Cymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch (prif ddata): 2024 (dros dro)
Ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu darparwr addysg uwch ar gyfer 2024 (dros dro).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r tudalen hwn yn darparu crynodeb o'r ystadegau a amlinellir yng nghyhoeddiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) o’r enw Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru 2023/24. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys ymgeiswyr a myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n dilyn cwrs addysg uwch (AU) dynodedig mewn coleg prifysgol neu addysg bellach (AB) yn y DU, yn ogystal ag ymgeiswyr a myfyrwyr yr UE (y tu allan i'r DU) sy'n dilyn cwrs dynodedig yng Nghymru.
Yn dilyn adolygiad Diamond o gyllid myfyrwyr Cymru, gwnaed newidiadau polisi yn 2018/19 a welodd grantiau ffioedd dysgu yn cael eu diddymu'n raddol a llai o symiau benthyciadau cynhaliaeth, wedi'u gwrthbwyso gan fwy o Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG).
Prif ganlyniadau
Y swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr addysg uwch oedd £1.2 biliwn,cynnydd o (2.7%) ers 2022/23.
Nifer y myfyrwyr a oedd yn derbyn cyllid oedd 78,700, i lawr 2.0% o 80,400 yn 2022/23.
Ers 2013/14 mae'r swm a dalwyd allan ar gyfer cyllid addysg uwch wedi cynyddu 75.6% o £671.6 miliwn, tra bo nifer y myfyrwyr sy’n cael cyllid wedi cynyddu 21.2% (o 65,000).
Cymorth i Israddedigion ar gyfer Ffioedd Dysgu
Gostyngodd y cyfanswm a dalwyd allan am fenthyciadau ffioedd dysgu israddedigion amser llawn 2.4% ers y flwyddyn flaenorol, i £433.3 miliwn.
Cymorth cynhaliaeth i israddedigion
Gostyngodd nifer yr israddedigion amser llawn sy'n cael benthyciadau cynhaliaeth 3.6% i 52,400 o israddedigion. Cynyddodd y swm a dalwyd 12.4% o £339.5 miliwn yn 2022/23 i £381.6 miliwn yn 2023/24. Mae'r cynnydd yn y swm a dalwyd yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael o'i gymharu â blwyddyn academaidd 2022/23.
Dyfarnwyd cyfanswm o £193.9 miliwn mewn WGLG amser llawn, gostyngiad o 4.2% o'r £202.4 miliwn a ddyfarnwyd yn 2022/23.
Cymorth ôl-raddedig
Talwyd £54.9 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd meistr), gostyngiad o 0.8%.
Talwyd £17.5 miliwn mewn grantiau ôl-raddedig (gradd meistr yn unig). Mae hyn yn ostyngiad o (4.6%) ers y llynedd (£18.3 miliwn).
Talwyd £3.8 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd doethuriaeth), gostyngiad o 2.9% ers y llynedd.
Data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2024/25
Mae data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2024/25 yn dangos bod tua 68,600 o fyfyrwyr yn cael cyllid, gostyngiad bach o’i gymharu â’r 69,500 ar yr un pryd y llynedd.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dhilia Chiwara
E-bost: addysguwchachyllidmyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099