Wrth i dimau rygbi Cymru ac Iwerddon wynebu ei gilydd yn y Chwe Gwlad heddiw, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles gyllid gwerth dros €6 miliwn ar gyfer tri phrosiect newydd a fydd yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng ein dwy wlad.
Gyda chymorth cyllid o un o raglenni’r UE, sef y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi bod yn cydweithio i fynd i’r afael â meysydd sydd o bwys i’r ddwy wlad fel y newid yn yr hinsawdd, ymchwil dechnolegol, datblygu cynaliadwy a thwristiaeth ers 2007.
Bydd y cynlluniau a gyhoeddir heddiw yn:
- tyfu llinad y dŵr ar ddŵr gwastraff amaethyddol i gynhyrchu bwyd anifeiliaid ar gyfer y diwydiant cig eidion a’r diwydiant llaeth, wrth helpu i daclo llygredd mewn dŵr croyw a dŵr arfordirol
- manteisio ar dreftadaeth naturiol a diwylliannol Pen Llŷn yng Nghymru a phenrhyn Iveragh yn Iwerddon i hybu cyfleoedd ecodwristiaeth gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn mewn cymunedau arfordirol
- cynnal astudiaeth fanwl o boblogaeth a chynefin dwy rywogaeth o adar dŵr i ddeall yn well sut y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gymunedau arfordirol ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon
Mae pob un o’r prosiectau hyn yn pwysleisio mantais cydweithio ar draws ffiniau ar bryderon a rennir, gan gysylltu prosiectau a hybu buddiannau cyffredin i roi budd i gymunedau a busnesau ar y ddwy ochr i Fôr Iwerddon.
Wrth gyhoeddi’r cyllid newydd, dywedodd Mr Miles:
“Mae Cymru yn dal i fod yn genedl sydd â chysylltiadau rhyngwladol. Mae ein perthynas â’n cymdogion agos, Iwerddon ac Ewrop, yn parhau i fod yn gryf, a bydd gweithio fel tîm ar draws ffiniau yn y modd hwn yn parhau i fod yn rhan hanfodol o’n strategaeth ryngwladol, a lansiwyd fis diwethaf.
“Dyma brosiectau ardderchog sy’n ymdrin â materion mawr mewn ffordd glyfar a chreadigol. Mae gan Lywodraeth Cymru record wych o helpu i wthio prosiectau cydweithredol dros y llinell fantais, a dyna pam y mae hi mor bwysig ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi cyllid fel hwn yn y dyfodol yn y rhannau hynny o Gymru sydd ei angen fwyaf.
“Rydym yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru a’r DU yn parhau’n rhan o gyfnod nesaf y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd, fel y gallwn barhau i ennill tir a chydweithio yn rhan o raglenni mawr sy’n gweithio ar draws ffiniau ar y materion hyn. Mae ein gwaith tîm ag Iwerddon drwy’r rhaglen hon, ac â gweddill cyfandir Ewrop, yn werthfawr a hanfodol.”
Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:
“Mae’r prosiectau hyn yn enghraifft ardderchog o Strategaeth Ryngwladol Cymru. Drwy’r Strategaeth hon, ein nod yw dod â phawb ynghyd, gan sicrhau ein bod yn defnyddio ein hasedau i weithio mewn partneriaeth gydag eraill a diogelu buddiannau pobl Cymru.
“Mae menter Iwerddon Cymru yn rhan o’r rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd. Mae’n hanfodol bwysig bod Cymru a’r DU yn rhan o gyfnod nesaf y rhaglen hon. Mae angen inni sicrhau ein bod ni i gyd yn cyd-dynnu, yn cydweithio i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael yr effaith fwyaf posibl, ac yn cydweithredu mewn rhaglenni mawr gan weithio ar draws ffiniau i ddiogelu buddiannau a rennir – gydag Iwerddon, fel yr ydym yn ei wneud drwy’r prosiectau hyn, yn ogystal â gyda gweddill cyfandir Ewrop.”