles anifeiliaid yn ogystal â'r rhyngweithio cymhleth ag iechyd a lles pobl, a'r amgylchedd.

Mae'r cysyniadau Un Iechyd ac Un Lles yn cydnabod bod iechyd pobl ac iechyd a lles anifeiliaid yn rhyngddibynnol, ac yn dibynnu ar iechyd a lles yr amgylchedd maent yn cydfodoli ynddo. Mae'r dull hwn yn canolbwyntio ar gyflawni gwell canlyniadau drwy gydweithredu a chyfathrebu mwy effeithiol ar draws sawl sector.

Mae'r cynllun yn mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar iechyd a lles anifeiliaid, ac yn pwysleisio bioddiogelwch sy'n gyfrifoldeb i bawb. Mae hon yn neges arbennig o bwysig wrth i lefelau digynsail o ffliw adar gael eu profi ledled y DU. Bioddiogelwch craff yw'r dull gorau o ddiogelu adar dof rhag haint.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae'r tirlun wedi newid yn ddramatig ers gadael yr UE ac mae pandemig y coronafeirws yn sicr wedi profi ein gwytnwch ni.

Mae adfywio ac ail-lansio ein Cynllun Gweithredu bellach yn rhoi cyfle i roi lle blaenllaw i iechyd a lles anifeiliaid wrth fynd i’r afael â’r materion a’r heriau sy’n ein hwynebu mewn ffordd gynaliadwy, gydweithredol a chydlynol.

Rydyn ni eisiau i bob anifail yng Nghymru gael bywyd o ansawdd da ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein Rhaglen Lywodraethu, gan roi cyfle i ni adeiladu ar bopeth rydyn ni wedi'i gyflawni ers i bwerau iechyd a lles anifeiliaid gael eu datganoli i Gymru.

Mae'r Cynllun Gweithredu hwn yn ategu'r Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Mae'r strategaethau a'r camau gweithredu ym mhob un yn integredig ac yn rhyngddibynnol, gan ddangos ein penderfyniad i weithio mewn ffordd gydlynol.

Bydd ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn cynnwys iechyd a lles anifeiliaid fel elfen allweddol hefyd, yn seiliedig ar ein huchelgais ar y cyd i wella enw da Cymru ymhellach fel cenedl sy’n caru, yn gofalu am ac yn parchu ei hanifeiliaid.

Mae cwmpas y Cynllun Gweithredu hwn yn eang a thrwy wirioneddol weithio ar y cyd, rwy’n hyderus y gallwn barhau i godi safonau iechyd a lles anifeiliaid.