Neidio i'r prif gynnwy

Dim amheuaeth ynghylch arbenigedd ac uchelgais Cymru yng nghynhadledd fyd-eang gwynt ar y môr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yng nghynhadledd Global Offshore Wind ym Manceinion heddiw, rhannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ei weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru yn y chwyldro gwynt ar y môr.

Gyda'r cymysgedd cywir o arbenigedd a daearyddiaeth, mae Cymru wedi bod yn gartref i brosiectau arloesol gwynt ar y môr ers amser. Fel rhan o araith allweddol i gynulleidfa ryngwladol o’r diwydiant, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles, adeiladu ar hyn, gan roi ffocws cryf ar fuddsoddiad strategol, cadwyni cyflenwi cadarn, a datblygu sgiliau i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa ragorol i arwain y ffordd tuag at ddyfodol ynni gwyrdd.

Bydd y gwaith hwn yn dechrau drwy ddatblygu a gwella galluogrwydd ar y môr yn y porthladdoedd sydd wedi eu lleoli’n strategol yng Nghaergybi, Mostyn, Sir Benfro a Phort Talbot, gyda phob un ohonynt eisoes wedi chwarae rhan ganolog yn llwyddiannau gwynt ar y môr Cymru.

Dywedodd Jeremy Miles: 

Roedd Cymru ar flaen y gad o ran un chwyldro diwydiannol, a nawr mae gennym yr offer, yr arbenigedd, a'r uchelgais i fod ar flaen y gad yn y nesaf.

"Nid datrysiad ynni yn unig yw gwynt ar y môr; mae ein porthladdoedd yn agor y drws i dwf economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rwy'n falch o'r rhan y mae Cymru wedi'i chwarae wrth arwain ar gynhyrchu ynni gwynt ar y môr hyd yn hyn, ac rwy’n ymrwymo i sicrhau'r buddion mwyaf posibl i Gymru trwy sbarduno buddsoddiad gwerth uchel mewn gweithgynhyrchu, seilwaith, a sgiliau wrth i ni fynd ati i ddatblygu a chefnogi prosiectau pellach ar safleoedd allweddol.

"Fel llywodraeth, bydd gwaith yn dechrau’n fuan gyda'n porthladdoedd i ddatblygu strategaeth glir ar gyfer gwynt ar y môr, gan sicrhau bod gan y diwydiant y sicrwydd sydd ei angen arno, a bod busnesau yn y gadwyn gyflenwi yn y sefyllfa orau i ateb y galw. Rydym eisiau symud ymlaen yn gyflym gyda hyn, a byddwn yn gweithio gyda'r diwydiant, arbenigwyr a chymunedau lleol i gael y gorau o ddiwydiant sydd â photensial enfawr, nid yn unig i Gymru ond ar draws y byd."

Mae Cynllun Sgiliau Sero Net Llywodraeth Cymru yn hanfodol er mwyn gwireddu Cymru sero-net. Ychwanegodd Jeremy Miles: 

Mae sgiliau'n hanfodol i wella cynhyrchiant a chyflawni'r cyfleoedd economaidd wrth bontio i Gymru sero-net. Rwy am sicrhau bod pwyslais y Llywodraeth ar weithio gyda'r diwydiant, undebau llafur, a sefydliadau addysg i wella ein cynnig sgiliau, a datblygu mentrau addysg a hyfforddiant pwrpasol sydd wedi'u teilwra ar gyfer y diwydiant gwynt ar y môr yr rydym yn gwybod sy'n darparu cymaint o gyfleoedd gwirioneddol lewyrchus a chynaliadwy."