Mae’r Gweinidog sy’n gyfrifol am gymorth i gyn-filwyr yng Nghymru wedi diolch i aelodau presennol a chyn-aelodau’r lluoedd arfog am eu dewrder, wrth i’r genedl gofio aberthau’r holl bersonél ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn siarad yn y Senedd yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:
“Mae mis Tachwedd yn gyfle inni gofio, myfyrio a chydnabod y rhai o’r Deyrnas Unedig a Gwledydd y Gymanwlad sydd wedi brwydro mewn rhyfeloedd yn y gorffennol, a’u dewrder a’u haberth i ddiogelu ein ffordd o fyw.
“Gartref neu dramor, bydd y rhai sydd wedi gwasanaethu a’r rhai a wnaeth yr aberth fwyaf un yn cael eu cofio. Mae eu haberthau yn ein galluogi ni i fyw ein bywydau gyda’r rhyddid rydym yn ei fwynhau heddiw.
“Mae’r cyfnod Coffa hefyd yn bwysig er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddeall rhyfeloedd y gorffennol, fel y gallwn ddysgu gwersi ohonynt a sicrhau heddwch i genedlaethau’r dyfodol.”
Roedd y Gweinidog hefyd yn llawn canmoliaeth i’r personél presennol am y cymorth y maent wedi’i roi yn ystod y pandemig.
“Rhaid inni gofio hefyd am aelodau presennol y lluoedd arfog, a’u teuluoedd, gartref a thramor, a’u haberth i’n cadw ni’n ddiogel yn ein cymunedau heddiw.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged arbennig i’r dynion a menywod yn ein Lluoedd Arfog sy’n gweithio’n ddiflino gydag eraill i helpu ein cenedl i oresgyn yr heriau digynsail sy’n gysylltiedig â COVID-19.
“Maent wedi camu i’r adwy a rhoi cymorth hanfodol i Lywodraeth Cymru a phobl Cymru. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi’r broses o gyflwyno’r brechlynnau, helpu Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, danfon cyfarpar diogelu personol a dosbarthu bwyd. Rydym yn ddyledus iddynt ac yn diolch yn fawr iddynt am eu cymorth.”
Mae 2021 yn nodi 10 mlynedd ers i sefydliadau ar draws Cymru lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog.
Sefydlwyd y Cyfamod i helpu i sicrhau nad yw aelodau presennol a chyn-aelodau cymuned y Lluoedd Arfog o dan anfantais o ran cael mynediad at wasanaethau a bod y rhai sydd wedi rhoi’r mwyaf, fel y rhai sydd wedi’u hanafu neu’r rhai sydd wedi colli anwyliaid, yn cael ystyriaeth arbennig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill ar Fil y Lluoedd Arfog i ymgorffori Cyfamod y Lluoedd Arfog ymhellach yn gyfraith.
Yng Nghymru, mae’r cymorth a roddwyd fel rhan o gyfamod y Lluoedd Arfog yn cynnwys: Canllaw Ymaddasu ar gyfer unigolion sy’n gadael y Gwasanaeth a’u teuluoedd; cynlluniau gwarantu cyfweliad; cymorth ariannol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl cyn-aelodau’r lluoedd arfog, a chymorth ariannol ar gyfer eu plant; a chyllid i elusennau fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ymhlith cyn-aelodau’r Gwasanaeth.
Yn ogystal, mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, yn annog cyn-aelodau’r lluoedd arfog – boed yn y Lluoedd Rheolaidd, y Lluoedd Wrth Gefn neu’r rheini a wnaeth gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol – i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’w meddyg teulu eu bod wedi gwasanaethu eu gwlad er mwyn cael triniaeth flaenoriaeth, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl.
Dywedodd:
“Rydym wedi ymrwymo i Gyfamod y Lluoedd Arfog, ac yn cydnabod bod gan y wlad gyfan rwymedigaeth foesol i aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd. Mae’r Cyfamod hwn yn nodi sut y dylent ddisgwyl cael eu trin.
“Gall y gwasanaethau iechyd gefnogi cyn-filwyr yn effeithiol pan fyddant yn eu hadnabod. Mae’n hanfodol bod cyn-aelodau’r lluoedd arfog yn rhoi gwybod i weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn iddynt gael mynediad at y cymorth cywir pan fyddant ei angen.
“Yn ystod y cyfnod cofio hwn, a chan gofio’r digwyddiadau diweddar yn Afghanistan, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod cyn-aelodau’r lluoedd arfog yng Nghymru’n gwybod lle i fynd os ydynt angen cymorth.
“GIG Cymru i Gyn-filwyr yw’r unig ddarpariaeth gwasanaeth iechyd meddwl arbenigol i gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn y DU. Mae’n darparu therapyddion penodedig ar gyfer cyn-filwyr ym mhob Bwrdd Iechyd, gan gynnig therapïau a gymeradwywyd ar gyfer amrediad o faterion iechyd meddwl penodol i gyn-filwyr, er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a’u llesiant.”
Cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau yn ystod y pythefnos diwethaf i goffau’r rheini sydd wedi rhoi, ac sy’n parhau i roi eu bywydau i’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys Cae Coffa yng Nghastell Caerdydd a Gwasanaeth Coffa i Aelodau o’r Lluoedd Arfog o Leiafrifoedd Ethnig ac o’r Gymanwlad.
I nodi’r Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol ddydd Sul, cynhelir digwyddiad ger y gofeb ryfel ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd, a bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn bresennol.