Heddiw cyhoeddodd Gweinidogion fod cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar draws darparwyr Gofal Cymdeithasol Preswyl, a fydd yn helpu’r sector i ddelio â chostau’r argyfwng ynni, wedi’i lansio a bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Mae’r cynllun £1.4 miliwn yn rhan o Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i gefnogi busnesau mewn rhannau o’n heconomi bob dydd leol, a elwir hefyd yn Economi Sylfaenol, i ddarparu mwy o’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n ofynnol gan y sector cyhoeddus, gan helpu i greu mwy o swyddi a swyddi gwell yn nes at adref.
Bydd y cyllid sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi darparwyr gofal preswyl i weithredu mesurau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gan helpu i leihau effeithiau’r argyfwng costau ynni a symud y sector un cam yn agosach at allyriadau carbon sero net erbyn 2030.
Mae’r cynllun peilot hwn ar agor i ddarparwyr gofal preswyl sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, ac mae’n cynnig grantiau rhwng £30,000 a £50,000 i ariannu buddsoddiadau, megis pympiau gwres, inswleiddio waliau ceudod, ffenestri gwydr dwbl/newydd, pympiau gwres o’r ddaear, inswleiddio atig, tanciau ac inswleiddio pibellau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae gennym ni gyd ran i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd ac mae’n rhaid inni weithredu nawr os ydym am leihau allyriadau a chyrraedd ein targed o allyriadau carbon sero net erbyn 2030. Mae cynnydd da eisoes wedi’i wneud yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac rydym am sicrhau bod gofal cymdeithasol yng Nghymru yn effeithlon o ran ynni.
“Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparwyr gofal cymdeithasol leihau effaith yr argyfwng ynni arnyn nhw, gwella eu Tystysgrif Perfformiad Ynni a gwneud y sector gofal cymdeithasol yn fwy cynaliadwy. Rwy’n annog pob darparwr gofal preswyl i gyflwyno cais.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
“Mae gofal cymdeithasol yn rhan hanfodol o’n heconomi bob dydd, gan ddarparu gwasanaethau a swyddi hollbwysig mewn cymunedau ledled Cymru gyfan.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau bod y cyllid hwn ar gael, a fydd yn cefnogi darparwyr gofal cymdeithasol ledled y wlad i leihau eu costau ynni.”
Mae gan fusnesau cymwys tan 21 Rhagfyr i ymgeisio am gyllid. Gellir cael gafael ar wybodaeth ar sut i ymgeisio drwy anfon e-bost at:
CartrefiGofalEffeithlonORanYnni@llyw.cymru / EnergyEfficientCareHomes@gov.wales