Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles wedi cyhoeddi pecyn newydd o gymorth i helpu dinasyddion yr UE i baratoi ar gyfer Brexit a pharhau i fyw a gweithio yng Nghymru.
Mae tua 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw, gweithio ac astudio yng Nghymru ar hyn o bryd, a nifer ohonynt heb gyflwyno cais eto i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU er mwyn aros yn y DU ar ôl Brexit.
Bydd y pecyn newydd o gymorth gan Lywodraeth Cymru yn gwneud y canlynol:
- Cynnig cymorth gyda cheisiadau a rhoi cyngor ar faterion lles a hawliau yn y gweithle drwy rwydwaith Cyngor ar Bopeth ledled Cymru
- Darparu gwasanaeth cynghori ar fewnfudo sy'n cynnig cymorth arbenigol ar gyfer achosion cymhleth, drwy gwmni cyfreithiol sy'n arbenigwyr ar fewnfudo, Newfields Law
- Cynyddu'r ddarpariaeth o ganolfannau cymorth digidol yng Nghymru – i helpu'r rhai heb fynediad at dechnoleg ddigidol i wneud cais am statws preswylydd sefydlog
- Gweithio gydag amrywiol elusennau a phartneriaid ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r angen i wneud cais am statws preswylydd sefydlog mewn cymunedau anodd cyrraedd atynt ac agored i niwed.
Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles:
"Mae Cymru yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd o gefndir amrywiol tu hwnt sy'n cyfoethogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n llwyddiant economaidd. Maen nhw'n ffrindiau i ni, yn gymdogion, cydweithwyr neu hyd yn oed aelodau o'n teulu.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi bob aelod o'n cymuned, beth bynnag eu cenedligrwydd neu statws mewnfudo. Rwy' am ddweud yn glir - rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad enfawr i'n cymdeithas.
"Ond mae nifer o ddinasyddion yr UE yn wynebu dyfodol ansicr. Bydd cyngor a chymorth penodol sy'n goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu ac sydd wedi'i dargedu yn union lle mae ei angen yn helpu pobl i ddeall eu hawliau a gwneud penderfyniadau doeth dros y misoedd nesaf.
"Rwy'n falch ein bod ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda mudiad the 3 Million - sy'n siarad ar ran dinasyddion yr UE - ac rydyn ni'n bwriadu gweithio'n agosach fyth gyda nhw yn y dyfodol.
"Os bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn gadael y Deyrnas Unedig, gallai'r effaith yma yng Nghymru, yn ein cymuned a'n gweithleoedd, fod yn ddramatig. Rhaid i ni godi ymwybyddiaeth am hawliau dinasyddion er mwyn eu helpu i aros yma ac i ffynnu."
Fel rhan o'r prosiect, bydd gwefan newydd yn cael ei lansio i hyrwyddo'r amrywiol gymorth sydd ar gael i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru.