Neidio i'r prif gynnwy

Mae disgwyl i fenter sydd wedi trawsnewid sut y gall data gweinyddol dienw gael eu defnyddio’n ddiogel i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru barhau, diolch i fuddsoddiad o bron £17 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru) wedi cael £16,985,944 tan 2026 fel rhan o fuddsoddiad Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK) gwerth £90 miliwn i'r DU cyfan gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy’n rhan o sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Cafodd YDG Cymru ei sefydlu yn 2018 fel rhan o ADR UK, ac mae’n uno arbenigwyr ymchwil Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Mae tîm YDG Cymru yn cynnwys academyddion blaenllaw gydag arbenigedd yn y prif faterion y mae’r genedl yn eu hwynebu. Drwy gydweithio, mae YDG Cymru’n ceisio sicrhau bod mewnwelediadau a thystiolaeth amserol sy’n cael eu hysgogi gan ddata gweinyddol yn cael eu defnyddio er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ar bolisïau ar gyfer pobl Cymru.

Mae gwaith YDG Cymru yn cyd-fynd â’r meysydd allweddol a gafodd eu nodi yn Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 Llywodraeth Cymru megis addysg, iechyd meddwl a thai. Mae’n defnyddio annibyniaeth ac arbenigedd academaidd tîm o ymchwilwyr, dadansoddwyr a gwyddonwyr data.

Mae tîm YDG Cymru wedi arwain y ffordd ym maes technegau blaenllaw o ddadansoddi data a rhagoriaeth ymchwil, gan weithio ochr yn ochr â’r adnodd byd-enwog SAIL Databank,  er mwyn cyflawni gwaith ymchwil cadarn, diogel a gwybodus. O ganlyniad, hyd yn hyn mae YDG Cymru wedi cynhyrchu dadansoddiadau sylweddol o dan arweiniad ymchwilwyr ac wedi dylanwadu ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ym maes tai, lles, blynyddoedd cynnar, addysg a sgiliau, iechyd meddwl ac yn fwyaf diweddar, bandemig Covid-19.

Gwnaeth YDG Cymru chwarae rhan ganolog wrth lywio dealltwriaeth a’r broses ddilynol o wneud penderfyniadau ar lefel polisi yn ystod y pandemig yng Nghymru ac ar draws y DU, gyda’i ymchwilwyr yn gweithio i ddeall lledaeniad y pandemig yng Nghymru a’i effaith ar bobl a gwasanaethau. Bydd YDG Cymru’n parhau i helpu gyda’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru drwy gynnig mewnwelediadau amserol ar faterion sy’n effeithio ar bobl Cymru, gan fynd i’r afael ag effaith eilaidd y pandemig ar bobl a gwasanaethau.

Dywedodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

Rwy’n falch y bydd y gwaith arloesol gan bartneriaeth YDG Cymru yn parhau i gynnig mewnwelediadau, sy’n cael eu hysgogi gan ddata, ar yr heriau rydym yn eu hwynebu fel cenedl. Bydd y bartneriaeth barhaus hon yn ein galluogi i gael mynediad at sail dystiolaeth gyfoethocach, gan ein helpu i lywio a chefnogi penderfyniadau ar bolisïau yn y dyfodol wrth inni fynd ati i gyflwyno ein Rhaglen Lywodraethu a’n hymrwymiadau i ddatblygu Cymru gryfach, decach a gwyrddach.

Wrth siarad am y buddsoddiad pellach, dywedodd Cyd-gyfarwyddwr YDG Cymru a Phrif Ystadegydd Cymru, Stephanie Howarth:

Mae’r buddsoddiad parhaus i bartneriaeth YDG Cymru ac ADR UK yn dangos pwysigrwydd y gwaith arloesol hwn yma yng Nghymru a ledled y DU.

Dangosodd pandemig Covid-19, mewn ffordd na welwyd ei thebyg o’r blaen, y dadansoddiadau cyflym y mae modd eu cyflawni pan mae arbenigwyr yn cael gafael ar ddata dienw ac amserol. Gwnaeth ymdrechion YDG Cymru yn ystod y pandemig helpu i lywio nifer o benderfyniadau yn ystod y sefyllfa brysur a oedd yn newid yn gyflym.

Gall data dienw a diogel roi’r wybodaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau bod y broses o wneud polisïau yng Nghymru a’r DU yn wybodus, gan helpu i wneud penderfyniadau gwell yn y pen draw ar gyfer y bobl sy’n byw yma.

Dywedodd Cyd-gyfarwydd YDG Cymru ac Athro Gwybodeg Prifysgol Abertawe, yr Athro David Ford:

Mae YDG Cymru wedi buddsoddi’n sylweddol yn ei seilwaith a’i arbenigedd er mwyn sicrhau y gall data dienw gael eu defnyddio’n ddiogel er mwyn deall yn well y byd rydym yn byw ynddo.

Hyd yma, mae ein rhaglen waith wedi creu allbynnau sylweddol sydd wedi helpu i lywio meysydd allweddol polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn edrych ymlaen at y pedair blynedd nesaf wrth inni barhau i arloesi mewn arferion data diogel ac arddangos y rôl y gall data dienw ei chwarae, pan gânt eu defnyddio’n ddiogel ac yn gywir, o ran helpu i lywio’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru a ledled y DU.

Bydd y buddsoddiad parhaus yng Nghymru’n sicrhau y gallwn barhau i gymryd camau tuag at ddeall data gweinyddol yn well a sut y gall hynny helpu i ateb cwestiynau ar faterion allweddol sy’n wynebu Cymru. Bydd y cyllid yn sicrhau bod seilwaith data diogel, gallu ymchwil a hyfforddiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol o ymchwilwyr a dadansoddwyr data yn parhau i fod ymhlith y gorau yn y byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr ADR UK, Dr Emma Gordon

Rydym wrth ein bodd i roi cyllid i YDG Cymru er mwyn iddo barhau â’i raglenni pwysig ym maes ymchwil data gweinyddol a chysylltu data. Mae ei waith ar themâu ADR UK megis tai a chymunedau, plant a phobl ifanc, iechyd a lles ac yn benodol Covid-19 wedi llywio’r broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau’n adeiladol ac wedi gwella bywyd llawer o bobl yng Nghymru.

Mae’r estyniad cyllidol hwn yn tystio i’r effaith ardderchog a gafodd YDG Cymru o ran cyflawni gwaith ymchwil arloesol yn ystod cyfnod peilot ADR UK. Mae SAIL Databank hefyd wedi bod yn adnodd gwerthfawr iawn sydd wedi galluogi YDG Cymru - a’r gymuned ymchwil ehangach - i gynnal ymchwil sy’n berthnasol i bolisi.

Wrth i bartneriaeth ADR UK ddechrau cyfnod newydd o ymchwil diolch i’r cyllid newydd hwn, rydym yn teimlo’n gyffrous i gyflawni gwaith ymchwil newydd ac arloesol i ddata gweinyddol. Rydym hefyd yn ymrwymedig i wneud data gweinyddol a chysylltiedig yn ddiogel ac yn fwy hygyrch nag erioed i ystod eang o ymchwilwyr hyfforddedig, er mwyn dylanwadu ar bolisïau mewn ffordd sy’n gwasanaethu’r cyhoedd.

YDG Cymru ochr yn ochr ag ADR Northern Ireland, ADR Scotland, ADR England ac ONS sy’n rhan o fuddsoddiad ADR UK ar gyfer y DU cyfan, a gaiff ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o sefydliad Ymchwil ac Arloesi yn y DU).

Darllenwch ragor am ADR UK a sut y gallwch gael gafael ar ddata'n ddiogel