Siarter Iaith
Wyt ti wedi gweld wynebau direidus y ddau yma yn ddiweddar?
Mae Siarter Iaith, cynllun er mwyn hybu’r defnydd o Gymraeg yn gymdeithasol yn ysgolion cynradd Cymru, wedi cyflwyno dau gymeriad newydd. Bydd y ddau arwr yma ar bosteri a bathodynnau yn annog plant rhwng 4 a 7 oed i ddefnyddio’r iaith ar yr iard, yn y cartref ac yn y dosbarth.
Fel rhan o'r Siarter, mae pob ysgol unigol yn cwblhau ymarfer sylfaenol i bennu defnydd o'r iaith cyn datblygu cynllun gweithredu i weithio tuag at wobr efydd, arian neu aur. Mae'r cynllun yn annog cyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - yn ddisgyblion, rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach.
Mae cyfathrebu yn rhan bwysig o fywyd cyfoes - mae tyfu fyny yn ddwyieithog yn golygu bydd plant yn datblygu sgiliau bywyd. Gelli ddarllen mwy am y Siarter Iaith yn eich ardal chi ar wefannau eich ysgol lleol.
Mae gan gymeriadau y Siarter, Seren a Sbarc, gân arbennig, gyda’r geiriau i ganu gyda’r gân yn y fideo. Mae’r gân hefyd ar gael ar Spotify. Diolch i Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, am ysgrifennu’r geiriau ac i Osian Williams am gyfansoddi’r gerddoriaeth.
Seren a Sbarc yn Achub (Cwpan) y Bydysawd
Mae’r llyfr yn dilyn antur Seren a Sbarc wrth iddyn nhw ddilyn tîm rygbi Cymru i Siapan, a cheisio achub Cwpan y Bydysawd gan osgoi ninjas, robots, a robo-ninjas!
Bydd y llyfr yn mynd i ysgolion cynradd ar draws Cymru, ac mae croeso i chi rannu gyda ni eich bod wedi derbyn y llyfr drwy roi neges ar Twitter gan gyfeirio at ein tudalen ni @SerenaSbarc.