Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cadarnhau cyllid ffermydd yng Nghymru ar gyfer 2020 yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd yn darparu £243miliwn ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd ffermwyr yng Nghymru’n cael taliad y Cynllun Taliad Sylfaenol yn 2020 ar yr un lefel ag yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd y gefnogaeth i economi wledig Cymru a’r amgylchedd yr orau bosib ar ôl Brexit drwy drosglwyddo 15% o gyllideb 2020 ar gyfer y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) i gefnogi datblygiad gwledig yn 2021/22. 

O dan y Polisi Amaeth Cyffredin, mae gan aelod wladwriaethau a gweinyddiaethau hawl i drosglwyddo hyd at 15% o gyllideb y BPS i’r gyllideb Datblygiad Gwledig.

Mae modd buddsoddi’r cyllid hwn mewn amrywiaeth o gynlluniau a blaenoriaethau pwysig, gan gynnwys y canlynol:   

  • Cefnogaeth i ffermwyr i wneud eu busnes yn fwy amgylcheddol gyfeillgar drwy leihau carbon ac allyriadau tŷ gwydr,
  • Prosiectau sy’n creu gwelliannau mewn ansawdd dŵr ac aer,
  • Gwella gwytnwch ein cynefinoedd a’n rhywogaethau gwerthfawr,
  • Rhaglenni plannu coed gan gynnwys cefnogaeth i’r Goedwig Genedlaethol ar gyfer Cymru,
  • Cefnogaeth i’n busnesau bwyd a diod ar ôl Brexit.

Dywedodd Lesley Griffiths: 

Mae Cymru wedi elwa o flynyddoedd lawer o fuddsoddiad Ewropeaidd, gan gynnwys mewn amaethyddiaeth a datblygiad gwledig. Mae hyn yn hanfodol bwysig i ffermwyr Cymru ac i gymunedau gwledig.

Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan Drysorlys EM ond gadewch i ni fod yn glir, dim ond cadarnhau ymrwymiadau a wnaed eisoes yw hyn.  

Hoffwn alw ar Lywodraeth y DU i roi gwarant o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, ac i addo cyllid yn lle’r cyllid presennol gan yr UE ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Bydd hyn yn galluogi i ni gynllunio gwaith pwysig yn y dyfodol i gefnogi amaethyddiaeth, datblygu'r economi, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwarchod ein hamgylchedd.