Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi camau brys i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â lefelau heintio uchel o ran y coronafeirws rhag teithio i Gymru. Cadarnhawyd hynny heddiw gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Mae'r camau'n cael eu cymryd am nad yw Prif Weinidog y DU wedi ymateb i geisiadau Prif Weinidog Cymru i wneud y canllawiau teithio mewn mannau yn Lloegr lle mae lefelau’r coronafeirws yn uchel yn rhai gorfodol.
O dan y rheoliadau newydd sy’n cael eu paratoi gan Weinidogion Cymru, ni fyddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion o’r coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael teithio i Gymru am y tro.
Byddant yn helpu i atal y feirws rhag symud o ardaloedd o’r fath i gymunedau lle nad oes cynifer o achosion.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd yn awgrymu bod y coronafeirws yn symud o'r dwyrain i'r gorllewin ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws Cymru. Yn gyffredinol, mae'n crynhoi mewn ardaloedd trefol ac yna'n lledaenu i ardaloedd llai poblog oherwydd bod pobl yn teithio.
"Mae rhan helaeth o Gymru bellach o dan gyfyngiadau lleol oherwydd cynnydd yn lefelau’r feirws, ac nid yw trigolion yr ardaloedd hynny yn cael teithio y tu hwnt i ffiniau eu siroedd heb esgus rhesymol. Nod hyn yw atal heintiau rhag lledaenu yng Nghymru ac i ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.
"Rydyn ni’n paratoi i gymryd y camau hyn i atal pobl sy'n byw mewn ardaloedd yn y Deyrnas Unedig lle mae cyfraddau heintio Covid yn uwch rhag teithio i Gymru a dod â'r feirws gyda nhw.
“Rwy’n benderfynol o gadw Cymru’n ddiogel.”
Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n cwblhau ei gwaith ar y rheoliadau ar gyfer y cyfyngiadau teithio.
Y bwriad yw y bydd y cyfyngiadau newydd ddod i rym am 6pm ddydd Gwener 16 Hydref.