Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn lleihau’r effaith o wiwerod llwyd ar boblogaethau wiwerod coch a choetiroedd.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cynllun gweithredu Cymru i reolir wiwer lwyd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu rheoli ym mis Tachwedd 2018. Mae'n nodi camau gweithredu ar gyfer rheoli poblogaethau gwiwerod llwyd i:

  • lleihau'r effaith ar boblogaethau gwiwerod coch
  • lleihau'r effaith ar goed ac ecosystemau coetiroedd, a
  • lleihau'r effaith ar y gwasanaethau y maent yn eu darparu, fel cynhyrchu pren

Nid yw'r cynllun yn anelu at ddileu gwiwerod llwyd o Gymru. Mae’n ceisio:

  • annog rheoli poblogaethau gwiwerod llwyd. Dyma le mae'n ymarferol gwneud hynny, a lle mae'r manteision mwyaf.
  • cydnabod yr angen am ddull partneriaeth cydweithredol o reoli'r wiwer lwyd
  • cefnogi Cynllun Cadwraeth Gwiwerod Coch Cymru. Mae hyn yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i boblogaethau gwiwerod coch. Mae hefyd yn hyrwyddo arfer gorau presennol a ddatblygwyd ar gyfer rheoli gwiwerod llwyd.