Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd y strategaeth brofi coronafeirws ddiwygiedig heddiw (dydd Iau 28 Ionawr) gan y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y strategaeth brofi wreiddiol ym mis Gorffennaf 2020 ac mae wedi’i diwygio yn sgil ein gwell dealltwriaeth o’r feirws, datblygu technoleg brofi newydd, a chyflwyno ein rhaglen frechu. Mae’r strategaeth newydd hefyd yn ehangu ar ein dull gweithredu o ran profi i gynnwys profion mwy rheolaidd ar gyfer staff y GIG a staff cartrefi gofal a chleifion mewn ysbytai.

Mae fframwaith profi cymunedol hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw sy’n adeiladu ar y cynlluniau peilot ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Isaf i brofi pobl heb symptomau er mwyn atal lledaeniad y feirws.

Mae strategaeth ddiwygiedig heddiw yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth a ganlyn:

  • Profi i wneud diagnosis - Profi cleifion pan gânt eu derbyn i'r ysbyty, cleifion sy’n datblygu symptomau yn yr ysbyty, cleifion heb symptomau bum diwrnod ar ôl iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty a phobl y trefnwyd ymlaen llaw iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty i ddiogelu cleifion a fyddai'n wynebu mwy o risg.
  • Profi i ddiogelu - Profi staff y GIG a staff cartrefi gofal, staff byw â chymorth, staff sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed mewn ysgolion arbennig, staff gofal cartref a staff carchardai heb symptomau yn rheolaidd.
  • Profi i ddarganfod – Parhau i brofi unrhyw un sy’n meddwl bod ganddynt symptomau i adnabod ac ynysu achosion o COVID-19 yn y gymuned, lleihau trosglwyddiad yr haint, cefnogi ymdrechion i olrhain cysylltiadau, diogelu unigolion agored i niwed a helpu i arafu neu atal lledaeniad yr haint.
  • Profi i gynnal gwasanaethau – Profi’r gweithlu yn rheolaidd mewn gwahanol leoliadau i ddarganfod achosion a chanfod a allai cynnig profion rheolaidd i unigolion heb symptomau sydd wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif alluogi i bobl aros yn y gwaith neu yn yr ysgol yn ddiogel yn hytrach na hunanynysu am 10 diwrnod. Rydym wrthi’n cynnal cynllun peilot ac yn gwerthuso’r dull hwn.
  • Profi i alluogi – Ystyried sut y gall profion weithio ochr yn ochr â brechiadau i alluogi pobl sy'n cael canlyniadau negatif neu'r rhai sy'n arddangos y lefel ofynnol o wrthgyrff yn eu system i deithio yn rhyngwladol, i fynd i’r gwaith neu i ddigwyddiadau diwylliannol neu chwaraeon neu i gwrdd â theulu a ffrindiau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

Mae profion wedi parhau i chwarae rhan ganolog yn ein dull cyffredinol o atal trosglwyddiad COVID-19 ar draws Cymru.

Ers i'r strategaeth ddiwethaf gael ei chyhoeddi, mae technolegau profi newydd wedi dangos bod modd profi ar raddfa lawer mwy ac yn llawer amlach a chyflymach nag erioed o'r blaen. Bydd profi yn parhau i fod yn bwysig wrth inni gyflwyno’r brechlyn. Ar ôl cael y brechlyn, mae’n hanfodol fod pobl yn dal ati i ddilyn y canllawiau a chael prawf os ydynt yn arddangos symptomau.

Heddiw, rwy’n amlinellu ein dull diwygiedig fel y gallwn barhau i ddiogelu ein pobl fwyaf agored i niwed a diogelu’r GIG. Mae’r strategaeth hefyd yn edrych i’r dyfodol ar sut y gallwn ddefnyddio profion fel dull diogelu priodol ac effeithiol ochr yn ochr â’r brechlyn wrth inni ddychwelyd i normalrwydd.