Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol newydd i baratoi'r ffordd ar gyfer datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru.
Bydd y panel arbenigol, sy'n cael ei sefydlu fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn darparu argymhellion ac opsiynau i helpu i gryfhau cyfryngau Cymru, a chefnogi'r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas i'r diben i Gymru.
Bydd y panel yn cynghori ac yn darparu argymhellion ac opsiynau i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
Byddai cylch gwaith yr Awdurdod yn cynnwys ceisio cryfhau democratiaeth Cymru a chau'r bwlch gwybodaeth; dwyn ynghyd a chydgysylltu mewn ffordd strwythuredig ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru, a datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol, megis amam.cymru; gwneud y cyfryngau’n fwy lluosogaethol a defnyddio'r Gymraeg ar holl blatfformau’r cyfryngau. Byddai hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sylfaen dystiolaeth gref i gefnogi'r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.
Bydd y Panel Arbenigol yn cael ei gyd-gadeirio gan y darlledwr profiadol o Gymru Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.
Mae aelodau'r panel yn cynnwys:
- Nia Ceidiog
- Dr Llion Iwan
- Arwel Ellis Owen
- Ceri Jackson
- Clare Hudson
- Dr Ed Gareth Poole
- Richard Martin
- Geoff Williams
- Shirish Kulkarni
- Carwyn Donovan
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Rwy'n falch iawn y gallwn heddiw gyhoeddi aelodau'r panel arbenigol a all, gyda'u cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, ein helpu i edrych ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
“Ceir consensws nad yw'r fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn diwallu anghenion Cymru a bod angen cymryd camau i ddatblygu fframwaith sy'n fwy addas i'r diben.
“Mae bygythiadau parhaus ac ymosodiadau ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, a chyhoeddiadau diweddar gan Weinidogion y DU am ddyfodol ffi drwydded y BBC a phreifateiddio Channel 4, yn cryfhau'r achos bod y system bresennol yn ddiffygiol.
“Rwy'n edrych ymlaen at gael argymhellion y Panel Arbenigol fel y gallwn greu fframwaith cyfathrebu a darlledu sy'n gweithio i Gymru.”
Yn y Cytundeb Cydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cytuno y dylid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i'r Senedd.
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell:
“Mae gan hyn y potensial i fod yn ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn i’n democratiaeth. Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth.
“Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu yn ein gwlad sy’n gallu gwarchod, arallgyfeirio a gwella ein platfformau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen. Mae cyfryngau lleol a chenedlaethol bywiog yn hanfodol i adlewyrchu tapestri bywyd ledled y wlad – trafod, rhoi gwybodaeth a dathlu ein holl ddiwylliannau a’n cymunedau.
“Mae ein ffordd o weithio er budd y cyhoedd yng Nghymru yn gwbl groes i ffordd o weithio Llywodraeth y DU sy'n canolbwyntio ar Lundain ac ar wneud elw ar draul pawb a phopeth. Rydym yn credu mewn dyfodol lle ceir cyfryngau lluosog, democrataidd, wedi’u gwreiddio'n lleol sy'n gwella bywyd cenedlaethol Cymru.”