Neidio i'r prif gynnwy

Yr wythnos hon, mae Cymru wedi pasio carreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i ddarparu noddfa i ddinasyddion Affganistan sydd wedi cefnogi ein Lluoedd Arfog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr wythnos hon, mae Cymru wedi pasio carreg filltir bwysig yn ein hymdrechion i ddarparu noddfa i ddinasyddion Affganistan sydd wedi cefnogi ein Lluoedd Arfog. Mae Cymru bellach yn rhoi llety i 50 o deuluoedd, sy'n cynnwys tua 230 o unigolion. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai sydd wedi cyrraedd wedi cefnogi unedau'r Lluoedd Arfog yng Nghymru yn uniongyrchol yn Affganistan dros yr 20 mlynedd diwethaf. 

Mae dull 'Tîm Cymru' wedi sicrhau bod gwaith amlasiantaethol cydweithredol wedi'i gyflawni'n gyflym i sicrhau y gall Cymru ymgorffori ein gweledigaeth Cenedl Noddfa go iawn. Mae hyn wedi cynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn, sefydliadau cefnogi ffoaduriaid ac Affganiaid Cymreig lleol eu hunain. 

Dyma'r enghraifft ddiweddaraf yn hanes hir Cymru o ddarparu noddfa i'r rhai sy'n ceisio noddfa. Mae awdurdodau lleol Cymru hefyd yn parhau i gefnogi Cynllun Ailsefydlu Pobl Sy'n Agored i Niwed a'r system lloches. Bydd y dull cenedlaethol cydweithredol hwn yn parhau yn ystod yr wythnosau nesaf i sicrhau y gellir dod â rhagor o deuluoedd yn ddiogel i Gymru a’u hintegreiddio'n effeithiol yn ein cymunedau. 

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol:

Heddiw, rydym yn croesawu'r teuluoedd a'r unigolion sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn Affganistan. Rydym wedi nodi’n glir ein haddewid bod Cymru'n Genedl Noddfa ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth sy'n bosibl i sicrhau bod dehonglwyr, ffoaduriaid a theuluoedd o Affganistan yn cael eu croesawu. 

Mae Cymru'n Genedl Noddfa – byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi croeso cynnes yn y tymor byr a bydd ein cymunedau, heb os, yn cael eu cyfoethogi gan eu sgiliau a'u profiadau yn y dyfodol agos iawn. 

Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynlluniau hyn ac wedi cynnig eu cefnogaeth a'u cymorth i ddinasyddion Affganistan sy'n cael eu hailgartrefu yn y DU. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid yn y dull cydweithredol hwn o weithredu Cenedl Noddfa i gydgysylltu'r addewid sylweddol hwn. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch arbennig i Urdd Gobaith Cymru am gael y weledigaeth ddyngarol i sicrhau y gallwn ddarparu croeso arbennig Cymreig i'n ffrindiau newydd o Affganistan.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:

Mae hyn wedi bod yn ymdrech tîm enfawr i Gymru ar draws pob sector, ac rydym yn ddiolchgar i'n partneriaid am ein galluogi i agor ein drysau fel noddfa i deuluoedd sy'n chwilio am loches a diogelwch. 

Fel sefydliad, rydym yn falch o helpu ac rydym yn parhau i rannu â'n haelodau bwysigrwydd teyrngarwch i wlad a diwylliant ond hefyd i ddynoliaeth a lles uwch. 

Mae gennym rwymedigaeth foesol fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol i gefnogi prosiectau dyngarol a chynnig llaw o gyfeillgarwch a chefnogaeth i gymuned Affganistan yn eu cyfnod o angen.

Meddai’r Cyrnol Sion Walker, Dirprwy Comander Brigâd 160 (Cymru): 

Mae Brigâd 160 (Cymru) a'i Chyd-bwyllgor Milwrol (Cymru) wedi'i strwythuro i gefnogi Llywodraeth Cymru a phob awdurdod lleol wrth ddelio â sefyllfaoedd mawr fel yr ydym wedi'i wneud drwy gydol pandemig COVID. 

Drwy gefnogi'r holl asiantaethau hynny sy'n ymwneud â datblygu cynllun Cymru, mae wedi eu galluogi i ganolbwyntio ar eu meysydd cyfrifoldeb allweddol ac wedi galluogi dwyn cynllun Cymru ynghyd mewn ychydig dros wythnos. 

Mae cysylltiadau hanesyddol uniongyrchol â Chymru ac unedau sy'n wynebu Cymru ac aelodau o lawer o'r teuluoedd hynny sy'n dod i Gymru. Byddant wedi gweithio ochr yn ochr â'i gilydd yn ystod cyfnodau anodd iawn yn Affganistan; mae ein hymwneud yn gydnabyddiaeth o'r gefnogaeth a roddwyd a'r cyfeillgarwch a ddatblygwyd yn ystod yr amseroedd hynny ac rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan yn y gwaith o wneud Cymru'n genedl noddfa.

Dywedodd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: 

Mae'r teuluoedd hyn wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi er mwyn achub eu bywydau, wrth ffoi rhag y Taliban. Mae'n anodd i'r rhan fwyaf ohonom ddychmygu'r hyn y maent wedi bod drwyddo. Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio y tu ôl i'r llenni drwy'r amser i sicrhau ein bod yn barod i chwarae ein rhan, ochr yn ochr â'n holl bartneriaid, i leddfu'r argyfwng ofnadwy hwn. 

Mae gan Gaerdydd hanes hir a balch o groesawu pobl o bob hil a chred i'n dinas a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob un o'r teuluoedd hyn yn teimlo'r croeso hwnnw o'r diwrnod cyntaf iddynt gyrraedd. 

 Rydym yn eu croesawu i gyd, gan wybod y byddant yn dod yn aelodau pwysig a gwerthfawr o'n cymuned fywiog, amlddiwylliannol cyn bo hir.