Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i ddeddfu yn erbyn rhestr drylwyr o blastigau untro, wrth i'r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth i wahardd gwerthu cynhyrchion tafladwy, diangen i ddefnyddwyr.
Mae'r gyfraith newydd yn gam allweddol i leihau llif gwastraff plastig niweidiol i amgylchedd Cymru, ac mae'n cael ei chyflwyno ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid eraill.
Gan ddod i rym yn nhymor yr hydref 2023, bydd yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol orfodi'r drosedd o gyflenwi neu gynnig cyflenwi'r eitemau sy'n cael eu taflu'n sbwriel yn aml – hyd yn oed pan fyddant yn rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd, Cymru yw’r trydydd gorau yn y byd o ran ailgylchu domestig, ac mae'r gyfraith newydd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd camau uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
At hynny, mae'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r Senedd, ddiwygio'r rhestr gyfredol o gynhyrchion sydd wedi'u gwahardd neu eu cyfyngu. Mae hynny'n golygu y bydd Gweinidogion yn gallu gwahardd mathau eraill o gynhyrchion plastig untro sy'n niweidiol i'r amgylchedd yn y dyfodol, drwy basio rheoliadau.
Gan siarad ar ôl y bleidlais, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, ei bod yn rhoi Cymru yn y rheng flaen ar gyfer gweithredu yn y dyfodol:
“Yn ogystal â bod yn hyll, mae plastigau untro yn ddinistriol dros ben i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd.
“Mae angen ymdrech tîm er mwyn adeiladu Cymru wyrddach. Mae'r gyfraith newydd hon yn adeiladu ar ymdrechion cymunedau, busnesau a phobl ifanc sydd eisoes wedi dewis mynd yn ddi-blastig.
“Nawr yw'r amser i bob un ohonom feddwl yn wahanol a newid ein harferion er mwyn osgoi gadael gwaddol o wastraff plastig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”
Mae'r rhan fwyaf o blastig wedi'i wneud o danwydd ffosil. Gall ei leihau gynorthwyo ymdrechion tuag at sero net a helpu i leihau effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Byddwn yn parhau i weithio gyda'r byd diwydiant, busnesau, cyrff y trydydd sector, y byd academaidd, ac eraill – gan sicrhau ein bod yn ffarwelio am byth â’r pla plastig hwn sy’n cael ei daflu’n sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau a’n moroedd.”
Meddai Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn croesawu deddfwriaeth i wahardd plastigau untro. Mae’n gam cadarnhaol ar ein taith tuag at drawsnewid y ffordd yr ydym yn defnyddio plastigau ac yn lleihau gwastraff fel cenedl. Yn dyngedfennol, mae’n paratoi’r ffordd i ddiwydiant symud i ffwrdd o arferion llygru sydd yn niweidiol i’n hamgylchedd ac yn niweidio ein bywyd gwyllt.
“Ein gobaith yw y bydd y pwerau a roddir i’r Bil yn galluogi Cymru i ymateb i’r bygythiadau sydd yn dod i’r amlwg yn sgil cynnyrch untro eraill wrth i dueddiadau defnyddwyr barhau i esblygu.”
Dywedodd Louise Reddy, Swyddog Polisi, Surfers Against Sewrage:
“Wrth i fwy a mwy o blastig gyrraedd y môr bob blwyddyn mae gwaharddiad Cymru o blastig untro yn gam pwysig ymlaen ar gyfer gwaredu llygredd plastig. Rydym yn edrych ymlaen at weld Cymru’n parhau i atal plastig yn y môr drwy ddatblygu’n economi gylchol a sicrhau bod y rhai sy’n llygru yn taluer lles pobl a’r blaned.”