Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi cyhoeddi y gall ffoaduriaid sy’n ffoi rhag y gwrthdaro parhaus yn Wcráin deithio am ddim ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru o heddiw ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cynllun yn helpu y ffoaduriaid tra byddant yn ymgartrefu yng Nghymru, gyda'r cynllun teithio am ddim ar gael am chwe mis.

Gall gwladolion Wcráin hawlio teithio am ddim drwy ddangos pasbort Wcráin i swyddogion tocynnau a staff mewn gorsafoedd.

Mae’r cynllun yn estyniad ar raglen barhaus gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru, fel rhan o’i huchelgais i ddod yn Genedl Noddfa gyntaf y byd fel y cymeradwyir gan y Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae fy neges i bobl Wcráin yn glir; mae croeso cynnes yn aros amdanoch chi yng Nghymru.

“Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu teithio am ddim i bob ffoadur yn gam arall sy’n dangos bod Cymru’n lle diogel ac yn noddfa i’r rhai sydd angen ein help ni.

“Rwyf hefyd yn falch bod Cymru’n bwriadu bod yn arch-noddwr ar gyfer cynllun Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, a fydd yn darparu llwybr diogel i bobl ddod i’r DU am hyd at dair blynedd.”

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Bydd pob un ohonom ni wedi gweld y golygfeydd brawychus a gofidus o Wcráin yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae'r hyn sy'n digwydd wedi effeithio'n fawr ar lawer ohonom, ac rydym eisiau gwneud yr hyn a allwn ni i gefnogi pobl Wcráin yn eu cyfnod o angen.

“Rydym yn falch o’n henw da am gefnogi grwpiau gyda theithio am ddim, gan gynnwys bod yn rhan o gynllun cenedlaethol Rheilffordd i Loches sy’n cynnig teithio am ddim i bobl sy’n ffoi rhag cam-drin domestig, a chynnig teithiau trên am ddim i weithwyr y GIG yn ystod 2020. Dyma ymestyn ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol ymhellach, a helpu i wneud y byd yn lle gwell.”