Neidio i'r prif gynnwy

Cymru fydd un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ariannu cymwysiadau meddalwedd Microsoft ar gyfer yr ystafell ddosbarth, diolch i fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth i'r ystafell ddosbarth barhau i ddatblygu'n ddigidol, bydd y cam hwn yn sicrhau bod gan ysgolion o bob cwr o Gymru yr un mynediad at y cymwysiadau meddalwedd hanfodol hyn. Bydd hyn yn helpu dysgwyr i feithrin y sgiliau y maent eu hangen mewn byd sy'n fwyfwy digidol, sy'n un o nodau hanfodol Fframwaith Cymhwysedd Digidol Llywodraeth Cymru.

Nid yn unig bydd y buddsoddiad newydd hwn o £1.2 miliwn yn darparu mynediad tecach at adnoddau digidol, mae hefyd yn fesur uniongyrchol i helpu ysgolion i leihau eu costau a chostau teuluoedd. Daw yn sgil cyhoeddiadau yn ddiweddar gan y Gweinidog Addysg ynghylch cymorth â chost gwisg ysgol a chostau cit eraill, wrth i'r Llywodraeth gynyddu ei rhan o'r cyllid ar gyfer adeiladau ysgol a chynyddu'r nifer o blant sy'n elwa ar brydau ysgol am ddim.

Cadarnhaodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y bydd y feddalwedd ar gael drwy Hwb, platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn po bryd gan dros 85% o ysgolion Cymru.

Mae'r cytundeb trwyddedu'n cynnwys amrywiaeth o gynnyrch Microsoft, gan gynnwys fersiwn pen desg lawn Microsoft Office 365 ProPlus sy'n cynnwys rhyngwyneb ac offer gwirio yn Gymraeg, ynghyd â nodweddion diogelwch ychwanegol.

Mae Minecraft Education Edition with Code Builder wedi'i gynnwys hefyd, sy'n darparu amrywiaeth o ffyrdd i ddysgwyr archwilio, creu ac arbrofi â chodio. Mae hyn yn cefnogi cynllun Cracio'r Cod  Llywodraeth Cymru i ehangu codio ym mhob rhan o Gymru.

Bydd pob athro a dysgwr yn gallu lawrlwytho a gosod y fersiynau diweddaraf o'r holl gymwysiadau meddalwedd hyn ar hyd at 5 dyfais bersonol am ddim. Bydd fersiynau ar-lein o'r cymwysiadau meddalwedd yn parhau i fod ar gael drwy Hwb, i'w defnyddio mewn unrhyw fan, fel cyfrifiaduron cyhoeddus mewn llyfrgelloedd.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Rydw i'n falch o ddweud ein bod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i weithredu yn y dull blaengar hwn a darparu'r feddalwedd hon i ysgolion. Drwy ein diwygiadau i'r cwricwlwm, rydym eisiau i bob dysgwr feithrin lefel uchel o sgiliau digidol, llythrennedd a rhifedd, ac mae mynediad at y cymwyseddau hyn yn gam pwysig i'r cyfeiriad hwnnw.

"Bydd hyn yn ysgafnhau'r baich ar ysgolion  o dalu eu ffioedd trwyddedu eu hunain a bydd hefyd yn sicrhau bod gan bob un o'n hysgolion yr un mynediad at yr offer digidol sydd eu hangen arnynt i gynyddu gallu ein dysgwyr yn y sgiliau hyn. Mae hyn yn hollbwysig wrth inni leihau'r bwlch mewn cyrhaeddiad a chodi safonau yn ein hysgolion."

Dywedodd Cindy Rose, Prif Weithredwr Microsoft UK:

"Bydd cyflwyno Office 365 yn gweddnewid amgylchiadau i athrawon a phlant, gan eu galluogi i gydweithio'n fwy effeithiol, a fydd yn arbed amser ac yn gwella deilliannau dysgu. Hefyd, mae Office 365 yn darparu sgiliau gwerthfawr i fyfyrwyr i'w helpu i gael gwaith ar ôl gadael yr ysgol.

"Yn ogystal, bydd yr hygyrchedd sy'n rhan annatod o Office 365 yn golygu bod pob myfyriwr yn magu'r hyder i gyfrannu at drafodaethau dysgu. Yn yr un modd bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau meddwl cyfrifiadurol drwy dechnoleg ymgolli Minecraft Education Edition, ar fformat sy’n addas i’r ystafell ddosbarth ac sy’n ysgogi arloesi a bod yn greadigol. Mae’r cytundeb hwn yn sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain y byd wrth ddarparu addysg ddigidol."