Yr adroddiadau a’r rhybuddion diweddaraf
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd ac unrhyw rybuddion, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd. Mae eu hymgyrch newydd WeatherReady hefyd yn rhoi cyngor ar sut i baratoi ar gyfer y gaeaf.
Llifogydd
Ceir gwybodaeth a chyngor yn ymwneud â llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cewch hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion am ddim am lifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, neu drwy ffonio Rhybuddion Llifogydd ar 0345 9881188.
Trafnidiaeth a thraffig
Os bydd eira, rhew neu lifogydd yn effeithio ar ffyrdd, dylech osgoi gyrru os yn bosibl. I gael cyngor amser real ynghylch traffig a chyflwr y ffyrdd, ewch i wefan Traffig Cymru.
I gael gwybod am gludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Am wybodaeth am drenau yng Nghymru ewch i Trafnidiaeth Cymru.
Ysgolion a gwasanaethau lleol
Yn gyffredinol, penaethiaid ysgolion sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylid cau ysgol ai peidio mewn tywydd garw. I wybod a fydd eich ysgol ar agor, ewch i wefan yr ysgol neu wefan eich awdurdod lleol.
I gael manylion ynghylch effaith tywydd garw ar wasanaethau casglu gwastraff, ewch i wefan eich awdurdod lleol.
Cadw yn gynnes
Mae gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth wybodaeth am Daliadau Tanwydd y Gaeaf a thaliadau tywydd garw.
Gall cynllun Nyth rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru eich helpu drwy gynnig cyngor a chymorth amrywiol. Cewch wybod mwy ar NestCymru neu ffonio Nyth ar Rhadffôn 0808 808 2244.
Mae Age Cymru hefyd yn cynnig gwybodaeth am sut i gadw’n iach, yn gynnes ac yn ddiogel dros fisoedd y gaeaf.
Pibelli'n byrstio
Cyngor ar sut i ddiogelu eich cyflenwad dŵr a beth i’w wneud os bydd eich cyflenwad dŵr yn rhewi neu os bydd pibell yn byrstio yma: