Neidio i'r prif gynnwy

Cafwyd cadarnhâd heddiw gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, y bydd ceisiadau ar gyfer y cynllun newydd i roi cymorth i’r diwydiant llaeth yng Nghymru yn agor ar 18 Mehefin, i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddar o fewn y farchnad oherwydd COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bu i’r sector, sy’n chwarae rhan bwysig yn bwydo’r genedl, deimlo effaith y pandemig ar unwaith, wrth i’r sectorau gwasanaethau bwyd a lletygarwch gau.

Mae’r cynllun i gefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru, wedi’i ddatblygu drwy gydweithio â’r diwydiant, wedi ei gynllunio i gefnogi cynhyrchwyr llaeth i gynnal eu capasiti cynhyrchu yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Bydd y cyfnod y gellir gwneud cais am y cynllun ar agor tan 14 Awst 2020.  

Trwy’r gronfa, bydd angen i ffermwyr llaeth cymwys ddangos eu bod wedi dioddef gostyngiad o 25% neu fwy yn y pris a dalwyd ar gyfartaledd am eu llaeth ym mis Ebrill ac yn dilyn hynny ym mis Mai, o gymharu â mis Chwefror 2020. Bydd gan ffermwyr cymwys hawl i hyd at £10,000, i gynnwys oddeutu 70% o’r incwm a gollwyd ganddynt i helpu iddynt barhau i allu talu costau sefydlog a chynnal eu capasiti cynhyrchu heb iddo gael effaith ar les anifeiliaid a’r amgylchedd.

Bydd angen i ffermwyr cymwys ddarparu eu Datganiad Llaeth ar gyfer mis Chwefror, Ebrill a Mai 2020 fel dogfennau atodol Bydd y cyfnod agor ar gyfer ceisiadau ar ganol mis Mehefin yn galluogi ffermwyr cymwys i gasglu eu datganiadau yn barod i gefnogi eu cais. Bydd canllawiau ar-lein ar gael i gefnogi’r broses hon.

Ar yr amod bod yr holl ddogfennau angenrheidiol wedi’u cyflwyno a’u dilysu, gallai ceisiadau llwyddiannus ddisgwyl taliad o fewn 10 niwrnod.

Meddai’r Gweinidog:

Mae ein cynllun i gefnogi’r diwydiant llaeth yno i gefnogi’r rhai sydd wedi dioddef fwyaf oherwydd amodau’r farchnad o ganlyniad i’r pandemig hwn, ac i sicrhau y gallant barhau i weithredu heb iddo gael effaith ar eu safonau uchel o ran lles anifeiliaid a gwarchod yr amgylchedd.

Hoffwn annog y grŵp craidd hwn o ffermwyr llaeth i wneud cais am y taliad unigryw hwn drwy RPW Ar-lein i helpu i wneud yn iawn am rai o’r effeithiau ariannol y maent wedi’u gweld.

Hoffwn hefyd ddiolch i gynrychiolwyr y diwydiant ar y Grŵp Ffocws Llaeth am eu cyfraniadau wrth helpu inni ddatblygu’r cynllun. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, felly gyda’n gilydd gallwn sicrhau dyfodol cadarn i’n diwydiant llaeth yng Nghymru.

Mae agor y cynllun yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau sydd wedi’u hanelu at gefnogi’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys:

  • Ymgyrch newydd i ddefnyddwyr, o dan arweiniad AHDB, i gynyddu y galw am laeth gan ddefnyddwyr 3%
  • Llacio y cyfreithiau cystadlu dros dro i alluogi mwy o gydweithio fel y gall y sector, gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr llaeth, gydweithio’n agosach i ddatrys y gwahaniaethau rhwng y cyflenwad a’r galw
  • Agor Ymyrraeth Gyhoeddus yr UE a chymorth gyda storio preifat ar gyfer llaeth sgim, menyn a chaws