Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar helpu myfyrwyr AB i gwblhau eu cymwysterau galwedigaethol yr haf hwn.
Heddiw (dydd Sul 7 Chwefror 2021) mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £29 miliwn ychwanegol i golegau, gan gynnwys £26.5 miliwn i gefnogi dysgwyr ar raglenni dysgu galwedigaethol.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr i gwblhau eu cymwysterau galwedigaethol yn ystod y flwyddyn academaidd hon, drwy ddarparu cymorth ychwanegol a dileu rhwystrau a allai atal eu cwblhau.
Hefyd bydd £2.5 miliwn ychwanegol yn cefnogi colegau a darparwyr hyfforddiant preifat Cymru i ddarparu cymorth Iechyd Meddwl ychwanegol i gydnabod y problemau lles y meddwl cynyddol o ganlyniad i'r pandemig.
Mae'r cyllid yn ychwanegol at y £23 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi colegau ym mis Gorffennaf.
Ddydd Gwener (5 Chwefror), cyhoeddwyd y bydd rhai dysgwyr galwedigaethol yn dychwelyd i'r coleg ar ôl y seibiant hanner tymor. Bydd dysgwyr sy'n astudio cymwysterau "trwydded i ymarfer", gan gynnwys prentisiaid, yn y grŵp blaenoriaeth cyntaf i ddychwelyd, fel eu bod yn gallu cael mynediad i’r cyfleusterau a'r offer sy’n angenrheidiol ar gyfer eu cyrsiau.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
Mae tua 50,000 o ddysgwyr yng Nghymru yn dilyn cymwysterau galwedigaethol ar hyn o bryd. Bydd y cymorth hwn yn helpu ein colegau i ddarparu mwy fyth o gefnogaeth i helpu'r dysgwyr hynny i ennill y cymwysterau maen nhw wedi gweithio mor galed tuag atynt.
Mae'n bwysig ein bod ni’n cymryd camau i gefnogi myfyrwyr y flwyddyn hon, fel eu bod yn gallu mynd ymlaen i gam nesaf eu haddysg, hyfforddiant neu waith fel roeddent wedi cynllunio. Rydym yn gweithio gyda cholegau i gynllunio dull diogel o ddychwelyd, gan gadw pellter cymdeithasol, i'r myfyrwyr galwedigaethol sydd ei angen fwyaf.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:
Fel Llywodraeth, rydym eisiau sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl oherwydd y pandemig. Dyma enghraifft arall o'r cyllid rydym wedi'i gyhoeddi eleni i gefnogi pobl ifanc ar bob cam o'u siwrnai addysg.