Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn galw ar gyrff cyheoddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol megis penderfynu ar flaenoriaethau a gosod amcanion, i ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. 

Cafodd y ddogfen hon ei chreu i arddangos enghreifftiau o rai o’r canlyniadau anghyfartal sy’n codi o anfantais econmaidd-gymdeithasol. Mae hefyd yn dangos ble y mae effaith rhain wedi’u gwaethygu o ganlyniad i Covid-19. Y gobaith yw y bydd y cynnwys yn bwynt cychwyn defnyddiol ar gyfer gwneuthurwyr polisïau wrth iddynt ystyried canlyniadau anghyfartaledd economaidd-gymdeithasol. 

Mae’r ddogfen hon yn gipolwg ar wybodaeth nad yw mewn trefn arbennig, nid yw’n cynnwys popeth ac yn hytrach mae’n cynnig pwynt cychwyn ar gyfer casglu rhagor o wybodaeth a dealltwriaeth.  I ddeall effaith penderfyniad yn iawn, caiff gwneuthurwyr polisîau eu hannog i drafod gyda’r rhai y mae penderfyniad yn cael effaith arnynt, yn benodol, y rhai sy’n dioddef o anghyfartaledd economaidd-gymdeithasol ar draws ystod o gymunedau a meysydd o ddiddordeb. 

Mae meysydd ffocws yn seiliedig ar y fframwaith mesur y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei ddefnyddio i fonitro cydraddoldeb a hawliau dynol.

Darllenwch y canllawiau ar y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i gael mwy o wybodaeth.

Addysg

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal 1

Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 2

Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol

Mae adolygiad llenyddol gan y Ganolfan Ymchwil Mewn Plentyndod Cynnar yn gweld bod y dystiolaeth a archwiliwyd ganddynt yn dangos, yn y DU, yn enwedig, bod statws cymdeithasol-economaidd rhieni yn parhau i fod y prif rhagfynegydd i blant ffynnu fel oedolion.  Mae difrifoldeb anghydraddoldeb y blynyddoedd cynnar yn y DU wedi ei ddogfennu’n gyson; ac mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod hanner y bylchau cyrhaeddiad ar gyfer disgyblion eisoes yn bodoli ar ddechrau ysgol gynradd.  Gan ddefnyddio data astudiaeth Arolwg Carfan y Mileniwm, mae’r ymchwil hwn yn dangos bod bylchau mawr yn bodoli yn y DU ar gyfer profion geirfa rhwng plant 4 a 5 mlwydd oed o deuluoedd incwm canolig a’r rhai o’r teuluoedd sydd o’r pumed rhan isaf o incwm.3

Mae data ar gyfer Cymru hefyd yn dangos bod gan ddisgyblion sydd yn gymwys am brydau ysgol am ddim a phlant mewn gofal ganlyniadau addysgol gwaeth mewn ysgolion ar gyfartaledd gyda’r bwlch yn ehangu wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.4

Mae effaith ysgolion yn cau ar addysg plant ac effaith y dirwasgiad gwaethaf mewn hanes ar ragolygon swyddi ac enillion i’r bobl ifanc hynny sy’n dod i’r farchnad lafur eleni yn niweidiol, yn hirdymor ac yn cael ei deimlo’n waeth gan y rhai hynny sydd eisoes dan anfantais.5

Mae’r Sutton Trust yn nodi bod disgyblion mewn ysgolion annibynnol ddwywaith yn fwy tebygol o ddilyn gwersi ar-lein bob dydd, fel disbyglion mewn ysgolion gwladol, ac mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) wedi dangos nad rhaniad gwladol/preifat yw hyn yn unig.  Mae ysgolion gwladol sy’n gwasanaethu disgyblion mwy llewyrchus yn fwy tebygol o gynnig cymorth gyda dysgu na’r rhai sy’n gwasanaethu disgyblion sydd o dan fwy o anfantais.  Ers i’r ysgolion gau, mae plant o deuluoedd mwy llewyrchus wedi bod yn treulio 30 y cant yn fwy o amser ar ddysgu gartref o gymharu â phlant tlotach.  Mae hyn oherwydd amrywiol resymau megis bod adnoddau ar gael (e.e. tiwtora preifat neu sgyrsiau gyda athrawon), sefyllfa well yn y cartref (e.e. gliniadur/tabled/rhyngrwyd ar gael), a’u rhieni yn nodi eu bod yn teimlo’n fwy hyderus yn eu cefnogi.  Mae’r bwlch mewn amser dysgu rhwng plant mwy llewyrchus a llai llewyrchus eisoes yn cyfateb ag o leiaf saith niwrnod, a bydd yn debygol o gyrraedd pymtheg niwrnod os na fydd yr ysgolion yn dychwelyd tan fis Medi.  Mae hyn yn fwy na digon i gael effaith fesuradwy ar ganlyniadau ac i ddad-wneud sawl blwyddyn o gynnydd tuag at gyrhaeddiad addysgol gwell gan y rhai sydd o dan fwyaf o anfantais.5

Ystadegau:

Tlodi incwm cymharol

Tlodi parhaus

Amddifadedd materol ac incwm isel

Ystadegau eraill Llywodraeth Cymru

Ymchwil:

Adroddiad Llesiant Cymru

A yw Cymru’n Decach?

 

1. Dylid ystyried y rhain fel enghreifftiau o dystiolaeth y gellid ei ystyried wrth asesu effaith polisi/rhaglen. Nid ydynt yn ddarlun cynhwysfawr o’r holl dystiolaeth sydd ar gael, darperir dolenni yn yr adran adnoddau i gynorthwyo gyda hyn.
2. Ibid
3. Bertram, T. and Pascal, C. (2014) Early Years Literature Review
4. Llywodraeth Cymru (2019) Well-being of Wales 2018-19
5. Johnson, P. (2020) School closures have put an entire generation at a huge disadvantage

Gwaith

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal

Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol
 

Wrth ystyried yr holl blant yng Nghymru, mae’r tebygolrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol yn llawer mwy, ac mae’r bwlch yn cynyddu i’r rhai hynny sy’n byw ar aelwyd ddi-waith o gymharu â’r rhai sy’n byw ar aelwyd sy’n gweithio  (ble yr oedd o leiaf un o’r oedolion mewn gwaith).6

Mae’r pandemig wedi cael yr effaith fwyaf ar weithwyr ar dâl isel.  Mae’r rhai sy’n ennill leiaf dair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swydd neu wedi bod ar ffyrlo na’r rhai ar gyflog uchel, ac yn fwy na dwywaith mwy tebygol o wneud swyddi sy’n golygu risg i iechyd.7 Mae gweithio o bell yn tueddu i fod yn haws i’r rhai sydd ar gyflogau uwch.8

Yn ogystal â’r gweithwyr ar y cyflogau isaf, mae sectorau sydd yn cau yn ystod yr argyfwng coronafeirws hefyd yn cael effaith ar y gweithwyr ieuangach, a menywod, fwyaf.  Mae dadansoddiad gan Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos bod gweithwyr o dan 25 oddeutu dwy a hanner gwaith yn fwy tebygol o weithio mewn sector sydd bellach wedi cau na gweithwyr eraill, a bod un mewn chwech (17% o) weithwyr benywaidd mewn sectorau o’r fath, o gymharu ag un mewn saith (13%) o weithwyr gwrywaidd.  Fodd bynnag, un ffactor lliniarol yw bod mwyafrif y gweithwyr ieuengach yr effeithiwyd arnynt a’r rhai ar enillion is yn byw gyda rhieni neu eraill nad ydynt wedi gweld cymaint o effaith ar eu henillion, felly gallai nifer ohonynt ddioddef llai o effaith ar eu safonau bwyd na fyddent fel arall.9

Er bod effaith yr argyfwng hwn ar y farchnad lafur wedi bod ar y cyflogau is yn bennaf, mae gostyngiadau mewn cyflog wedi ei rannu’n fwy cyfartal ar draws y dosbarthiad incwm.  Caiff y gwahaniaeth rhwng enillion a’r effaith ar incwm ei egluro gan y ffaith bod y rhai sy’n ennill llai wedi eu lledaenu ar draws y cwintel incwm; bod nifer ar yr incwm isaf ddim mewn gwaith pan ddechreuodd yr argyfwng ac felly nad oeddent wedi dod i gysylltiad â’r sioc yn y farchnad lafur; a bod y system nawdd cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn ysgafnhau colledion swyddi a gostyngiadau cyflog ar gyfer yr incwm isaf.10

 

6 . Llywodraeth Cymru (2019) Relative income poverty – Housing tenure, economic status and type of employment, financial year ending 2019
7. Resolution Foundation (2020) A new settlement for the low paid
8. Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (2020) Covid-19 and inequalities
9. Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (2020) Sector shut-downs during the coronavirus crisis affect the youngest and lowest paid workers, and women, the most
10. Resolution Foundation (2020) Return to spender

Safonau byw

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol

Roedd 23% o bawb yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2016-17 a 2018-19. Mae’r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog am yr 16 cyfnod amser diwethaf. Ar 23%, mae’r ffigur ychydig yn is na ffigur y llynedd.  Plant oedd y grŵp oedran oedd yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (ar 28%) ac mae hyn yn wir ers amser.11

Roedd 11% o blant sy’n byw yng Nghymru rhwng 2016-17 a 2018-19 mewn aelwydydd o amddifadedd materol ac incwm isel.12

Mae dadansoddiad gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) yn rhagweld y gallai y pandemig olygu bod 1.1 miliwn yn fwy o bobl yn y DU mewn tlodi ar ddiwedd 2020, gan gynnwys 200,000 o blant.13

Gwelwyd o Arolwg Covid-19 (Ton 1) yr Understanding Society bod dwywaith cymaint o bobl yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol waethygu o gymharu â’r nifer sy’n disgwyl iddo wella, gyda hyn yn codi i dair gwaith cymaint yn y cwintel incwm isaf, a mwy na thair gwaith ar gyfer rhieni sengl.14

Mae adroddiad gan y Resolution Foundation a Standard Life Foundation yn dangos bod y pandemig yn gweld cartrefi incwm is yn troi at fenthyca, tra bod aelwydydd incwm uwch yn cynyddu eu cynilion.15

Gwelodd arolwg y Resolution Foundation fod un mewn chwech o’r rhai sy’n rhentu wedi lleihau eu gwariant i dalu am gostau eu tai ers y coronafeirws ac yn profi amddifadedd materol, ar gyfradd dair gwaith yn uwch na pherchnogion tai â morgais.16 Yn ogystal â gorfodi nifer o bobl mewn llety rhent preifat i ostwng eu gwariant sylfaenol, mae’r pandemig wedi golygu bod rhai pobl, yn enwedig yr ifanc, yn symud tŷ.  Gwelodd arolwg gan y Resolution Foundation bod oddeutu un o bob deg (10 y cant) o rentwyr preifat wedi symud tŷ.  Mae oddeutu hanner (47 y cant) o’r rhai sydd wedi symud tŷ rhwng 18-24 mlwydd oed, tra bod tri mewn pump (62 y cant) wedi symud at eu rhieni.17

Mae hyn yn cyd-fynd â dadansoddiad Sefydliad Bevan sy’n dangos bod aelwydydd ifanc yn llawer llai tebygol o fod â digon o adnoddau i ymdopi â gostyngiad mewn incwm nag aelwydydd hŷn, gyda llai na dau ran o bump o bobl ifanc rhwng 25 a 34 mlwydd oed â digon o  gynilion i gyfateb â mis o’u hincwm rheolaidd o gymharu â bron 90% o bobl dros 75 mlwydd oed.18

 

11. Llywodraeth Cymru (2020) Relative income poverty: April 2018 to March 2019
12. Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw. Caiff person ei ddiffinio fel un sy’n byw mewn amddifadedd materol os nad yw ef neu hi yn gallu cael mynediad at nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau. Aelwydydd incwm isel yw’r rhai sydd â chyfanswm incwm y cartref yn is na 70% o incwm aelwydydd cyfartalog y DU – cyn talu costau tai. 
13. Institute for Public Policy Research (IPPR) (2020) 1.1 million more people face poverty at end of 2020 as a result of coronavirus pandemic, finds IPPR
14. Benzeval, M. et al (2020) Understanding Society COVID-19 Survey, April Briefing Note: The Economic Effects, Papur Gweithio Rhif 10/2020
15. Resolution Foundation (2020) Pandemic is seeing lower income households turn to borrowing, while higher income households increase their savings.
16. Resolution Foundation (2020) Coping with housing costs during the coronavirus crisis - Flash findings from the Resolution Foundation’s coronavirus survey
17. Resolution Foundation (2020) Private renters fifty per cent more likely to have fallen behind with housing costs than mortgagors
18. Sefydliad Bevan  (2020) Which Welsh households are most vulnerable to a loss of income because of Covid-19?

Iechyd

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol

Mae graddiant cymdeithasol clir o ran canlyniadau iechyd sy’n cael eu dogfennu gan Arolwg Marmot (diweddariad 2010 a 2020).  Mae’n ei wneud yn glir bod gan iechyd gysylltiad agos â’r amodau y cafodd pobl eu geni iddynt, eu magu, yn byw ynddynt, eu gwaith a’u hoedran ac annhegwch o ran pŵer, arian ac adnoddau (h.y. penderfynwyr cymdeithasol iechyd).19

Yn wir, mae data ar gyfer Cymru yn dangos bod gan oedolion a phlant sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru ddisgwyliad oes is na’r rhai sy’n byw yn yr  ardaloedd â’r amddifadedd isaf.20

Bu gwahaniaethau amlwg yn y marwolaethau o Covid-19. Rhwng dechrau Mawrth a diwedd Ebrill, roedd y cyfraddau marwolaeth wedi eu haddasu yn ôl oedran yn y degfed ardal â’r amddifadedd uchaf a’r degfed isaf.  Y rhai hynny ar incwm is yw y rhai mwyaf tebygol o fod â chyflyrau meddygol sy’n bodoli eisoes, sy’n eu gwneud yn fwy tebygol o gael eu heintio â Covid-19.21

Mae mwy o aelodau cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu heintio ac yn marw o Covid-19.  Mae dadansoddiad o  farwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru a Lloegr, a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), yn dangos bod y perygl o farwolaeth ymhlith rhai grwpiau ethnig yn llawer uwch na’r rhai ar gyfer pobl wyn.  Mae hyn yn rhannol oherwydd anfantais economaidd-gymdeithasol ac amgylchiadau eraill, ond nid yw rhan o’r gwahaniaeth wedi ei egluro eto.  Hyd yn oed wedi ystyried oedran a nodweddion demograffig-gymdeithasol eraill a mesurau hunangofnodi iechyd ac anabledd, mae’r perygl o farwolaeth sy’n gysylltiedig â Covid-19 mewn dynion a menywod o ethnigrwydd Du 1.9 gwaith yn fwy tebygol nac ar gyfer ethnigrwydd Gwyn, ac roedd dynion o fewn y grŵp ethnig Bangladeshi a Pakistani1.8 gwaith yn fwy tebygol o farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 na dynion Gwyn.22

Mae rhagor o dystiolaeth ar effaith Covid-19 ar gymunedau BAME i’w gweld yn y papurau tystiolaeth ac ystadegau a gyhoeddwyd gan Grŵp Cynghori ar Covid-19 a phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. 

 

19. Marmot, M. et al. (2020) Health Equity in England: The Marmot Review ten years on
20. Equality and Human Rights Commission (2018) Is Wales Fairer?
21. Blundell, R. et al (2020) Covid-19: the impacts of the pandemic on inequality
22. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (2020) Coronavirus (COVID-19) related deaths by ethnic group, England and Wales: 2 March 2020 to 10 April 2020

Cyfiawnder a diogelwch bersonol

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (2018-19) yn dangos bod pobl nad oedd mewn amddifadedd materiol yn fwy tebygol o deimlo’n ddiogel yn eu hardal leol, o gymharu â’r rhai oedd mewn amddifadedd materol.23

Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Bryste yn dangos, er gwaethaf rhai cyfyngiadau pwysig o ran methodoleg, bod dadansoddiadau presennol yn y DU ac yn rhyngwladol wedi dangos yn gyson bod y perygl o drais a chamdriniaeth ddomestig yn gysylltiedig ag incwm isel, straen economaidd, a derbyn budd-daliadau.  Caiff y cysylltiad hwn ei gynnal gan gyfres gymhleth o berthnasau a rhyngddibyniaethau.24

Cofnodwyd ym mis Ebrill y bu gostyngiad yn y galwadau i’r llinell gymorth am ddim Byw Heb Ofn a cheisiadau ar-lein am gymorth a chyngor yn gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rywiol o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.25  Fodd bynnag, fel y mae Cymorth i Fenywod Cymru yn nodi, er bod nifer y menywod sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gostwng ar adegau, nid yw hyn yn golygu nad yw y rhai sy’n goroesi yn profi cam-driniaeth neu drais, yn hytrach gallai fod yn anoddach iddynt ddefnyddio’r gwasanaethau.26

Mae adroddiad gan Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin yn datgan, er bod y canllawiau ‘aros gartref’ yn angenrheidiol i warchod y GIG ac i arbed bywydau drwy gael gostyngiad yn nifer yr achosion o Covid-19, i rai pobl, nid yw y cartref yn lle diogel i fod ynddo, ac mae mesurau o’r fath wedi cynyddu’r rhwystrau i hysbysu rhywun am achosion o gam-drin.   Gallai’r rhai sy’n byw gyda trais ddomestig wynebu mwy o risgiau o fod gartref yn ystod y cyfnod clo, yn ogystal â’r broblem bod gwasanaethau cymorth yn anoddach i’w cyrraedd a’u darparu.  Yn wir, mae’r adroddiad yn nodi bod tystiolaeth yn awgrymu bod achosion yn dod yn fwy cymhleth a difrifol, gyda lefelau uwch o drais corfforol neu reolaeth drwy orfodaeth.27

Mae Nodyn Swyddfa Seneddol Gwyddoniaeth a Thechnoleg (POST), sy’n rhoi tystiolaeth ymchwil ar gyfer Senedd y DU, wedi cynnal arolwg o 1,100 o arbenigwyr ym mis Ebrill 2020 gan ofyn iddynt beth oedd eu pryderon pwysicaf yn y tymor byr, canolig a hirdymor sy’n gysylltiedig â Covid-19.  O ran troseddu, gwelwyd bod arbenigwyr yn pryderu ynghylch y cynnydd posibl o rai mathau arbennig o droseddau yn ystod yr achosion, megis cam-drin domestig, troseddu cyfundrefnol, llygredd, troseddu seibr a throseddu casineb.  O ran cyfiawnder troseddol, mae arbenigwyr yn poeni ynghylch ôl-groniad o achosion mewn llysoedd a fu rhaid eu hoedi oherwydd y pandemig.  Roeddent hefyd yn poeni am don o achosion newydd o ganlyniad i’r pandemig.  Yn olaf roedd pryderon ynghylch iechyd carcharorion, a gwybod y cynlluniau ynghylch eu rhyddhau yn gynnar.28

 

23. Llywodraeth Cymru (2020) What factors are linked to people feeling safe in their local area?
24. Fahmy, E. et al (2016) Evidence and policy review: Domestic violence and poverty. Adroddiad ymchwil ar gyfer y Joseph Rowntree Foundation
25. Wales Online (2020) My message for domestic abuse victims, Jane Hutt AM
26. Cymorth i Fenywod (2020) Responding to Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence during the COVID 19 Pandemic
27. House of Commons Home Affairs Committee (2020) Home Office preparedness for Covid-19 (Coronavirus): domestic abuse and risks of harm within the home
28. Parliamentary Office of Science and Technology (2020) Crime, justice, policing and COVID-19: What are experts concerned about?

Cyfranogiad

Enghreifftiau o dystiolaeth sy’n dangos y cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau anghyfartal Enghreifftiau o dystiolaeth o effaith pellach Covid-19 Ffynonellau gwybodaeth ddefnyddiol

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dangos, yn 2018-19, bod gan 87% o aelwydydd fynediad at y rhyngrwyd.  Mae mynediad at y rhyngrwyd ar aelwydydd yn amrywio yn ôl lefelau Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru o amddifadedd ardal.  Yn 2018-19, roedd gan 92% o aelwydydd yn yr ardaloedd oedd â’r amddifadedd isaf fynediad at y rhyngrwyd, o gymharu gyda 83% o aelwydydd yn yr ardaloedd oedd â’r amddifadedd uchaf.   Mae’r Wythnos Sgrinio Maethiad hefyd yn dangos bod aelwydydd mewn tai cymdeithasol yn llai tebygol o gael mynediad at y rhyngrwyd (75% o aelwydydd o’r fath) na’r rhai mewn llety wedi’i rentu’n breifat (90%) neu yn eiddo i berchen-feddiannwyr.  Mae’r rhai sydd mewn gwaith yn fwy tebygol o gael mynediad at y rhyngrwyd yn eu cartrefi (96%) na’r rhai hynny sy’n ddi-waith (84%) neu’n segur yn economaidd (78%).29

Mae erthygl gan y Joseph Rowntree Foundation (JRF) yn dangos bod  Covid-19 wedi tynnu sylw at raniad digidol ac mae’n tynnu sylw at effaith eithrio digidol ar y rhai hynny sydd mewn tlodi, gyda rhai yn teimlo wedi eu hynysu a bod pobl wedi anghofio amdanynt.   Mae Adroddiad JRF yn nodi bod pobl yn eu cartrefi heb gyflenwadau bwyd, a heb fynediad at y byd digidol, ni allant glywed y newyddion diweddraf, hysbysiadau iechyd cyhoeddus, addysgu’r plant gartref, ddefnyddio dulliau o ddanfon bwyd neu ddiweddaru chwiliadau swyddi Credyd Cynhwysol.  Gallai hyn gael effaith ymarferol ac emosiynol.  Nid yw cau llyfrgelloedd (yn unol ag ymateb iechyd cyhoeddus i’r pandemig) wedi helpu, gan mai i nifer oedd wedi’u cloi mewn tlodi, llyfrgelloedd oedd yr unig ffordd o gael mynediad ar-lein.30

Mae Arolwg Understanding Society Covid-19 (Wave 1) yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael cyfrifiadur ar gyfer dysgu gartref, gyda 79% o fyfyrwyr angen cyfrifiadur (neu dabled neu liniadur) ar gyfer o leiaf hanner y gwaith a ddarperir gan ysgolion, a dim ond 6% heb fod angen cyfrifiadur ar gyfer unrhyw waith ysgol.  Gwelodd yr arolwg, yng Nghymru, mai dim ond 9% o fyfyrwyr oedd heb fynediad at gyfrifiadur.  Fodd bynnag, roedd 48% o fyfyrwyr yn rhannu eu hoffer gydag eraill.31

Mae NSW 2018-19 yn dangos nad oedd gan 14% o ymatebwyr fynediad at gar.32  Mae’n bosibl bod defnyddio y drafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yn ystod y pandemig yn eu rhoi mewn mwy o berygl o ran Covid-19.

O gymharu â rhanbarthau eraill o Brydain Fawr, roedd pobl yng Nghymru fwyaf tebygol o gael mynediad at ardd breifat (gyda bron pawb â mynediad at ardd ar 97%), ond dyma’r wlad lleiaf tebygol o ymweld â pharc neu fan gwyrdd cyhoeddus.33

 

29. Llywodraeth Cymru (2019) National Survey for Wales 2018-19, Internet use and digital skills
30. Joseph Rowntree Foundation (2020) Coronavirus response must include digital access to connect us all
31. Benzeval, M. et al (2020) Understanding Society COVID-19 Survey April Briefing Note: Home schooling, Understanding Society Working Paper No 12/2020
32. Llywodraeth Cymru (2019) National Survey for Wales 2018-19, results viewer
33. Swyddfa Ystadeffice for National Statistics (2020) Coronavirus and the social impacts on the countries and regions of Britain: April 2020

Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF . Maint Ffeil 139 KB.

Maint Ffeil 139 KB. Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.