Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ffordd y darparodd Llywodraeth Cymru liniaduron a dyfeisiau wi-fi i fynd i'r afael â'r diffyg mynediad at ddysgu ar-lein a achoswyd gan y pandemig coronafeirws wedi'i ddisgrifio fel un clodwiw mewn adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener, 9 Hydref).

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adroddiad newydd gan y Sefydliad Polisi Addysg hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod teuluoedd sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn cael cymorth amserol a phriodol.

Yr adroddiad Education policy responses across the UK to the pandemic yw'r dadansoddiad manwl cyntaf sy'n cymharu sut yr oedd llywodraethau pob un o wledydd y DU yn cefnogi addysg disgyblion yn ystod y cyfnod pan oedd ysgolion ar gau eleni. 

Mewn adran sy'n edrych ar gefnogi dysgu ar-lein gartref, mae'r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru, yn wahanol i wledydd eraill y DU, wedi gallu defnyddio seilwaith sefydledig i weithredu'n gyflym ar ôl cau'r ysgolion.

Meddai bod llunwyr polisi ac ysgolion wedi gallu ail-gyfeirio’r stociau presennol o liniaduron ac anfon llwybrwyr rhyngrwyd i ddysgwyr difreintiedig erbyn diwedd mis Mai.

Daeth y broses o ddarparu gliniaduron a llwybrwyr rhyngrwyd yn ddiweddarach yn Lloegr, gan fod angen systemau caffael newydd. Cafodd y rhan fwyaf o'r offer ei ddarparu erbyn diwedd mis Mehefin. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, roedd yr ymateb yn arafach o lawer. Nid oedd y broses o ddarparu gliniaduron a’r rhyngrwyd yn y gwledydd hyn wedi'i chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ysgol hyd yn oed, gan adael disgyblion tlotach i aros sawl mis i gael gafael ar ddeunyddiau dysgu ar-lein.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i edrych ar brydau ysgol, gan ddweud bod ymatebion Cymru a’r Alban wedi bod yn fwy effeithiol gan iddynt gael eu darparu drwy awdurdodau lleol, gan ddefnyddio'r seilwaith presennol a'u bod yn hyblyg yn ôl anghenion teuluoedd.

O ran ymestyn cymorth i'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim i'r haf, Cymru oedd yr unig wlad i roi sicrwydd i deuluoedd drwy gyhoeddi'r polisi yn gynnar iawn, ym mis Ebrill.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae'r adroddiad hwn yn ddiddorol tu hwnt; rwy’ wedi dweud o'r blaen nad oedd canllaw ar gael ar sut i redeg system addysg yn ystod pandemig.

Yn amlwg, mae digon o le i wella gan bob llywodraeth ledled y DU. Dyna pam ei bod mor ddefnyddiol casglu tystiolaeth fel hyn – mae datganoli'n golygu ein bod i gyd yn gallu dysgu oddi wrth ein gilydd i gyflawni dros ein pobl.

Mae sicrhau nad oes unrhyw blentyn neu deulu yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i'r argyfwng hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, felly mae'n galonogol iawn gweld y Sefydliad Polisi Addysg yn tynnu sylw at ein gwaith o ran darparu prydau ysgol am ddim a chefnogi dysgu ar-lein.