Heddiw, mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans wedi cyhoeddi bod Michael Imperato a Frank Cuthbert wedi’u penodi’n aelodau o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 prif gyngor, gan gynnwys y nifer o gynghorwyr a wardiau ym mhob ardal cyngor.
Mae Michael Imperato yn gyfarwyddwr yng nghwmni cyfreithwyr Watkins and Gunn. Mae’n aelod annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn aelod o banel cadeiryddion Tribiwnlys Prisio Lloegr, yn ysgolor gwadd ym Mhrifysgol Abertawe ac yn ymddiriedolwr Sefydliad Bevan. Bydd yn ymuno â’r Comisiwn o 1 Mawrth.
Cyn ymddeol yn 2018, roedd Frank Cuthbert yn arweinydd tîm yn Isadran Democratiaeth Leol Llywodraeth Cymru, ac roedd yn gyfrifol am gynghori Gweinidogion Cymru ar gynigion deddfwriaethol a pholisi yn ymwneud â’r Comisiwn. Bydd yn ymuno â’r Comisiwn o 1 Ebrill.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans:
"Mae’n bleser gennyf benodi Michael Imperato a Frank Cuthbert yn aelodau o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
“Byddant yn cyfrannu eu profiad a’u dealltwriaeth amhrisiadwy i’r Comisiwn wrth iddo ystyried pa welliannau y gellir eu gwneud i’w broses adolygu cyn dechrau ar y rhaglen nesaf o adolygiadau etholiadol”.
Gwnaed y penodiadau hyn yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
Bydd Michael Imperato a Frank Cuthbert yn cael ffi o £198 y dydd, gydag ymrwymiad amser o 1-2 diwrnod y mis.