Neidio i'r prif gynnwy

Os yw’r biliau’n pentyrru a’ch bod yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, gallai cymorth fod ar gael i chi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan Lywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi bron i 300,000 o aelwydydd incwm isel yng Nghymru bob blwyddyn gyda’u biliau treth gyngor. Ond â llawer iawn mwy o bobl yn wynebu caledi ariannol oherwydd yr argyfwng coronafeirws, mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans yn annog pawb i ddarganfod a ydynt yn gymwys am gymorth.

Dywedodd Rebecca Evans:

“Rydym yn cydnabod ei bod yn gyfnod heriol iawn i bawb, wrth i lawer o aelwydydd ledled Cymru ei chael yn anodd ymdopi’n ariannol oherwydd effeithiau COVID-19.

“Gan fod llawer o bobl yn mynd ati i gael cymorth ariannol am y tro cyntaf, mae angen inni wneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael.

“Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor gan Lywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi cannoedd o filoedd o aelwydydd incwm isel ledled Cymru, ond rydym yn gwybod bod llawer sydd ddim yn cael y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Byddwn i’n annog pobl i fynd i’n gwefan neu siarad â’u hawdurdod lleol i ddarganfod a allen nhw fod yn talu llai o’r dreth gyngor.”

Gallech hefyd fod yn gymwys i dalu llai o’r dreth gyngor:

  • os ydych yn byw ar eich pen eich hun, neu gyda phobl/plant nad ydynt yn talu’r dreth gyngor
  • os ydych yn fyfyriwr
  • os ydych yn anabl
  • os oes gennych nam meddyliol difrifol

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Hoffai cynghorau sicrhau eu trigolion ein bod ni yma i’w cynorthwyo. Mae’n gyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen ac rydym yn gweld cynnydd mewn ceisiadau am gymorth ledled Cymru. Os ydych yn cael trafferth talu’r dreth gyngor cysylltwch â’ch awdurdod lleol i sicrhau’ch bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael.”