Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain fel rhan o gynlluniau i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
- Gweinidog yr Economi yn ymrwymo £5 miliwn i feithrin diwylliant newydd o entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru
- cynllunio rhan o genhadaeth Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.
Wrth gyhoeddi £5 miliwn dros y tair blynedd nesaf i gyflawni'r agwedd hunangyflogaeth ar y Warant Uchelgeisiol i Bobl Ifanc, dywedodd y Gweinidog y bydd cefnogi entrepreneuriaid ifanc yn rhan hanfodol o wneud Cymru'n wlad lle mae mwy o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus wrth gynllunio eu dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol na fydd unrhyw genhedlaeth ar goll yng Nghymru o ganlyniad i bandemig Covid. Bydd y Warant i Bobl Ifanc yn rhoi'r cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed yng Nghymru.
Mae'r buddsoddiad wedi'i gynnwys yn yr ymrwymiad o £20.9 miliwn y flwyddyn i ymestyn gwasanaeth hynod lwyddiannus Busnes Cymru y tu hwnt i ddiwedd cyllid yr UE yn 2023.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Bydd annog oedolion ifanc i aros yng Nghymru drwy adeiladu eu gyrfaoedd a lansio eu busnesau eu hunain yma yn allweddol wrth i ni ailgynllunio ein heconomi ar ôl y coronafeirws.
"Rydym yn gweld hyn fel dechrau cyfnod newydd, a dyna pam rydym yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi fywiog sy'n rhoi cyfleoedd i bawb wrth i ni fuddsoddi mewn diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
"Mae ein pobl ifanc yn allweddol i lwyddiant Cymru yn y dyfodol. Mae eu doniau, eu sgiliau a'u creadigrwydd yn hanfodol i sicrhau ein llwyddiant economaidd. Rwy'n benderfynol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu fel llywodraeth i helpu i sicrhau'r manteision economaidd hirdymor y mae ein pobl ifanc i gyd yn eu haeddu i gyflawni eu potensial.
"Drwy weithio gyda'n gilydd tuag at y weledigaeth rydym wedi'i gosod ar gyfer Cymru wyrddach a thecach gallwn baratoi llwybr at ffyniant i bob person ifanc, waeth beth fo'i gefndir."
Bydd y £5 miliwn yn adeiladu ar lwyddiant Syniadau Mawr Cymru, sy'n cael ei redeg gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu dysgu drwy weithdai dan arweiniad entrepreneuriaid a rhwydwaith o Hyrwyddwyr i helpu i bontio o Addysg Bellach ac Uwch i fyd gwaith.
Darperir cymorth arbenigol drwy:
- grant dechrau busnes newydd i bobl ifanc o hyd at £2,000 fesul busnes. Bydd hyn yn cefnogi 1,200 o bobl ifanc sy'n ddi-waith, wedi gadael addysg neu hyfforddiant yng nghyfnod cynnar busnes i ddod yn hunangyflogedig
- cymorth cyn ac arôl cychwyn am flwyddyn, wedi'i gynllun i oi helpu unigolion i oresgyn unrhyw rwystrauid dechrau busnes, gan gynnwys cymorth cynghori busnes un-i-un, mentor a entrepreneuriaid, cynllun i o busnes a rheolaeth ariannol.
Yn ddiweddar, lansiodd Poppi Kingsepp, entrepreneur o Gastell-nedd Port Talbot, ei busnes arlwyo ei hun gyda chymorth Syniadau Mawr Cymru a Grant Rhwystrau i Ddechrau Busnes Cymru.
Dywedodd:
"Roedd lansio busnes yn y sector lletygarwch ar ôl y pandemig yn her, yn enwedig i rywun fel fi nad oedd yn gwybod dim am fusnes. Ond roedd gan Syniadau Mawr Cymru gymaint o gyngor gwerthfawr i'w gynnig i mi fel entrepreneur ifanc a rhoddodd i mi'r offer yr oedd eu hangen arnaf i lywio'r diwydiant hwn.
"Ni allwn fod wedi gwneud hynny heb gefnogaeth fy nghynghorydd busnes, a ddaeth i fyny i bob un o'n cyfarfodydd cynnydd wythnosol gyda chyngor defnyddiol, adnoddau defnyddiol a llawer o asedau i helpu i dyfu fy musnes."
Dechreuodd Wythnos Dechrau Busnes Haf 2022 ddoe, cydweithrediad gan sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch mewn partneriaeth â Syniadau Mawr Cymru, gyda mwy na 180 o bobl ifanc wedi cofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein rhad ac am ddim, sydd wedi ennill gwobrau, i gefnogi'r broses o drosglwyddo pobl ifanc o addysg i fyd busnes.
Ychwanegodd Gweinidog yr Economi:
"Fe dorrodd Llywodraeth y DU ei haddewid i roi arian yr UE y byddai Cymru yn ei dderbyn yn llawn. Ni all Llywodraeth Cymru dalu'r £1.1 biliwn sydd ar goll ond rydym yn benderfynol o gefnogi pobl ifanc gyda'r cyllid sydd gennym. Mae ein cefnogaeth yn fuddsoddiad ar gyfer llwyddiant economi fodern yng Nghymru yn y dyfodol, wedi'i bweru gan weithwyr medrus a busnesau uchelgeisiol.
"Byddwn yn parhau i bwyso ar lywodraeth y DU i gefnogi gweledigaeth Tîm Cymru lle mae talent yn cael ei gefnogi a'r £1 biliwn a addawyd i Gymru yn cael ei adfer."