Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi bod gwaith ar y gweill i integreiddio rhaglen frechu COVID-19 Cymru â rhaglenni imiwneiddio eraill sydd eisoes yn bodoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn rhan o strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru sydd wedi’i diweddaru ac sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Iau 24 Chwefror). Mae’r strategaeth yn nodi ein cynlluniau ar gyfer 2022.

Mae gwaith i gynllunio a datblygu'r fframwaith hwn yn mynd rhagddo'n gyflym, a’n huchelgais yw sicrhau canlyniadau sydd ymhlith y gorau yn y byd o ran clefydau y gellir eu hatal drwy frechu.

Bydd holl raglenni brechu Cymru yn rhan o’r fframwaith, gan gynnwys COVID-19 a’r ffliw, ac ymysg yr amcanion y mae annog cyfraddau brechu uchel, lleihau cyfraddau marwolaethau, sicrhau mynediad a chyfle cyfartal, rhoi’r gwasanaeth ar waith yn effeithiol a darparu gwerth am arian.

Hyd yma, rydym wedi rhoi mwy na 6.8 miliwn o ddosau o frechiadau COVID-19 yng Nghymru. Mae mwy na 91 y cant o boblogaeth Cymru sydd dros 12 oed wedi'u brechu ag o leiaf un dos; 86 y cant ag o leiaf ddau ddos a 70 y cant â thrydydd dos a/neu frechiad atgyfnerthu.

Drwy gydol y pandemig, mae gofal sylfaenol wedi cynnal lefelau uchel o amddiffyniad drwy raglenni brechu rheolaidd ar gyfer plant o dan un oed, gan gynnal cyfraddau brechu uchel, dros 95 y cant. Mae’r gwasanaeth iechyd ysgolion yn parhau i roi’r rhaglen frechu ysgolion ar waith mewn amgylchedd heriol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Mae brechu wedi cael effaith enfawr ar hynt y pandemig ac wedi helpu i wanhau'r cysylltiad rhwng y feirws, salwch difrifol, derbyniadau i ysbytai a marwolaeth. Maen nhw wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi'r rhyddid a'r hyder inni ailddechrau ein bywydau yng nghanol argyfwng iechyd byd-eang parhaus.

Mae'r strategaeth hon yn nodi ein cynlluniau ar gyfer 2022 a'r tu hwnt, gan gynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen frechu COVID-19 reolaidd. Byddwn hefyd yn cynllunio ar gyfer yr angen posibl i frechu ar raddfa fwy eto, er mwyn ymateb i don newydd o'r pandemig neu amrywiolyn newydd o'r coronafeirws.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dod ymlaen i gael eu brechu ac wedi gwneud y penderfyniad i ddiogelu eu hunain ac eraill. Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd o bobl sy'n gweithio ar ein rhaglen frechu, gan gynnwys yr holl aelodau o staff a gwirfoddolwyr.

Mae’r strategaeth yn cadarnhau y byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i frechu’r henoed, y rhai sy’n agored i niwed a’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf, gan fod pandemig COVID-19 wedi cael effaith anghymesur arnyn nhw.

Rydym yn parhau i gael ein llywio gan y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf a'r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Phrif Swyddog Meddygol Cymru.

Mae’r strategaeth hefyd yn nodi sut mae byrddau iechyd wedi bod yn ateb anghenion y bobl fwyaf agored i niwed yn eu cymunedau a sut maen nhw wedi sicrhau bod grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol, megis y rhai o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl anabl a phobl sy'n byw mewn cartrefi dan anfantais economaidd, wedi cael gwybodaeth ddibynadwy am frechu.

Bydd yr enghreifftiau hyn o arfer da yn cael eu defnyddio i lunio dyfodol rhaglen frechu Cymru.

Cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd hefyd y bydd ymgyrch brechiadau atgyfnerthu yn cael ei rhoi ar waith yn yr hydref yn 2022. Bydd y manylion yn cael eu cadarnhau maes o law.

Yn ogystal, cadarnhawyd bod gwasanaethau digidol ar gyfer brechiadau nawr ar waith, gan gynnwys gwasanaeth negeseuon testun dwy ffordd ar gyfer aildrefnu apwyntiadau, a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd, a gwasanaeth aildrefnu apwyntiadau ar-lein, a gafodd ei lansio ym mis Chwefror.

Bwriedir i'r gwasanaeth aildrefnu apwyntiadau ar-lein barhau i weithredu ar ôl i'r pandemig ddod i ben, er mwn cefnogi rhaglenni brechu nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19 yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn ystyried sut y gallwn ddarparu’r gwasanaeth aildrefnu apwyntiadau fel rhan o Ap GIG Cymru, yn fuan ar ôl iddo gael ei lansio yn ddiweddarach eleni.