Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn i bobl am eu barn ar sut i greu Cymru’n wlad sy’n sicrhau cydraddoldeb i bawb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw [dydd Mawrth 24 Medi] mae Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, wedi cyhoeddi amcanion drafft er mwyn sicrhau mwy o gydraddoldeb a chynhwysiant ar draws y wlad.

Mae’r amcanion newydd yn adlewyrchu’r sefyllfa go iawn heddiw, mewn cymdeithas lle gwelwyd ymgyrchoedd pwerus ar-lein fel #MeToo ac #LwiththeT, a hefyd yn ceisio paratoi ar gyfer yr effaith y gallai Brexit ei gael ar gyfreithiau hawliau dynol a chytuniadau rhyngwladol sy’n diogelu dinasyddion y DU.

Dyma’r nodau hirdymor allweddol y mae’r amcanion yn seiliedig arnynt:

  1. Dileu’r anghydraddoldebau a achosir gan dlodi;
  2. Cyflwyno mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar;
  3. Gwneud anghenion a hawliau pobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig yn ganolog i’r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus;
  4. Sicrhau bod Cymru’n arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywiol;
  5. Dileu difrïo, aflonyddwch, troseddau casineb a bwlio yn seiliedig ar hunaniaeth;
  6. Creu gwlad o gymunedau cydlynus sy'n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal;
  7. Cynyddu’r amrywiaeth o benderfynwyr mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus;
  8. Helpu’r sector cyhoeddus yng Nghymru i arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy'n dangos esiampl.

Dywedodd Jane Hutt:

Mae sicrhau cydraddoldeb o ran canlyniadau i bawb wrth wraidd uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer ein cymdeithas beth bynnag y bo’u hoed, gallu, rhyw, hil neu grefydd. Gall hyn olygu helpu’r rheini sydd mewn perygl o dlodi i osgoi hynny, ysgogi menywod i ddatblygu’n arweinwyr y mae’r wlad hon eu heisiau a’u hangen, neu sicrhau mynediad a hawliau i bobl anabl er mwyn sicrhau y gallant fyw fel y mynnant.

Mae ein hymgyrch i sicrhau cydraddoldeb yn bwysicach nag erioed heddiw, Yn y byd sydd ohoni sy’n newid o hyd, mae’r bwlch rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yn dal i dyfu, tra bod lleisiau eithafol yn manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu anoddefgarwch a chasineb – gan dargedu menywod yn benodol. 

Yn y cyfamser, mae blynyddoedd o gyni a’r ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit yn tanseilio ein gwerthoedd cyffredin ac yn rhannu ein cymunedau ar adeg pan fo fwy o angen nag erioed i ni weithio gyda’n gilydd. Rydyn ni’n benderfynol o barhau i hyrwyddo Cymru fel cenedl amrywiol a chroesawgar – un na fydd yn goddef hiliaeth nac unrhyw fath arall o wahaniaethu.

Yn y cyd-destun hwn, rhaid i ni wneud pob ymdrech i gadarnhau a dangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb, a bod yn wyliadwrus er mwyn diogelu’r hawliau dynol a’r cytuniadau rhyngwladol sy’n diogelu pob un ohonom.

Mae’r ymgynghoriad ar agor am 8 wythnos ar wefan Llywodraeth Cymru. Gall unrhyw un gyfrannu ato a gofynnir am sylwadau’n benodol gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau o’r sector preifat a’r trydydd sector y mae eu gwaith yn gysylltiedig â’r agweddau allweddol ar gydraddoldeb.