Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw y bydd Gwasanaeth Rhywedd newydd Cymru yn dechrau gweld cleifion ym mis Medi.
Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol, sef Tîm Rhywedd Cymru, ynghyd â Thimau Rhywedd Lleol ym mhob bwrdd iechyd, a Gwasanaeth Ychwanegol dan Gyfarwyddyd i wella’r cymorth mewn gofal sylfaenol.
Bydd Tîm Rhywedd Cymru yn cael ei leoli yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd, a bydd yn dechrau gweld cleifion newydd ym mis Medi, fel rhan o broses o roi’r gwasanaeth newydd ar waith fesul cam.
Bydd Tîm Rhywedd Cymru yn dechrau ar gyfnod o ymgysylltu ym mis Gorffennaf a mis Awst, gyda rhanddeiliaid allweddol a Bwrdd Partneriaeth Hunananiaeth Rhywedd Cymru, er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion ein cymuned draws.
Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro hefyd yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar eu gwefannau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
Sefydlu’r Gwasanaeth Rhywedd newydd i Gymru yw’r cam cyntaf yn y broses o alluogi pobl i gael gafael ar wasanaethau yn nes at ble maen nhw’n byw. Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â’n rhanddeiliaid wrth i’r gwasanaeth newydd esblygu.