Bydd rhaid i bobl ddangos Pàs COVID y GIG i fynd i glybiau nos a digwyddiadau yng Nghymru o fis nesaf ymlaen, cyhoeddodd y Prif Weinidog heddiw.
Mae'r mesur yn cael ei gyflwyno i helpu i reoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r achosion yn uchel iawn yng Nghymru ar hyn o bryd, ond bydd y lefel rhybudd yn parhau ar sero am y tair wythnos nesaf.
Wrth gyhoeddi canlyniad yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o'r rheoliadau coronafeirws, fe wnaeth y Prif Weinidog heddiw annog pawb i weithio gartref pan fo modd, gan sicrhau eu bod yn cael eu brechu'n llawn.
Bydd ymwybyddiaeth o fesurau diogelu Covid allweddol eraill a chamau i’w gorfodi yn cynyddu. Bydd y mesurau hyn yn cynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Ledled Cymru, mae achosion o’r coronafeirws wedi codi i lefelau uchel iawn dros yr haf wrth i ragor o bobl ddod at ei gilydd a chyfarfod ac, yn drasig, mae rhagor o bobl yn marw o'r feirws ofnadwy hwn.
"Y cyngor cryf iawn rydyn ni wedi’i gael gan ein cynghorwyr gwyddonol yw cymryd camau cynnar i atal heintiau rhag cynyddu ymhellach.
"Y peth olaf rydyn ni am ei weld yw rhagor o gyfyngiadau symud a busnesau yn gorfod cau eu drysau eto. Dyna pam mae rhaid inni gymryd camau bach ond ystyrlon yn awr i reoli lledaeniad y feirws a lleihau'r angen am fesurau llymach yn nes ymlaen."
Daw'r gofyniad i ddangos Pàs COVID y GIG i rym ar 11 Hydref. Bydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed gael Pàs COVID y GIG i fynd i’r canlynol:
- Clybiau nos
- Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau
- Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
- Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl
Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Mae fy neges ichi heddiw yn syml ond yn ddifrifol – nid yw'r pandemig ar ben ac mae angen i bob un ohonom gymryd camau i’n diogelu ein hunain a'n hanwyliaid.
"Mae gennym lefelau uchel o'r feirws yn ein cymunedau ac, er bod ein rhaglen frechu wych wedi helpu i atal miloedd yn rhagor o bobl rhag mynd yn ddifrifol wael neu farw, mae'r pwysau ar y GIG yn cynyddu.
"Rydyn ni’n gobeithio y bydd cyflwyno'r gofyniad i ddangos Pàs COVID yn helpu i gadw lleoliadau a digwyddiadau – llawer ohonynt ond wedi dechrau masnachu eto yn ddiweddar – ar agor.
"Mae dangos Pàs COVID eisoes yn rhan o'n hymdrech ar y cyd i gadw busnesau ar agor, ac mae rhai digwyddiadau mawr, fel gŵyl lwyddiannus y Dyn Gwyrdd, yn eu defnyddio. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r holl fusnesau yr effeithir arnynt i sicrhau bod y system hon yn cael ei chyflwyno a'i gweithredu'n ddidrafferth.
"Rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu Cymru wrth i’r hydref nesáu."